[ Neidio i Gynnwys ]

Prosiectau sy'n seiliedig ar ddata ar draws y cwricwlwm cynradd - WD012

Trosolwg

Cost: Am ddim

Crynodeb

Disgwylir i fwy o ymarferwyr cynradd ymgorffori data, cymhwysedd digidol a meddwl cyfrifiadurol ar draws y Meysydd Dysgu a Phrofiad (MDPh). Fodd bynnag, mae hyder wrth ddefnyddio dyfeisiau cyfrifiadurol ffisegol fel y Micro:bit ar gyfer casglu data go iawn yn amrywio'n fawr. Mae'r cwrs hwn yn mynd i'r afael â'r angen am hyfforddiant hygyrch, ymarferol sy'n galluogi athrawon i gasglu, dadansoddi a chymhwyso data yn ystyrlon ar draws y cwricwlwm, gan gefnogi dilyniant yn CC1–3 a gwella datblygiad sgiliau digidol.

I bwy mae o?

Athrawon ac arweinwyr mewn lleoliadau cynradd, mewn ysgolion gwladol yng Nghymru

Pa bynciau sy'n cael eu trafod?

  • Cyflwyniad i ddefnyddio'r Micro:bit
  • Sesiynau ymarferol ar ddefnyddio'r Micro:bit ar draws Meysydd Dysgu a Phrofiad
  • Deall systemau mewnbwn (e.e. botymau, synwyryddion golau, mesurydd cyflymiad)
  • Llawrlwytho'r data, dadansoddi, cyflwyno a dod i gasgliadau
  • Archwilio'r cymhwysiad ym mhrosiect/themâu'r cyfranogwyr eu hunain
  • Defnyddio Dysgu Peirianyddol i hyfforddi model i adfer data penodol
  • Mapio ymarferion casglu data i'r FfCD a'r Meysydd Dysgu a Phrofiad

Pa mor hir yw'r cwrs?

Mae'r cwrs hwn tua 6 awr o ddysgu o bell byw

Sut fyddwch chi'n dysgu?

Bydd y cwrs o bell ar-lein byw hwn yn eich galluogi i gymryd rhan mewn trafodaethau a gweithgareddau gyda chyfranogwyr eraill, dan arweiniad arweinydd datblygiad proffesiynol STEM.

Canlyniadau

Erbyn diwedd y cwrs hwn, byddwch yn gallu:
  • Deall beth mae cofnodwyr data yn ei wneud a chydnabod y manteision y maent yn eu cynnig ar gyfer addysgu a dysgu
  • Sefydlu a defnyddio Micro:bits yn effeithiol
  • Dylunio a chyflwyno gweithgareddau codio trawsgwricwlaidd ar draws pob un o'r chwe Maes Dysgu a Phrofiad
  • Cefnogi dysgwyr i lawrlwytho, dadansoddi a dehongli setiau data o'r byd go iawn
  • Archwilio cymwysiadau dysgu peirianyddol cyflwyniadol a nodi cyfleoedd ar gyfer ymchwiliad dan arweiniad disgyblion
  • Cynllunio prosiectau sy'n cael eu gyrru gan ddata sy'n gysylltiedig â chamau cynnydd CC1–3 ac wedi'u halinio â'r Cwricwlwm i Gymru

Dyddiadau

23 Gorffennaf 2026 - 24 Gorffennaf 2026, 09:00 - 12:00
Digwyddiad ar-lein

Cost: Am ddim

Sesiwn 1/2 - 23/07/2026 - 09:00-12:00

Sesiwn 3/4 - 24/07/2026 - 09:00-12:00

Termau

Trefnydd y digwyddiad

STEM Learning Limited
National STEM Learning Centre
Heslington
York
YO10 5DD
United Kingdom: England


01904328300
E-bost | Gwefan