[ Neidio i Gynnwys ]

Technoleg Gynorthwyol yn y gweithle

Trosolwg

Cost: Am ddim

Crynodeb
 

Mae'r weminar ymarferol hon yn ystyried sut y gall technoleg gynorthwyol helpu gweithwyr anabl. Nid yw’n ddrud nac yn gymhleth, mae llawer o atebion technoleg gynorthwyol yn rhad, yn hawdd i'w gweithredu, ac yn aml yn cael eu hariannu trwy Mynediad at Waith.

Yn benodol ar gyfer perchnogion busnesau bach a chanolig, rheolwyr, gweithwyr AD proffesiynol, ac arweinwyr tîm, bydd y sesiwn yn chwalu mythau ac yn cyflwyno atebion go iawn i’w defnyddio ar unwaith.

 

Beth fydd cynnwys y cwrs? 

  • Beth yw technoleg gynorthwyol - a beth nad yw
  • Rhwystrau cyffredin yn y gweithle sy'n wynebu gweithwyr anabl a niwroamrywiol
  • Sut mae technoleg gynorthwyol yn gwella cynhyrchiant, cadw a morâl gweithwyr
  • Atebion cost-effeithiol sy'n addas ar gyfer busnesau bach a chanolig
  • Sut y gall cyllid Llywodraeth y DU fel Mynediad at Waith leihau neu ddileu costau
  • Enghreifftiau ymarferol o dechnoleg gynorthwyol mewn gweithleoedd busnesau bach a chanolig bob dydd
  • Camau syml i weithredu addasiadau rhesymol yn hyderus gan sicrhau eu bod yn cydymffurfio
 
Ar gyfer pwy mae'r digwyddiad?
 
  • Perchnogion a chyfarwyddwyr busnesau bach a chanolig
  • Rheolwyr llinell ac arweinwyr tîm
  • Gweithwyr pobl ac AD proffesiynol
  • Unrhyw un sy'n gyfrifol am gefnogi lles, perfformiad neu gynhwysiant staff

Mae'r weminar hon yn canolbwyntio ar newidiadau ymarferol, cyraeddadwy sy'n gwneud gwaith yn well i weithwyr anabl.

 

 
Pwysig - Mae'r digwyddiad hwn ar gyfer busnesau bach a chanolig eu maint yng nghymru ac mae wedi'i gyfyngu i ddau gynrychiolydd o bob busnes.
 

Caiff y digwyddiad hwn ei gyflwyno gan Busnes Cymru ar ran Llywodraeth Cymru.

 

Dyddiadau

15 Medi 2026, 10:00 - 11:30
Digwyddiad ar-lein

Cost: Am ddim

Amodau arbennig

Mae Busnes Cymru yn wasanaeth dwyieithog ac mae ein digwyddiadau a'n gweithdai ar gael yn y Gymraeg a'r Saesneg, ar ôl cofrestru, rhowch wybod i ni beth yw eich dewisiadau iaith.

Termau

Gweler yma i weld sut mae Busnes Cymru yn trin eich gwybodaeth . Os ydych yn archebu lle ar ddigwyddiad Busnes Cymru neu Lywodraeth Cymru , mae'n bosibl y byddwn yn defnyddio'r wybodaeth a rowch i gynnig gwasanaethau personol neu leol chi , i roi gwybod i chi am newidiadau i'n gwasanaeth , i ofyn eich barn ac i helpu ni i wella ein gwasanaethau .

Mae wefannau y byddwn yn cysylltu â nhw yn debygol o fod gyda Thelerau ac Amodau sy'n wahanol i'n rhai ni . Peidiwch â chymryd yn ganiataol bod ein Telerau ac Amodau yn berthnasol i wefannau eraill.

Bydd y wybodaeth a ddarparwch fel rhan o'r archeb yn cael ei chadw am hyd at 7 diwrnod ar ôl i'r digwyddiad ddod i ben.

Gwybodaeth Ychwanegol

Trefnydd y digwyddiad

Busnes Cymru
Sarn Mynach
Llandudno Junction
Conwy
LL31 9RZ
United Kingdom: Wales


01656 868 500
E-bost | Gwefan