[ Neidio i Gynnwys ]

Pŵer Partneriaethau ym maes Adeiladu

Trosolwg

Cost: Am ddim

Crynodeb

 

Mae gwneud ceisiadau drwy gydweithredu a phartneriaeth yn llwybrau cynyddol bwysig i fusnesau adeiladu Cymru sy'n dymuno cael mynediad at gontractau cyhoeddus a chystadlu am gyfleoedd mwy o faint. 

Ond sut mae cais cydweithredol yn gweithio yn ymarferol, a beth ddylai cyflenwyr ei ystyried wrth ffurfio partneriaethau?

Bydd y digwyddiad hwn a ariennir yn llawn yn archwilio sut y gall cydweithredu ar draws y gadwyn gyflenwi adeiladu helpu busnesau i ddod o hyd i gontractau, ennill gwaith newydd a chreu perthnasoedd cryfach â phrynwyr. Byddwch yn clywed gan fusnesau o Gymru sydd wedi gweithio gyda'i gilydd yn llwyddiannus i sicrhau contractau sector cyhoeddus, ochr yn ochr â mewnwelediadau arbenigol gan brynwyr ac arbenigwyr caffael.

Bydd y digwyddiad hefyd yn tynnu sylw at gyfleoedd i wneud cais ar y cyd sydd ar ddod ac yn darparu amser rhwydweithio gwerthfawr i gyflenwyr gysylltu â darpar bartneriaid. Wedi'i gynllunio ar gyfer cyflenwyr, prynwyr ac arweinwyr busnes yr Economi Sylfaenol, bydd yn dangos sut y gall cydweithredu leoli'ch busnes i ennill mwy o gontractau cyhoeddus a rhai mwy o faint .

 

Beth fydd cynnwys y cwrs?

 

Gosod y cefndir
Cewch glywed gan arbenigwyr caffael ac adeiladu ar y rôl y mae cydweithio yn ei chwarae mewn caffael cyhoeddus modern a sut mae prynwyr yn annog gweithio mewn partneriaeth.

Mewnwelediadau arbenigol
Cyfle i dderbyn canllawiau clir, ymarferol ar gais cydweithredol, gan gynnwys yr hyn y mae Deddf Caffael Gyhoeddus 2023 yn ei olygu i gyflenwyr a'r cyfleoedd newydd y mae'n eu creu. Dysgwch am yr offer a'r gefnogaeth sydd ar gael i helpu i gryfhau'ch dull o wneud cais.

Cwrdd â'r prynwyr
Cyfle i wybod sut mae prynwyr sector cyhoeddus yn defnyddio cydweithredu a dysgu am gyfleoedd contract sydd ar ddod sy'n berthnasol i chi.

Rhwydweithio a chysylltu
Cyfle i gwrdd â phrynwyr yn y sector cyhoeddus, darpar bartneriaid cyflenwi a busnesau eraill yng Nghymru. Dysgwch fwy am GwerthwchiGymru a gwneud gysylltiadau gwerthfawr dros baned.

 

Ar gyfer pwy mae'r digwyddiad?

 

Mae'r digwyddiad hwn yn addas ar gyfer cyflenwyr sy'n gweithredu mewn sectorau adeiladu, neu'n eu cyflenwi, a sectorau sy’n gysylltiadau ag eiddo, gan gynnwys tai, twristiaeth ac eiddo masnachol, gofal ac eiddo iechyd, sifil a thrafnidiaeth, cyfleustodau ac ynni.

Bydd yn arbennig o werthfawr i fusnesau bach a chanolig, mentrau cymdeithasol a chyflenwyr sydd â diddordeb mewn cydweithredu, cynnig partneriaeth a dod o hyd i gyfleoedd contract sector cyhoeddus.

 

 

Pwysig - Mae'r digwyddiad hwn ar gyfer busnesau bach a chanolig eu maint yng nghymru ac mae wedi'i gyfyngu i ddau gynrychiolydd o bob busnes.
 

Caiff y digwyddiad hwn ei gyflwyno gan Busnes Cymru ar ran Llywodraeth Cymru.

Dyddiadau a lleoliadau

23 Chwefror 2026, 09:30 - 15:00
Cardiff Business School, Cardiff, CF10 3EU

Cost: Am ddim

Gweld lleoliad

Amodau arbennig

Mae Busnes Cymru yn wasanaeth dwyieithog ac mae ein digwyddiadau a'n gweithdai ar gael yn y Gymraeg a'r Saesneg, ar ôl cofrestru, rhowch wybod i ni beth yw eich dewisiadau iaith.

 

Sylwch: Efallai y bydd ffotograffydd yn bresennol yn y digwyddiad.
Os byddai’n well gennych beidio â chael eich tynnu ar lun, rhowch wybod i aelod o’r staff pan fyddwch yn cyrraedd.

 

Hysbysiad Diogelu Data a Rheoliad Diogelu Data Cyffredinol (GDPR):

Bydd manlion eich archeb yn cael ei rhanu gyda Busnes Cymru at ddibenion cydlynu digwyddiadau a chaffael. Drwy archebu, rydych yn rhoi eich caniatâd i rhannu'r data hwn.

Termau

Gweler yma i weld sut mae Busnes Cymru yn trin eich gwybodaeth . Os ydych yn archebu lle ar ddigwyddiad Busnes Cymru neu Lywodraeth Cymru , mae'n bosibl y byddwn yn defnyddio'r wybodaeth a rowch i gynnig gwasanaethau personol neu leol chi , i roi gwybod i chi am newidiadau i'n gwasanaeth , i ofyn eich barn ac i helpu ni i wella ein gwasanaethau .

Mae wefannau y byddwn yn cysylltu â nhw yn debygol o fod gyda Thelerau ac Amodau sy'n wahanol i'n rhai ni . Peidiwch â chymryd yn ganiataol bod ein Telerau ac Amodau yn berthnasol i wefannau eraill.

Bydd y wybodaeth a ddarparwch fel rhan o'r archeb yn cael ei chadw am hyd at 7 diwrnod ar ôl i'r digwyddiad ddod i ben.

Gwybodaeth Ychwanegol

Trefnydd y digwyddiad

Busnes Cymru
Sarn Mynach
Llandudno Junction
Conwy
LL31 9RZ
United Kingdom: Wales


03000 6 03000
E-bost | Gwefan