[ Neidio i Gynnwys ]

Rhyddhau eich Potensial Busnes

Trosolwg

Cost: Am ddim

Ydych chi'n meddwl am ddechrau eich busnes eich hun? Rydym yn eich gwahodd i’r Gweithdy ‘Rhyddhau eich Potensial Busnes’. Mae’r digwyddiad grymusol hwn wedi’i ddylunio i’ch ysbrydoli a’ch cefnogi i ymchwilio i gyfleoedd entrepreneuraidd gan ddarparu’r technegau a’r hyder i chwalu rhwystrau ar yr un pryd.

 

Amcanion

Codi ymwybyddiaeth

Magu hyder ac ehangu cysylltiadau o fewn cymunedau

Cysylltu cymunedau gyda'r llwybrau a’r cyfleoedd sy’n cael eu cynnig gan Syniadau Mawr Cymru a Busnes Cymru

Cynnig cyngor a chefnogaeth wedi’u teilwra gan Syniadau Mawr Cymru a Busnes Cymru er mwyn goresgyn heriau

Gweithdy

1.   Magu Hyder: Grymuswch eich hun i oresgyn heriau a dilyn eich amcanion entrepreneuraidd.

2.  Datblygu Sgiliau: Cymryd rhan mewn sesiynau ar bynciau allweddol fel marchnata, cynllunio ariannol a strategaethau twf busnes.

3.  Cyfleoedd i rwydweithio: Cysylltwch gydag unigolion o'r un anian a mentoriaid a all eich tywys ar eich taith entrepreneuraidd.

4. Mynediad at Adnoddau: Dysgwch am y cyllid, mentora a’r cymorth twf sydd ar gael drwy Syniadau Mawr Cymru a Busnes Cymru.

5. Grwpiau Ffocws Rhyngweithiol: Rhannwch eich syniadau a’ch profiadau i helpu i siapio rhaglenni cymorth busnes yn y dyfodol 

 

Beth sy’n cael ei gynnwys:

- Gweithdai a sesiynau grŵp ffocws dan arweiniad arbenigwr

- Trafnidiaeth, lluniaeth a deunyddiau gweithdy

- Cyfleoedd i ymgysylltu â gwasanaethau cymorth entrepreneuraidd arweiniol.

This event is delivered by Business Wales on behalf of the Welsh Government

Dyddiadau

18 Mehefin 2025, 16:30 - 18:00
Digwyddiad ar-lein

Cost: Am ddim

Bydd y gweminar hwn yn cael ei gynnal ar Microsoft Teams

Amodau arbennig

Mae Busnes Cymru yn wasanaeth dwyieithog ac mae ein digwyddiadau a'n gweithdai ar gael yn y Gymraeg a'r Saesneg, ar ôl cofrestru, rhowch wybod i ni beth yw eich dewisiadau iaith.

Termau

Gweler yma i weld sut mae Busnes Cymru yn trin eich gwybodaeth . Os ydych yn archebu lle ar ddigwyddiad Busnes Cymru neu Lywodraeth Cymru , mae'n bosibl y byddwn yn defnyddio'r wybodaeth a rowch i gynnig gwasanaethau personol neu leol chi , i roi gwybod i chi am newidiadau i'n gwasanaeth , i ofyn eich barn ac i helpu ni i wella ein gwasanaethau .

Mae wefannau y byddwn yn cysylltu â nhw yn debygol o fod gyda Thelerau ac Amodau sy'n wahanol i'n rhai ni . Peidiwch â chymryd yn ganiataol bod ein Telerau ac Amodau yn berthnasol i wefannau eraill.

Trefnydd y digwyddiad

Busnes Cymru
Welsh Government
Sarn Mynach
Llandudno Junction
Conwy
LL31 9RZ
United Kingdom


03000 6 03000
E-bost | Gwefan