[ Neidio i Gynnwys ]

SIOEAU TEITHIOL CYFLENWYR: Sut i Ddarganfod, Cynnig ac Ennill Contractau Cyhoeddus dan y Deddfau Caffael Newydd

Trosolwg

Cost: Am ddim

Ydych chi’n cyflenwi’r sector cyhoeddus ar hyn o bryd, neu hoffech chi gychwyn arni?

Mae diwygiadau caffael NEWYDD yng Nghymru ac yn y DU yn cyflwyno proses haws, fwy hyblyg a thryloyw i gyflenwyr o bob maint, iddynt allu ddarganfod, cynnig ac ennill contractau cyhoeddus.

Ymunwch â ni yn Sioeau Teithiol Cyflenwyr Busnes Cymru mewn chwe lleoliad yng Nghymru i ddarganfod sut y gall rheolau caffael cyhoeddus NEWYDD fod o fudd i fusnesau fel eich un chi.

Mynediad am ddim

Bwriad y digwyddiadau a ariennir yn llawn, gyda chefnogaeth Llywodraeth Cymru, yw helpu cyflenwyr Economi Sylfaenol sydd eisoes yn bodoli ac arweinwyr busnesau eraill sy’n awyddus i ymuno â’r farchnad sector cyhoeddus.

Cewch ddarganfod yn union beth mae prynwyr yn chwilio amdano, a sut i osod eich busnes er mwyn ennill mwy o gontractau. Os ydych yn cyflenwi neu’n gweithio yn y meysydd adeiladu, tai, twristiaeth, gofal ac iechyd, trafnidiaeth, bwyd a diod, manwerthu, cyfleustodau neu ynni, bydd y digwyddiad hwn yn eithriadol o berthnasol.

Beth i'w Ddisgwyl:

Gosod y Cyd-destun – Bydd Arweinydd Polisi a Diwygio’r Broses Gaffael o Lywodraeth Cymru yn ymuno â ni i gynnig cipolygon allweddol i gyflenwyr.

Gwybodaeth gan Arbenigwyr – cewch arweiniad ymarferol clir gan Jane Lynch ar newidiadau caffael allweddol gyda Deddf Caffael Cyhoeddus NEWYDD (2023) a’r Ddeddf Caffael a Phartneriaeth Gymdeithasol NEWYDD (Cymru) 2023, a’r cyfleoedd a gewch o ganlyniad i’r diwygiadau hyn. Sut i gael mynediad at yr offer er mwyn llwyddo.

Cymorth Gam wrth Gam - Gwyliwch ddemo byw ar gofrestru ar gyfer y llwyfan digidol canolog a sut i gael mynediad at gymorth tendro wedi ei ariannu’n llawn gan Busnes Cymru. Dewch i ddeall sut i gydymffurfio’n barhaus, cwrdd â gofynion newydd, a manteisio ar gyfleoedd sydd ar y gweill. I ddilyn yr arddangosiad byw cofiwch ddod â'ch ffon, tabled neu liniadur. 

Cwrdd â’r Prynwyr - Dysgwch am yr hyn sydd ei angen ar brynwyr, sut mae prosesau yn newid, a darganfod cyfleoedd contractau arfaethedig.

Rhwydweithio a Chysylltu - Cewch gwrdd â phrynwyr y sector cyhoeddus, dod i ddeall GwerthwchiGymru, a chysylltu â busnesau eraill dros luniaeth.

Archebwch eich lle heddiw!

Peidiwch â cholli’r cyfle - cadwch ar flaen y gystadleuaeth gyda’r gefnogaeth hon. Mae lleoedd yn brin felly sicrhewch eich lle heddiw i gadw ar flaen y newidiadau pwysig hyn.  Cewch wybodaeth ymarferol, arweiniad arbenigol, a mynediad uniongyrchol at brynwyr allweddol a chyfleoedd newydd .

 

Caiff y digwyddiad hwn ei gyflwyno gan Busnes Cymru ar ran Llywodraeth Cymru.

Dyddiadau a lleoliadau

4 Mehefin 2025, 09:30 - 12:30
Metropole Hotel - Llandrindod Wells, Llandrindod Wells, LD1 5DY

Cost: Am ddim

Gweld lleoliad

5 Mehefin 2025, 09:30 - 12:30
Wrexham University, Wrexham, LL11 2AW

Cost: Am ddim

Gweld lleoliad

10 Mehefin 2025, 09:30 - 12:30
Cardiff University, Cardiff, CF10 3EU

Cost: Am ddim

Gweld lleoliad

18 Mehefin 2025, 09:30 - 12:30
National Library of Wales - Aberystwyth, Aberystwyth, SY23 3BU

Cost: Am ddim

Gweld lleoliad

19 Mehefin 2025, 09:30 - 12:30
Village Hotel - Swansea, Swansea, SA1 8QY

Cost: Am ddim

Gweld lleoliad

Amodau arbennig

Mae Busnes Cymru yn wasanaeth dwyieithog ac mae ein digwyddiadau a'n gweithdai ar gael yn y Gymraeg a'r Saesneg, ar ôl cofrestru, rhowch wybod i ni beth yw eich dewisiadau iaith.

Termau

Gweler yma i weld sut mae Busnes Cymru yn trin eich gwybodaeth . Os ydych yn archebu lle ar ddigwyddiad Busnes Cymru neu Lywodraeth Cymru , mae'n bosibl y byddwn yn defnyddio'r wybodaeth a rowch i gynnig gwasanaethau personol neu leol chi , i roi gwybod i chi am newidiadau i'n gwasanaeth , i ofyn eich barn ac i helpu ni i wella ein gwasanaethau .

Mae wefannau y byddwn yn cysylltu â nhw yn debygol o fod gyda Thelerau ac Amodau sy'n wahanol i'n rhai ni . Peidiwch â chymryd yn ganiataol bod ein Telerau ac Amodau yn berthnasol i wefannau eraill.

Trefnydd y digwyddiad

Busnes Cymru
Sarn Mynach
Llandudno Junction
Conwy
LL31 9RZ
United Kingdom: Wales


03000 6 03000
E-bost | Gwefan