Fordwyaeth
Cost: Am ddim
Digwyddiadau i alluogi uwch arweinwyr i ddatblygu eu dealltwriaeth o bwysigrwydd y canllawiau Galluogi dysgu a sut y gallant gefnogi trefnu, cynllunio a gweithredu cwricwlwm sy'n addysgegol briodol i bob dysgwr.
Mae'r digwyddiadau yn agored i holl uwch arweinwyr ysgolion cynradd, ysgolion uwchradd, ysgolion pob oed ac ysgolion arbennig, yn ogystal ag Unedau Cyfeirio Disgyblion yng Nghymru.
Bydd y sesiynau'n digwydd wyneb yn wyneb ac yn cynnwys cyfuniad o gynnwys o dan arweiniad cyflwynwr a gweithgareddau grŵp. Bydd pob sesiwn yn para tua 2 awr a 30 munud.
Manteision dysgu:
· Dyfnhau'ch dealltwriaeth o sut y gellir defnyddio'r canllawiau galluogi dysgu i drefnu, cynllunio a gweithredu'r Cwricwlwm i Gymru yn fwy effeithiol.
· Datblygu gwell dealltwriaeth o sut y gall addysgeg sy'n briodol yn ddatblygiadol gefnogi dysgu a chynnydd drwy gydol y continwwm dysgu 3-16.
· Cyfle i archwilio'r 'pwy', y 'pam, y 'sut' a'r 'beth' mewn perthynas â chynllunio'r cwricwlwm.
· Dod i wybod mwy am rôl sylfaenol y tri galluogwr: Oedolion sy'n galluogi dysgu, Profiadau sy'n ennyn diddordeb ac Amgylcheddau effeithiol.
· Datblygu dealltwriaeth o'r llwybrau datblygiadol a'r effaith gadarnhaol y maent yn ei chael ar ymgysylltiad dysgwyr, presenoldeb ac ymddygiad.
· Trafod pwysigrwydd datblygiad plant, sy'n rhan annatod o'r pum llwybr datblygiadol a sut mae'r llwybrau hynny'n ffurfio'r sylfeini ar gyfer dysgu, er mwyn sicrhau y gellir cefnogi dysgwyr i wneud cynnydd yn ôl eu pwysau eu hunain.
· Cyfle i gydweithio ag arweinwyr ac ymarferwyr eraill.
Bydd y sesiynau'n cael eu harwain a'u hwyluso gan Lywodraeth Cymru.
Mae rhai digwyddiadau yn cael eu rheoli gan yr Awdurdodau Lleol.
Dewiswch pa un o'r sesiynau isod yr hoffech fynd iddo.
Bydd y sesiynau yn cael eu hychwanegu cyn gynted ag y cânt eu cadarnhau. Os nad ydych yn gweld sesiwn ar gyfer eich awdurdod lleol, cysylltwch â dysgusylfaen@llyw.cymru
*Mae disgwyl i chi fynd i sesiynau(au) yn ardal eich awdurdod lleol eich hun. Fodd bynnag, os na allwch fynd i'r sesiwn yn ardal eich awdurdod lleol, dewiswch leoliad/dyddiad arall.)
***Sicrhewch fod pob un o'r 4 cam o'r ffurflen gofrestru wedi'i chwblhau. Bydd cadarnhad e-bost yn cael ei anfon ar ôl cwblhau'r ffurflen gofrestru yn llwyddiannus.***
Llywodraeth Cymru (‘ni’) fydd y rheolydd data ar gyfer y data personol yr ydych yn eu darparu a byddwn yn eu prosesu fel rhan o'n tasg gyhoeddus ac o dan yr awdurdod swyddogol a roddwyd inni i gyflawni gwaith gweinyddol y digwyddiad. Byddwn yn cadw eich data personol am 3 mis wedi i'r digwyddiad ddod i ben ac ar ôl hynny byddant yn cael eu dileu'n ddiogel.
I anfon gwybodaeth atoch am y digwyddiad, byddwn yn casglu manylion personol gan gynnwys eich enw, cyfeiriad e-bost, swydd, dewis iaith, enw'r ysgol/lleoliad/sefydliad ac Awdurdod Lleol. Byddwn hefyd yn casglu gwybodaeth sy'n ymwneud â gofynion mynediad adietegol penodol a/neu ofynion eraill i sicrhau bod unrhyw ofynion ychwanegol yn cael eu bodloni yn ystod y digwyddiad.
