Fordwyaeth
Cost: Am ddim
Ydych chi'n meddwl am ddechrau eich busnes eich hun? Rydym yn eich gwahodd i’r Gweithdy ‘Rhyddhau eich Potensial Busnes’. Mae’r digwyddiad grymusol hwn wedi’i ddylunio i’ch ysbrydoli a’ch cefnogi i ymchwilio i gyfleoedd entrepreneuraidd gan ddarparu’r technegau a’r hyder i chwalu rhwystrau ar yr un pryd.
Amcanion
Codi ymwybyddiaeth
Magu hyder ac ehangu cysylltiadau o fewn cymunedau
Cysylltu cymunedau gyda'r llwybrau a’r cyfleoedd sy’n cael eu cynnig gan Syniadau Mawr Cymru a Busnes Cymru
Cynnig cyngor a chefnogaeth wedi’u teilwra gan Syniadau Mawr Cymru a Busnes Cymru er mwyn goresgyn heriau
Gweithdy
1. Magu Hyder: Grymuswch eich hun i oresgyn heriau a dilyn eich amcanion entrepreneuraidd.
2. Datblygu Sgiliau: Cymryd rhan mewn sesiynau ar bynciau allweddol fel marchnata, cynllunio ariannol a strategaethau twf busnes.
3. Cyfleoedd i rwydweithio: Cysylltwch gydag unigolion o'r un anian a mentoriaid a all eich tywys ar eich taith entrepreneuraidd.
4. Mynediad at Adnoddau: Dysgwch am y cyllid, mentora a’r cymorth twf sydd ar gael drwy Syniadau Mawr Cymru a Busnes Cymru.
5. Grwpiau Ffocws Rhyngweithiol: Rhannwch eich syniadau a’ch profiadau i helpu i siapio rhaglenni cymorth busnes yn y dyfodol
Beth sy’n cael ei gynnwys:
- Gweithdai a sesiynau grŵp ffocws dan arweiniad arbenigwr
- Trafnidiaeth, lluniaeth a deunyddiau gweithdy
- Cyfleoedd i ymgysylltu â gwasanaethau cymorth entrepreneuraidd arweiniol.
Mae’r digwyddiad yma yn cael ei gynnal gan Busnes Cymru ar ran Llywodraeth Cymru
Mae Busnes Cymru yn wasanaeth dwyieithog ac mae ein digwyddiadau a'n gweithdai ar gael yn y Gymraeg a'r Saesneg, ar ôl cofrestru, rhowch wybod i ni beth yw eich dewisiadau iaith.
Gweler yma i weld sut mae Busnes Cymru yn trin eich gwybodaeth . Os ydych yn archebu lle ar ddigwyddiad Busnes Cymru neu Lywodraeth Cymru , mae'n bosibl y byddwn yn defnyddio'r wybodaeth a rowch i gynnig gwasanaethau personol neu leol chi , i roi gwybod i chi am newidiadau i'n gwasanaeth , i ofyn eich barn ac i helpu ni i wella ein gwasanaethau .
Mae wefannau y byddwn yn cysylltu â nhw yn debygol o fod gyda Thelerau ac Amodau sy'n wahanol i'n rhai ni . Peidiwch â chymryd yn ganiataol bod ein Telerau ac Amodau yn berthnasol i wefannau eraill.
Busnes Cymru
Welsh Government
Sarn Mynach
Llandudno Junction
Conwy
LL31 9RZ
United Kingdom