[ Neidio i Gynnwys ]

Cymuned Ymarfer 1: Cydweithio fel ffordd o fynd i'r afael â thlodi plant.

Trosolwg

Cost: Am ddim

O dan Flaenoriaeth 5 (galluogi cydweithio ar lefel ranbarthol a lleol) Strategaeth Tlodi Plant Cymru,  mae ymrwymiad i sefydlu a chefnogi dull Cymunedau Ymarfer o fynd i'r afael â thlodi plant. Mae'r fforwm hwn yn hwyluso cyfleoedd i dod â chydweithwyr o bob rhan o'r sector gwasanaethau cyhoeddus a'r trydydd sector ynghyd i gymharu gwersi a ddysgwyd a rhannu arferion da i gefnogi dull cydgysylltiedig o ariannu, datblygu a gweithredu gwaith i greu ‘Cymru Fwy Cyfartal’

Ym mis Ebrill cynhaliwyd digwyddiad ar-lein i ddechrau'r sgwrs am ddatblygu'r dull hwn. Daeth dros 120 o gynrychiolwyr sefydliadau yn y sector cyhoeddus a'r trydydd sector i'r digwyddiad. Rydym yn ddiolchgar iawn i bawb a oedd yn bresennol ac a gyfrannodd at y trafodaethau yn y digwyddiad ac i'r rhai a gwblhaodd yr arolwg dilynol.

Hwn fydd cyfarfod cyntaf y 'Gymuned Ymarfer Graidd' lle byddwn yn ystyried rhwystrau ac atebion ar gyfer cydweithio  er mwyn mynd i'r afael â thlodi plant.

Mae lleoedd yn y digwyddiad wedi'u cyfyngu i'r rhai sydd wedi derbyn y ddolen trwy e-bost.  Mae'n rhaid i chi gofrestru i sicrhau eich lle.  Y dyddiad cau ar gyfer cofrestru yw amser, 11 o Medi 2024. 

Mae papur (Dogfen 1) sy'n amlinellu ein dull gweithredu Cymuned Ymarfer a phapur dilynol a chamau nesaf (Dogfen 2) ar gael yn y dolenni isod.

Bydd yr agenda ar gael yn agosach at yr amser.

Byddwn yn dyrannu ystafelloedd penodol ar gyfer sesiynau ymneilltuo drwy'r ddolen Tim. 

Mae mwy o fanylion am y Strategaeth Tlodi Plant ar gael yn Strategaeth Tlodi Plant Cymru 2024 | LLYW.CYMRU    

Dyddiadau

18 Medi 2024, 13:00 - 14:45
Digwyddiad ar-lein

Cost: Am ddim

Dim ond 65 lleoedd ar ôl ar y digwyddiad hwn.

Archebwch nawr i osgoi cael eich siomi

Amodau arbennig

Mae cofrestru yn hanfodol.

Os hoffech gyfrannu yn Gymraeg rhowch wybod i ni.


Mae Llywodraeth Cymru yn trefnu gwahanol fathau o ddigwyddiadau i'n helpu yn y gwaith a wnawn. Beth bynnag yw pwrpas y digwyddiad, bydd angen eich data personol arnom os byddwch yn mynychu. Bydd hyn yn cynnwys eich enw, manylion cyswllt, y sefydliad rydych chi'n dod ohono.  Byddwn yn defnyddio eich manylion cyswllt i anfon gwybodaeth atoch am fynychu'r digwyddiad ac efallai y byddwn yn anfon deunydd atoch o'r digwyddiad wedyn.

Byddwn yn cadw eich gwybodaeth bersonol am ddim mwy na blwyddyn ar ôl unrhyw ddigwyddiad rydych yn ei fynychu.  Os ydym am ddefnyddio eich data personol am unrhyw reswm heblaw am drefnu'r digwyddiad, byddwn yn gofyn i chi am hyn fel rhan o'r broses archebu.

Termau

Gweler yma i weld sut mae Llywodraeth Cymru yn trin eich gwybodaeth . Os ydych yn archebu lle ar ddigwyddiad Busnes Cymru neu Lywodraeth Cymru , mae'n bosibl y byddwn yn defnyddio'r wybodaeth a rowch i gynnig gwasanaethau personol neu leol chi , i roi gwybod i chi am newidiadau i'n gwasanaeth , i ofyn eich barn ac i helpu ni i wella ein gwasanaethau .

Mae wefannau y byddwn yn cysylltu â nhw yn debygol o fod gyda Thelerau ac Amodau sy'n wahanol i'n rhai ni . Peidiwch â chymryd yn ganiataol bod ein Telerau ac Amodau yn berthnasol i wefannau eraill.

Gwybodaeth Ychwanegol

Trefnydd y digwyddiad

Llywodraeth Cymru
Swyddfeydd Llywodraeth Cymru / Welsh Government Offices
Parc Cathays / Cathays Park
Caerdydd / Cardiff
CF10 3NQ
United Kingdom


Use default
E-bost | Gwefan