[ Neidio i Gynnwys ]

Rheoli Gwastraff eich Busnes

Trosolwg

Cost: Am ddim

Mae gan bob busnes ei faterion a’i broblemau ei hun wrth ymdrin â gwastraff. Yn aml, mae gan ardaloedd trefol Fusnesau Bach a Chanolig mwy o faint ac sydd bennaf yn y sector gweithgynhyrchu/diwydiant ysgafn, tra mae gan ardaloedd gwledig fwy o fusnesau sy’n seiliedig ar ffermio a thwristiaeth, a llawer o fusnesau micro. Mae nifer y contractwyr casglu gwastraff sydd ar gael i fusnes yn ddibynnol ar leoliad y busnes yng Nghymru - bydd gan ardaloedd trefol lawer mwy o ddewis nag ardaloedd gwledig.

Mae’r weminar hon yn rhoi arweiniad a chymorth ymarferol i helpu busnesau ar draws Cymru i reoli eu gwastraff a’u hadnoddau yn well, gan wireddu eu harbedion ariannol ac amgylcheddol.

 

Beth fydd cynnwys y digwyddiad?

  • Hanfodion archwiliadau gwastraff
  • Lleihau gwastraff ac ailddefnyddio
  • Sut i gynyddu ailgylchu i’r eithaf drwy weithgareddau mewnol
  • Asesu'r gwasanaethau optimaidd sydd eu hangen
  • Sut i sicrhau’r gwasanaeth casglu gwastraff gorau
  • Arweiniad ar sut i reoli ffrydiau gwastraff anodd yn y ffordd orau
  • Cyngor a chymorth ar Reoliadau Ailgylchu’r Gweithle

Ar gyfer pwy mae'r gweithdy yma?

Yr holl Fusnesau Bach a Chanolig yng Nghymru sy’n cynhyrchu gwastraff.

 

Caiff y digwyddiad hwn ei gyflwyno gan Busnes Cymru ar ran Llywodraeth Cymru.

Dyddiadau

20 Mawrth 2025, 10:00 - 11:30
Digwyddiad ar-lein

Cost: Am ddim

Mae archebu lle ar gyfer y digwyddiad hwn ar gau erbyn hyn.

Amodau arbennig

Mae Busnes Cymru yn wasanaeth dwyieithog ac mae ein digwyddiadau a'n gweithdai ar gael yn y Gymraeg a'r Saesneg, ar ôl cofrestru, rhowch wybod i ni beth yw eich dewisiadau iaith.

Termau

Gweler yma i weld sut mae Busnes Cymru yn trin eich gwybodaeth . Os ydych yn archebu lle ar ddigwyddiad Busnes Cymru neu Lywodraeth Cymru , mae'n bosibl y byddwn yn defnyddio'r wybodaeth a rowch i gynnig gwasanaethau personol neu leol chi , i roi gwybod i chi am newidiadau i'n gwasanaeth , i ofyn eich barn ac i helpu ni i wella ein gwasanaethau .

Mae wefannau y byddwn yn cysylltu â nhw yn debygol o fod gyda Thelerau ac Amodau sy'n wahanol i'n rhai ni . Peidiwch â chymryd yn ganiataol bod ein Telerau ac Amodau yn berthnasol i wefannau eraill.

Gwybodaeth Ychwanegol

Trefnydd y digwyddiad

Busnes Cymru
Sarn Mynach
Llandudno Junction
Conwy
LL31 9RZ
United Kingdom: Wales


01656 868 500
E-bost | Gwefan