Fordwyaeth
Cost: Am ddim
Ymunwch â ni mewn digwyddiad ar fferm yn Pant Farm sy’n canolbwyntio ar ddatblygu ynni a thechnoleg ym maes ffermio llaeth gyda Conor Hogan, Teagasc Moorepark a Jonathan Sandercock, NFU Energy. Byddwn yn edrych ar atebion ymarferol a'r gwir elw o ganlyniad i fuddsoddiad i'ch helpu i adeiladu dyfodol mwy cynaliadwy a phroffidiol i'ch busnes llaeth.
Byddwn yn trafod:
Dod o hyd i'r gwir elw o ganlyniad i fuddsoddiad ar dechnoleg: Mae byd technoleg llaeth a Deallusrwydd Artiffisial yn datblygu'n gyflym, gan gynnig amrywiaeth eang o ddewisiadau. Ond pa osodiadau sy'n sicrhau'r elw gorau o ganlyniad i fuddsoddiad i'ch uned laeth? Bydd Conor yn rhannu mewnwelediadau gwerthfawr o waith ymchwil diweddar yn Iwerddon ac yn trafod manteision posibl integreiddio technoleg i wella ffrwythlondeb, hybu cynhyrchiant, gwella iechyd anifeiliaid a mynd i’r afael â materion metabolaidd, a hynny wrth ystyried enillion hanfodol mewn effeithlonrwydd llafur.
Ynni a Chyfleoedd Adnewyddadwy: Gyda phrisiau ynni cynyddol yn her sylweddol, byddwn yn edrych ar ffyrdd i leihau defnydd a chostau ynni eich fferm. Bydd NFU Energy yn rhannu canfyddiadau allweddol o brosiect Cyswllt Ffermio diweddar ar ddefnydd ynni ar draws ffermydd Cymru. Byddant hefyd yn trafod ystod o atebion a'r cyfleoedd a gyflwynir gan dechnolegau ynni adnewyddadwy.
Nid yw neilltuo lle yn hanfodol ond anogir i chi wneud at ddibenion arlwyo.
I neilltuo eich lle ar gyfer y digwyddiad hwn, cofrestrwch isod neu cysylltwch â Gwenan Evans ar 07985 379819 / gwenan.evans@mentera.cymru
Sicrhewch eich bod yn cwblhau pob cam yn y broses o 1 i 4 er mwyn archebu eich lle. Byddwch yn gweld neges “Diolch” unwaith y bydd pob cam wedi’i gwblhau. |
Telerau Busnes
Mae eich preifatrwydd yn bwysig i Cyswllt Ffermio ac yn unol â'r rheoliad diogelu data cyffredinol (GDPR), mae hysbysiad preifatrwydd digwyddiadau yn rhoi gwybod i chi pam ein bod yn casglu, defnyddio a phrosesu eich gwybodaeth a phwy fydd yn cael mynediad iddi. Drwy archebu lle ar gwrs neu ddigwyddiad Cyswllt Ffermio, rydych yn derbyn y telerau a'r amodau hyn.
Drwy drefnu lle yn un o ddigwyddiadau/cyrsiau Cyswllt Ffermio neu Lywodraeth Cymru, rydych yn derbyn telerau ac amodau cyffredinol defnyddio gwasanaethau ar-lein Llywodraeth Cymru, ac yn derbyn Hysbysiad Prosesu Teg Cyswllt Ffermio.
Gallwn hefyd ddefnyddio'r wybodaeth rydych yn ei rhoi i gynnig gwasanaethau personol neu leol i chi, rhoi gwybod i chi am newidiadau i'n gwasanaeth, holi eich barn a'n helpu i wella ein gwasanaethau.
Mae'n debygol y bydd gan wefannau rydym yn rhoi dolen iddynt Delerau ac Amodau sy'n wahanol i'n rhai ni. Peidiwch â thybio bod ein Telerau ac Amodau yn berthnasol i wefannau eraill.
Mae cynrychiolwyr yn cydnabod bod deunyddiau cyrsiau a rhaglenni neu gopïau ohonynt yn eiddo i ddarparwyr hyfforddiant ac y gallant fod yn destun hawlfraint. Cytunir na fydd cynrychiolydd na'i gorff noddi yn copïo'r deunyddiau hynny, yn llawn neu'n rhannol, heb gael caniatâd ysgrifenedig darparwr yr hyfforddiant.
Rydym yn cadw'r hawl i ganslo neu ddiwygio amser y sesiynau hyn unrhyw bryd hyd at amser dechrau'r sesiwn; rhoddir gwybodaeth unigol am bob cwrs.
Gall cynrychiolwyr hefyd ganslo eu lle unrhyw bryd drwy ddilyn y ddolen yn yr e-bost a gawsant fel cadarnhad neu drwy gysylltu â'r Ganolfan Gwasanaethau.
Mae Canolfan Gwasanaethau Cyswllt Ffermio ar agor o ddydd Llun i ddydd Gwener rhwng 08:00 a 17:00 ac eithrio Gwyliau Cyhoeddus.
I gael rhagor o wybodaeth am Gyswllt Ffermio, ewch i'n gwefan neu ffoniwch ni ar 03456 000 813.
Mae'r cyfeiriadur yn cynnwys gwybodaeth am ddigwyddiadau sy'n cael eu cynnig gan Gyswllt Ffermio, Llywodraeth Cymru a darparwyr eraill yn y sector cyhoeddus a phreifat. Nid ydym yn gyfrifol am wybodaeth am ddigwyddiadau sy'n cael eu cynnig gan ddarparwyr eraill ac ni allwn gymryd cyfrifoldeb am yr hyn a allai ddigwydd pe baech yn gweithredu ar yr wybodaeth honno.
Farming Connect
Farming Connect
Unit 3, Science Park
Aberystwyth
SY23 3AH
United Kingdom: Wales