Fordwyaeth
Cost: Am ddim
Mewn cyfnod o newid cyflym yn yr hinsawdd, nod y weminar hon yw mynd i’r afael â’r technegau hanfodol y gallem eu defnyddio i wneud ein ffermydd yn wydn o ran llifogydd a sychder. Ein nod yw symud y tu hwnt i'r patrwm sy'n fframio rheoli dŵr fel problem, i un sy'n cydnabod rheoli dŵr fel cyfle; byddwn yn trafod ffyrdd o ddefnyddio systemau byw ac adlewyrchu natur i gynyddu cynhyrchiant a gwytnwch, tra hefyd yn mwynhau enillion bioamrywiaeth ac adferiad ar lefel gwahanfeydd dŵr.
Bydd y weminar hon ar ffurf trafodaeth banel a bydd yn cynnwys Paul Lynch o Iwerddon, athro Permaddiwylliant a dylunydd sy’n cyfuno peirianneg, pensaernïaeth a dylunio tirwedd adfywiol yn ei waith, ac Abel Pearson, ffermwr, addysgwr permaddiwylliant a sylfaenydd Glasbren, prosiect bwyd a ffermio cymunedol sydd wedi dod o hyd i gartref newydd ar fferm 134 erw yr Ymddiriedolaeth Genedlaethol, sef Parc yr Arglwydd.
Canlyniadau Dysgu
1. Bydd y rhai sy’n cymryd rhan yn deall ystod o dechnegau y gellir eu defnyddio i wella rheolaeth dŵr ar lefel daliad, gan gynnwys cynaeafu dŵr glaw confensiynol, gwrthgloddiau a chynlluniau plannu.
2. Bydd y strategaethau hyn yn cael eu cyflwyno fel dull integredig y gellir ei gymhwyso ar draws garddwriaeth neu ddaliad fferm.
3. Bydd amrywiaeth o ddulliau'n cael eu trafod fel y bydd y rhai sy’n cymryd rhan yn dysgu sut y gallent wella rheolaeth dŵr o fewn eu cyllideb.
4. Bydd y strategaethau rheoli dŵr hyn yn cael eu hesbonio yng nghyd-destun eu potensial cynhyrchiol ar gyfer mentrau fferm.
5. Bydd strategaethau ar raddfa daliad yn cael eu rhoi yng nghyd-destun buddion ar draws gwahanfeydd dŵr.
I gymryd rhan yn y gweminar, cliciwch ar y ddolen isod i gofrestru eich diddordeb erbyn 5pm ar 11/03/2025
Gwnewch yn siŵr eich bod wedi mewngofnodi i BOSS yn gyntaf cyn clicio ar y ddolen hon.
Bydd rhywun yn cysylltu â chi gyda manylion ar sut i gael mynediad i'r weminar.
*Sicrhewch eich bod yn cwblhau pob cam yn y broses o 1 i 4 er mwyn archebu eich lle. Byddwch yn gweld neges “Diolch” unwaith y bydd pob cam wedi’i gwblhau.*
Telerau Busnes
Mae eich preifatrwydd yn bwysig i Cyswllt Ffermio ac yn unol â'r rheoliad diogelu data cyffredinol (GDPR), mae hysbysiad preifatrwydd digwyddiadau yn rhoi gwybod i chi pam ein bod yn casglu, defnyddio a phrosesu eich gwybodaeth a phwy fydd yn cael mynediad iddi. Drwy archebu lle ar gwrs neu ddigwyddiad Cyswllt Ffermio, rydych yn derbyn y telerau a'r amodau hyn.
Drwy drefnu lle yn un o ddigwyddiadau/cyrsiau Cyswllt Ffermio neu Lywodraeth Cymru, rydych yn derbyn telerau ac amodau cyffredinol defnyddio gwasanaethau ar-lein Llywodraeth Cymru, ac yn derbyn Hysbysiad Prosesu Teg Cyswllt Ffermio.
Gallwn hefyd ddefnyddio'r wybodaeth rydych yn ei rhoi i gynnig gwasanaethau personol neu leol i chi, rhoi gwybod i chi am newidiadau i'n gwasanaeth, holi eich barn a'n helpu i wella ein gwasanaethau.
Mae'n debygol y bydd gan wefannau rydym yn rhoi dolen iddynt Delerau ac Amodau sy'n wahanol i'n rhai ni. Peidiwch â thybio bod ein Telerau ac Amodau yn berthnasol i wefannau eraill.
Mae cynrychiolwyr yn cydnabod bod deunyddiau cyrsiau a rhaglenni neu gopïau ohonynt yn eiddo i ddarparwyr hyfforddiant ac y gallant fod yn destun hawlfraint. Cytunir na fydd cynrychiolydd na'i gorff noddi yn copïo'r deunyddiau hynny, yn llawn neu'n rhannol, heb gael caniatâd ysgrifenedig darparwr yr hyfforddiant.
Rydym yn cadw'r hawl i ganslo neu ddiwygio amser y sesiynau hyn unrhyw bryd hyd at amser dechrau'r sesiwn; rhoddir gwybodaeth unigol am bob cwrs.
Gall cynrychiolwyr hefyd ganslo eu lle unrhyw bryd drwy ddilyn y ddolen yn yr e-bost a gawsant fel cadarnhad neu drwy gysylltu â'r Ganolfan Gwasanaethau.
Mae Canolfan Gwasanaethau Cyswllt Ffermio ar agor o ddydd Llun i ddydd Gwener rhwng 08:00 a 17:00 ac eithrio Gwyliau Cyhoeddus.
I gael rhagor o wybodaeth am Gyswllt Ffermio, ewch i'n gwefan neu ffoniwch ni ar 03456 000 813.
Mae'r cyfeiriadur yn cynnwys gwybodaeth am ddigwyddiadau sy'n cael eu cynnig gan Gyswllt Ffermio, Llywodraeth Cymru a darparwyr eraill yn y sector cyhoeddus a phreifat. Nid ydym yn gyfrifol am wybodaeth am ddigwyddiadau sy'n cael eu cynnig gan ddarparwyr eraill ac ni allwn gymryd cyfrifoldeb am yr hyn a allai ddigwydd pe baech yn gweithredu ar yr wybodaeth honno.
Farming Connect
Farming Connect
Unit 3, Science Park
Aberystwyth
SY23 3AH
United Kingdom: Wales