Fordwyaeth
Cost: Am ddim
Morlais yw prosiect ynni llanw Menter Môn, wedi’i leoli oddi ar arfordir Ynys Cybi, Ynys Môn. Mae’n rheoli ardal o 35km² o wely’r môr, gyda’r potensial i gynhyrchu hyd at 240 MW o ynni carbon isel.
Mae'r prosiect yn ymrwymedig i greu effaith economaidd ranbarthol, tra’n gweithio gyda rhwydwaith eang o gyflenwyr ac arbenigwyr. Mae'r sesiynau un-i-un hyn yn gyfle i fusnesau ac unigolion:
Ddysgu mwy am brosiect Morlais a’r cyfleoedd sydd ar y gweill
Rhannu eu gwybodaeth fusnes i’w chynnwys yn ein cyfeirlyfr cadwyn gyflenwi
Drafod eu gwasanaethau ac archwilio sut gallant gefnogi’r sector ynni llanw
Er bod y prosiect yn canolbwyntio ar gefnogi busnesau yn y Gogledd, mae croeso i gwmniau ac unigolion o rannau eraill o’r DU gofrestru eu diddordeb hefyd.
Os oes gennych ddiddordeb mewn sesiwn un-i-un anffurfiol yn ystod Ebrill neu Fai, cofrestrwch ac fe fydd aelod o dîm Morlais yn cysylltu i drefnu dyddiad ac amser sy’n gweithio i chi. Gellir cynnal y sesiynau dros Microsoft Teams neu, os ydych yn lleol, gallwn drefnu cyfarfod wyneb yn wyneb yn M-SParc, Gaerwen. Gellir darparu’r holl wybodaeth yn Gymraeg neu’n Saesneg.
Bydd gwybodaeth am sesiynau ychwanegol ym mis Mehefin ac ymlaen ar gael maes o law.
Ar gyfer pwy mae’r sesiynau?
Busnesau ac unigolion sydd am:
Wella eu dealltwriaeth o brosiect ynni llanw Morlais
Ymuno â chyfeirlyfr cadwyn gyflenwi Morlais
Archwilio cyfleoedd cydweithio â’r sector ynni llanw
Beth fydd y sesiynau’n eu cynnwys?
Trosolwg o brosiect Morlais
Cyflwyniad i ynni llanw a gofynion y gadwyn gyflenwi
Cyfle i rannu eich gwasanaethau a’ch gwybodaeth fusnes
Canllawiau ar sut i gymryd rhan mewn cyfleoedd caffael sydd ar y gweill
Er mwyn trefnu eich sesiwn un-i-un gyda Morlais, bydd angen i ni gasglu rhai manylion personol gennych, gan gynnwys eich enw a’ch cyfeiriad e-bost.
Byddwn yn defnyddio eich manylion cyswllt i rannu gwybodaeth am y prosiect, awgrymu dyddiadau posib ar gyfer y sesiwn, ac anfon unrhyw ddeunydd perthnasol atoch ar ôl y cyfarfod. Gall yr wybodaeth rydych yn dewis ei rhannu gyda ni hefyd gael ei chynnwys yn ein cyfeirlyfr cadwyn gyflenwi.
I gael gwybod sut rydym yn defnyddio ac yn prosesu gwybodaeth bersonol, darllenwch ein hysbysiad preifatrwydd:
https://www.morlaisenergy.com/en/privacy-policy
We reserve the right to cancel or amend the timings of these sessions at any point up to the statedstart time of the session.
Delegates may also cancel their booking at any time by following the link in their confirmation email.
Delegates are responsible for ensuring that they can access the web site where the event is delivered and for any all and any charges incurred during attendance at the session.
The delegate acknowledges that all course material, program material or copies thereof are and will remain the property of the event provider and are subject to copyright. It is expressly agreed that neither the delegate nor their sponsoring organisation will copy the whole or any part of those materials without the written consent of the event provider.
The event provider accepts no responsibility whatsoever for the subsequent use of the EMS by the delegate or their sponsoring organisation as a result of their participation in the event and shall not be liable for any loss or damage arising to the delegate, their sponsoring organisation or any third parties howsoever that loss or damage arises (save that this provision will not exclude liability for death or personal injury arising from the negligence of the event provider).
No variation to these conditions shall be binding unless agreed in writing between the authorised representatives of the event provider and the delegate and/or their sponsoring organisation. The delegate and their sponsoring organisation acknowledge that these terms and conditions supersede any written or verbal communication
Menter Môn Morlais Ltd
Neuadd Y Dref Llangefni
Sgwar Bulkeley
Llangefni
Ynys Môn
LL77 7LR
United Kingdom: Wales