Fordwyaeth
Cost: Am ddim
Bydd y weminar hon yn cefnogi Busnesau Arloesi a Thwf Newydd i gael gwell dealltwriaeth o’r prif wahaniaethau rhwng cyllid dyled a chyllid ecwiti, gan gynnwys enghreifftiau o lwybrau ariannu cyffredin fel benthyciadau banc traddodiadol, ariannu Banc Datblygu Cymru, Benthyciadau Busnesau Newydd Banc Busnes Prydain, cyfalaf menter, buddsoddiadau angel ac ariannu torfol ecwiti. Bydd y sesiwn yn amlinellu’r manteision, anfanteision ac ystyriaethau cyffredinol sy’n gysylltiedig â phob opsiwn, gan gynnwys y goblygiadau posibl ar gyfer cyfranddaliadaeth a pherchnogaeth fusnes. Bydd hefyd yn rhoi trosolwg o SEIS, gan gynnwys sut allai busnesau elwa ohono, ystyriaethau cymhwysedd, sut i gofrestru, a phryd ddylai busnesau ddechrau meddwl amdano. Bydd y weminar yn cadw’n ddiduedd ac yn llawn gwybodaeth drwyddi draw. Bydd mynychwyr yn cael eu hannog i ystyried eu hamgylchiadau eu hunain, ceisio cyngor proffesiynol priodol lle bo angen, a gwneud eu penderfyniadau gwybodus eu hunain ynghylch pa opsiwn cyllid neu ariannu fyddai fwyaf addas i’w busnes. Ni fydd yn argymell un llwybr ariannu dros un arall nac yn rhoi cyngor ariannol unigol.
Bio cynghorydd –
Mae gan Jason MacVicar, Pennaeth Gwasanaethau Cleient yn Elevate, ddegawd o brofiad yn gweithio gyda busnesau bach a chanolig o ystod eang o ddiwydiannau, strwythurau busnes, camau bywyd busnes a strwythurau perchnogaeth - o unigolion yn gweithredu fel unig fasnachwyr yn cymryd eu camau cyntaf ar ôl cyflogaeth, i gwmnïau cyfyngedig aeddfed a sefydledig, a grwpiau o gwmnïau dan berchnogaeth endidau tramor gyda gofynion adrodd a arweinir gan y farchnad stoc. Mae Jason a thîm Elevate wedi cefnogi busnesau drwy anawsterau ariannol, gan estyn allan i gyllidwyr er mwyn sicrhau sefydlogrwydd o ran llif arian; delio ag anawsterau cychwynnol busnesau drwy ddadansoddi maint elw ac amlygu asedau na chânt eu defnyddio’n ddigonol; a thrafod ymadael busnes yn y pen draw, gan gynnwys drwy bryniant rheolwyr, trosglwyddo i’r genhedlaeth iau neu werthiannau allanol i drydydd partïon (yn gystadleuwyr a chyfalafwyr menter).
Mae’r digwyddiad yma yn cael ei gynnal gan Busnes Cymru ar ran Llywodraeth Cymru
Mae Busnes Cymru yn wasanaeth dwyieithog ac mae ein digwyddiadau a'n gweithdai ar gael yn y Gymraeg a'r Saesneg, ar ôl cofrestru, rhowch wybod i ni beth yw eich dewisiadau iaith.
Gweler yma i weld sut mae Busnes Cymru yn trin eich gwybodaeth . Os ydych yn archebu lle ar ddigwyddiad Busnes Cymru neu Lywodraeth Cymru , mae'n bosibl y byddwn yn defnyddio'r wybodaeth a rowch i gynnig gwasanaethau personol neu leol chi , i roi gwybod i chi am newidiadau i'n gwasanaeth , i ofyn eich barn ac i helpu ni i wella ein gwasanaethau .
Mae wefannau y byddwn yn cysylltu â nhw yn debygol o fod gyda Thelerau ac Amodau sy'n wahanol i'n rhai ni . Peidiwch â chymryd yn ganiataol bod ein Telerau ac Amodau yn berthnasol i wefannau eraill.
Bydd y wybodaeth a ddarparwch fel rhan o'r archeb yn cael ei chadw am hyd at 7 diwrnod ar ôl i'r digwyddiad ddod i ben.
Busnes Cymru
Welsh Government
Sarn Mynach
Llandudno Junction
Conwy
LL31 9RZ
United Kingdom