Er mwyn rhwydweithio yn ystod y digwyddiad, bydd eich enw yn cael ei rannu â phobl eraill sydd wedi cofrestru ar gyfer y digwyddiad. Os hoffech i ni beidio â gwneud hyn, e-bostiwch dysgusylfaen@llyw.cymru
Dim ond at ddibenion y digwyddiad y byddwn yn defnyddio eich data personol. Rydym wedi ymrwymo i ddiogelu eich preifatrwydd, ac rydym eisiau sicrhau eich bod yn ymwybodol o'r ffordd y gall eich gwybodaeth bersonol gael ei defnyddio.
Efallai y bydd ffotograffau yn cael eu tynnu a fideos yn cael eu recordio yn y digwyddiad a'u defnyddio at y dibenion canlynol:
· hyrwyddo'r digwyddiad ar y cyfryngau cymdeithasol, yn ein cylchlythyr ac mewn deunyddiau marchnata eraill.
· creu cofnod o'r digwyddiad at ddibenion hanesyddol.
· datblygu deunyddiau cymorth yn y dyfodol.
Os nad ydych yn dymuno cael eich ffilmio neu i'ch llun gael ei dynnu, cysylltwch â dysgusylfaen@llyw.cymru o leiaf 48 awr cyn y digwyddiad. Bydd ardal yn cael ei neilltuo ar gyfer y rhai sydd wedi dweud nad ydynt yn dymuno cael tynnu eu lluniau na'u ffilmio, lle na fydd hynny'n digwydd.
O dan ddeddfwriaeth diogelu data, mae gennych yr hawl wneud y canlynol:
· gweld y data personol y mae Llywodraeth Cymru yn eu cadw amdanoch
· ei gwneud yn ofynnol inni gywiro gwallau yn y data hynny
· gwrthwynebu neu gyfyngu ar brosesu’r data (o dan rai amgylchiadau);
· gofyn am i’ch data gael eu ‘dileu’ (o dan rai amgylchiadau);
· cyflwyno cwyn i Swyddfa’r Comisiynydd Gwybodaeth (SCG), ein rheoleiddiwr annibynnol ar gyfer diogelu data.
Drwy gofrestru ar gyfer y digwyddiad, rydych yn cytuno y gellir defnyddio'r data personol a gyflwynwch wrth gofrestru fel a ganlyn:
· i gyfathrebu â chi ynglŷn â'r digwyddiad rydych wedi cofrestru ar ei gyfer.
· i'w rhannu â'r lleoliadau at ddibenion iechyd a diogelwch ac i drefnu a chydgysylltu'r digwyddiad.
Os oes gennych gwestiynau pellach ynghylch sut y mae'ch data yn cael eu defnyddio gan Lywodraeth Cymru fel rhan o'r digwyddiadau hyn, neu os ydych yn dymuno arfer eich hawl gan ddefnyddio'r Rheoliad Cyffredinol ar Ddiogelu Data, e-bostiwch dysgusylfaen@llyw.cymru
Os oes angen gwybodaeth ychwanegol arnoch am eich hawliau ynghylch gwybodaeth neu os oes gennych bryderon am y ffordd y caiff eich gwybodaeth bersonol ei defnyddio, yna cysylltwch â:
Y Swyddog Diogelu Data:
Llywodraeth Cymru
Parc Cathays
Caerdydd
CF10 3NQ
E-bost: Swyddogdiogelu data@gov.wales
Os ydych yn anfodlon â'r ffordd rydym wedi defnyddio eich data, mae gennych yr opsiwn i gyflwyno cwyn i Swyddfa'r Comisiynydd Gwybodaeth. Dyma fanylion cyswllt ar gyfer Swyddfa'r Comisiynydd Gwybodaeth:
Cyswllt Cwsmeriaid
Wycliffe House
Water Lane
Wilmslow
Swydd Gaer SK9 5AF
Ffôn: 01625 545 745 or 0303 123 1113 Gwefan: www.ico.gov.uk
Gweler yma i weld sut mae Llywodraeth Cymru yn trin eich gwybodaeth . Os ydych yn archebu lle ar ddigwyddiad Busnes Cymru neu Lywodraeth Cymru , mae'n bosibl y byddwn yn defnyddio'r wybodaeth a rowch i gynnig gwasanaethau personol neu leol chi , i roi gwybod i chi am newidiadau i'n gwasanaeth , i ofyn eich barn ac i helpu ni i wella ein gwasanaethau .
Mae wefannau y byddwn yn cysylltu â nhw yn debygol o fod gyda Thelerau ac Amodau sy'n wahanol i'n rhai ni . Peidiwch â chymryd yn ganiataol bod ein Telerau ac Amodau yn berthnasol i wefannau eraill.
ECWL
Swyddfeydd Llywodraeth Cymru / Welsh Government Offices
Parc Cathays / Cathays Park
Caerdydd / Cardiff
CF10 3NQ
United Kingdom: Wales