Fordwyaeth
Cost: Am ddim
Dechreuwch eich siwrne fusnes gyda’r 5-9 CLUB!
Bydd y cwrs wyth wythnos hwn, sydd wedi’i ariannu’n llawn, yn rhoi’r cymorth, arweiniad a’r offer sydd eu hangen arnoch chi i gymryd y camau nesaf a dechrau ar eich busnes.
P’un a oes gennych chi syniad ac rydych yn barod i symud i’r cam nesaf, neu os nad ydych yn siŵr beth rydych chi eisiau ei wneud, byddwn yn eich tywys drwy bopeth, o gynhyrchu syniadau i farchnata ac adeiladu gwefan.
Wythnos 1 • Cynhyrchu Syniad
Wythnos 2 • Dylunio Brand a Datblygu Strategaeth Farchnata
Wythnos 3 • Cyfryngau Cymdeithasol ar gyfer Busnesau Bach • Adeiladu Gwefan (yn fforddiadwy)
Wythnos 4 • Sylfeini Gwerthu a Rheoli eich Arian
Wythnos 5 • Ariannu busnes newydd a’r Pethau Cyfreithiol
Wythnos 6 • Rhoi trefn ar bethau
Wythnos 7 • Cynfas Model Busnes
Wythnos 8 • Gyflwyno yn Iawn!
SESIWN 1
Yn ystod y sesiwn gyntaf hon, byddwch yn cwrdd â’ch carfan, a fydd yn dod yn rhwydwaith cymorth i chi erbyn diwedd y cwrs wyth wythnos hwn. Byddwch yn dysgu am feddylfryd entrepreneuraidd a sut mae pobl yn meddwl am syniadau eu busnes, yn ogystal
â pha gymorth busnes sydd ar gael i chi.
SESIWN 2
Yn y sesiwn hon, byddwch yn dysgu beth sy’n gwneud logo da, yr elfennau sy’n ffurfio hunaniaeth eich brand ac i wneud yn siŵr eich bod yn cyfathrebu gwerthoedd eich busnes i’ch cwsmeriaid a rhanddeiliaid.
Yn ogystal â dylunio brand, byddwn hefyd yn dangos ichi sut i ddatblygu strategaeth farchnata a magu cefnogaeth o gwmpas eich brand.
SESIWN 3
Mae’r drydedd sesiwn yn mynd i’r afael ag archwilio gwahanol lwyfannau cyfryngau cymdeithasol, a pha rai all fod o fudd i’ch busnes. Byddwch hefyd yn dysgu am adeiladu gwefan mewn ffordd fforddiadwy, a phwysigrwydd
enwau parth, cynnal, optimeiddio peiriannau chwilio ac atodiadau.
SESIWN 4
Mae nifer o berchnogion busnes newydd yn anghofio am eu harian yn ystod camau cychwynnol eu busnes newydd, ac yn canfod eu bod mewn twll yn ddiweddarach ar hyd y daith. Yn y sesiwn hon, byddwch yn cael cyflwyniad
at gadw cyfrifon, rhagweld, cyllidebu a bancio busnes er mwyn gwneud yn siŵr eich bod yn ymdrin â’ch arian yn hyderus o’r dechrau.
SESIWN 5
Mae perchnogion busnes yn gwisgo sawl “het” o ddydd i ddydd. Felly, mae’n hynod bwysig eich bod mor drefnus â phosibl! Yn y gweithdy hwn, byddwch yn dysgu am strategaethau a chymwysiadau er mwyn cadw ar flaen popeth.
SESIWN 6
Byddwch yn dysgu am y pethau cyfreithiol hynny sydd angen ichi wybod amdanynt nawr. Beth yw ystyr hawlfraint? Beth yw IP? Sut strwythur cyfreithiol busnes ddylwn i ei ddewis? Yn y sesiwn hon, byddwch yn dysgu
sut i sefydlu eich busnes yn gyfreithiol, a sut i ddiogelu eich busnes. Byddwch hefyd yn cael cyfle i ofyn unrhyw gwestiynau penodol sydd gennych chi i gyfreithiwr.
SESIWN 7
Bydd y sesiwn hon yn eich tywys drwy brif flociau adeiladu unrhyw fodel busnes, er mwyn dwyn ynghyd yr holl elfennau rydym wedi mynd i’r afael â nhw yn ystod y cwrs Clwb 5 i 9,
ac i’ch helpu i ddelweddu eich busnes.
SESIWN 8
Dyma ddiwedd y cwrs! Byddwn yn dangos y camau nesaf ichi, pa opsiynau sydd ar gael, a sut i fanteisio arnynt! P’un a ydych yn ystyried dechrau busnes, neu’n ymuno â busnes, gallwn ni eich helpu chi.
Pobl Ifanc 16-25
19 Hydref, 2023 - 7 Rhagfyr, 2023
Wrecsam
Cysylltwch â'n tîm heddiw ar 01656 868500 i sicrhau eich lle ac i dderbyn cyfarwyddiadau ar ymuno.
Gweler yma i weld sut mae Busnes Cymru yn trin eich gwybodaeth . Os ydych yn archebu lle ar ddigwyddiad Busnes Cymru neu Lywodraeth Cymru , mae'n bosibl y byddwn yn defnyddio'r wybodaeth a rowch i gynnig gwasanaethau personol neu leol chi , i roi gwybod i chi am newidiadau i'n gwasanaeth , i ofyn eich barn ac i helpu ni i wella ein gwasanaethau .
Mae wefannau y byddwn yn cysylltu â nhw yn debygol o fod gyda Thelerau ac Amodau sy'n wahanol i'n rhai ni . Peidiwch â chymryd yn ganiataol bod ein Telerau ac Amodau yn berthnasol i wefannau eraill.
Busnes Cymru
Welsh Government
Sarn Mynach
Llandudno Junction
Conwy
LL31 9RZ
United Kingdom