[ Neidio i Gynnwys ]

SYNIADAU MAWR CYMRU CLWB 5-9: GOGLEDD CYMRU

Bydd y sesiwn hwn yn cael ei gyflwyno yn Saesneg

Trosolwg

Cost: Am ddim

Dechreuwch eich siwrne fusnes gyda’r 5-9 CLUB!

Bydd y cwrs wyth wythnos hwn, sydd wedi’i ariannu’n llawn, yn rhoi’r cymorth, arweiniad a’r offer sydd eu hangen arnoch chi i gymryd y camau nesaf a dechrau ar eich busnes.

P’un a oes gennych chi syniad ac rydych yn barod i symud i’r cam nesaf, neu os nad ydych yn siŵr beth rydych chi eisiau ei wneud, byddwn yn eich tywys drwy bopeth, o gynhyrchu syniadau i farchnata ac adeiladu gwefan.

 

Wythnos 1  • Cynhyrchu Syniad

Wythnos 2  • Dylunio Brand a Datblygu Strategaeth Farchnata

Wythnos 3  • Cyfryngau Cymdeithasol ar gyfer Busnesau Bach • Adeiladu Gwefan (yn fforddiadwy)

Wythnos 4  • Sylfeini Gwerthu a Rheoli eich Arian

Wythnos 5  • Ariannu busnes newydd a’r Pethau Cyfreithiol

Wythnos 6  • Rhoi trefn ar bethau

Wythnos 7  • Cynfas Model Busnes

Wythnos 8  • Gyflwyno yn Iawn!

 

SESIWN 1

Yn ystod y sesiwn gyntaf hon, byddwch yn cwrdd â’ch carfan, a fydd yn dod yn rhwydwaith cymorth i chi erbyn diwedd y cwrs wyth wythnos hwn. Byddwch yn dysgu am feddylfryd entrepreneuraidd a sut mae pobl yn meddwl am syniadau eu busnes, yn ogystal

â pha gymorth busnes sydd ar gael i chi.

SESIWN 2

Yn y sesiwn hon, byddwch yn dysgu beth sy’n gwneud logo da, yr elfennau sy’n ffurfio hunaniaeth eich brand ac i wneud yn siŵr eich bod yn cyfathrebu gwerthoedd eich busnes i’ch cwsmeriaid a rhanddeiliaid.

Yn ogystal â dylunio brand, byddwn hefyd yn dangos ichi sut i ddatblygu strategaeth farchnata a magu cefnogaeth o gwmpas eich brand.

SESIWN 3

Mae’r drydedd sesiwn yn mynd i’r afael ag archwilio gwahanol lwyfannau cyfryngau cymdeithasol, a pha rai all fod o fudd i’ch busnes. Byddwch hefyd yn dysgu am adeiladu gwefan mewn ffordd fforddiadwy, a phwysigrwydd

enwau parth, cynnal, optimeiddio peiriannau chwilio ac atodiadau.

SESIWN 4

Mae nifer o berchnogion busnes newydd yn anghofio am eu harian yn ystod camau cychwynnol eu busnes newydd, ac yn canfod eu bod mewn twll yn ddiweddarach ar hyd y daith. Yn y sesiwn hon, byddwch yn cael cyflwyniad

at gadw cyfrifon, rhagweld, cyllidebu a bancio busnes er mwyn gwneud yn siŵr eich bod yn ymdrin â’ch arian yn hyderus o’r dechrau.

SESIWN 5

Mae perchnogion busnes yn gwisgo sawl “het” o ddydd i ddydd. Felly, mae’n hynod bwysig eich bod mor drefnus â phosibl! Yn y gweithdy hwn, byddwch yn dysgu am strategaethau a chymwysiadau er mwyn cadw ar flaen popeth.

SESIWN 6

Byddwch yn dysgu am y pethau cyfreithiol hynny sydd angen ichi wybod amdanynt nawr. Beth yw ystyr hawlfraint? Beth yw IP? Sut strwythur cyfreithiol busnes ddylwn i ei ddewis? Yn y sesiwn hon, byddwch yn dysgu

sut i sefydlu eich busnes yn gyfreithiol, a sut i ddiogelu eich busnes. Byddwch hefyd yn cael cyfle i ofyn unrhyw gwestiynau penodol sydd gennych chi i gyfreithiwr.

SESIWN 7

Bydd y sesiwn hon yn eich tywys drwy brif flociau adeiladu unrhyw fodel busnes, er mwyn dwyn ynghyd yr holl elfennau rydym wedi mynd i’r afael â nhw yn ystod y cwrs Clwb 5 i 9,

ac i’ch helpu i ddelweddu eich busnes.

SESIWN 8

Dyma ddiwedd y cwrs! Byddwn yn dangos y camau nesaf ichi, pa opsiynau sydd ar gael, a sut i fanteisio arnynt! P’un a ydych yn ystyried dechrau busnes, neu’n ymuno â busnes, gallwn ni eich helpu chi.

 

Pobl Ifanc 16-25

19 Hydref, 2023 - 7 Rhagfyr, 2023

Wrecsam

Cysylltwch â'n tîm heddiw ar 01656 868500 i sicrhau eich lle ac i dderbyn cyfarwyddiadau ar ymuno.

Dyddiadau a lleoliadau

2 Tachwedd 2023 - 7 Rhagfyr 2023, 17:00 - 21:00
Wrexham Glyndwr University, Wrexham, LL11 2AW

Cost: Am ddim

Gweld lleoliad

Termau

Gweler yma i weld sut mae Busnes Cymru yn trin eich gwybodaeth . Os ydych yn archebu lle ar ddigwyddiad Busnes Cymru neu Lywodraeth Cymru , mae'n bosibl y byddwn yn defnyddio'r wybodaeth a rowch i gynnig gwasanaethau personol neu leol chi , i roi gwybod i chi am newidiadau i'n gwasanaeth , i ofyn eich barn ac i helpu ni i wella ein gwasanaethau .

Mae wefannau y byddwn yn cysylltu â nhw yn debygol o fod gyda Thelerau ac Amodau sy'n wahanol i'n rhai ni . Peidiwch â chymryd yn ganiataol bod ein Telerau ac Amodau yn berthnasol i wefannau eraill.

Trefnydd y digwyddiad

Busnes Cymru
Welsh Government
Sarn Mynach
Llandudno Junction
Conwy
LL31 9RZ
United Kingdom


01656 868500
E-bost | Gwefan