[ Neidio i Gynnwys ]

Teitl – Gweithdy Blasu’r Clwb 5-9 (“Blas ar Hunangyflogaeth”)

Trosolwg

Cost: Am ddim

Blas ar Hunangyflogaeth – Cyflwyniad i Ddechrau eich Busnes a Magu Hyder

Ydych chi’n ystyried dechrau busnes ond yn ansicr lle i ddechrau?

Nod y weminar gyfeillgar hon sy’n ddwy awr o hyd yw eich helpu i weld a yw hunangyflogaeth yn addas i chi – heb bwysau i ymrwymo.

P’un a oes gennych syniad busnes yn barod neu sbarc o chwilfrydedd, bydd y sesiwn hon yn rhoi’r eglurdeb a’r hyder i chi gymryd eich cam nesaf.

🧠 Yr hyn y byddwch yn ei ddysgu:

· Y prif bethau sydd angen i chi eu hystyried wrth ddechrau busnes

· Sut i nodi’r broblem y mae eich busnes yn ei datrys a pham mae hynny’n bwysig

· Sut i edrych ar eich cryfderau presennol a lle gallech fod angen cymorth

· Sut i fagu hyder a gwneud penderfyniadau gwybodus

· Pa gefnogaeth sydd ar gael drwy’r Clwb 5-9

✅ Byddwch hefyd yn cael:

· Cerdyn Sgorio Parodrwydd Busnes y gellir ei lawrlwytho er mwyn asesu eich sefyllfa bresennol

· Lle cefnogol i ofyn cwestiynau a dysgu gan eraill

· Eich cyfeirio at y camau nesaf – gan gynnwys sut i ymuno â’r cwrs busnes Clwb 5-9 llawn

💬 Ar gyfer pwy mae’r weminar:

Mae’r sesiwn yn berffaith ar gyfer:

· Unrhyw un sy’n ystyried hunangyflogaeth neu weithio’n llawrydd

· Unigolion gyda syniad busnes yr hoffent ei brofi

· Pobl sy’n teimlo’n ansicr neu’n ddihyder i ddechrau eu busnes eu hunain

· Y rhai sy’n dymuno dysgu mewn lle cyfeillgar, cynhwysol, heb jargon

 

Cyflwynir y weminar hon gan Ganolfan Arloesi Menter Cymru mewn partneriaeth â Busnes Cymru.

Dewch i roi cynnig arni – dim ymrwymiad, dim ond eglurdeb a hyder.

Gwybodaeth am y siaradwr –Amberley Steenhagen

Dechreuais fel Hwylusydd Cymorth Busnes llawrydd ar ran Canolfan Arloesi Menter Cymru ddwy flynedd yn ôl, union ar ddechrau fy nhaith hunangyflogaeth fy hun. Ers hynny, rwyf wedi gweld nifer o entrepreneuriaid yn datblygu egin syniad yn fusnes llwyddiannus. Fel un sy’n gweithio’n llawrydd fy hun, rwy’n deall pob elfen ohono - y cyfuniad o ofn a chyffro sy’n dod law yn llaw â chymryd y camau cyntaf hynny i weithio i chi’ch hun - ac rwy’n defnyddio fy mhrofiad fy hun i arwain eraill.

Gyda gradd yn y Cyfryngau a Newyddiaduraeth o Brifysgol Caerdydd a phedair blynedd o brofiad mewn gwahanol rolau marchnata, rwy’n arbenigo mewn helpu pobl i feddwl yn greadigol a datblygu cynlluniau marchnata a chyfryngau cymdeithasol cadarn ar gyfer eu busnes.

Byddaf bob amser yn arwain drwy ddull sy’n canolbwyntio ar yr unigolyn. Mae pob unigolyn a phob busnes yn wahanol, felly mae’n bwysig fy mod i’n cefnogi pobl yn seiliedig ar eu hanghenion, eu cynorthwyo i ganfod eu cryfderau a’r hyn sy’n eu gwneud yn unigryw – yn ogystal â dysgu ambell beth ganddynt ar hyd y daith.

Mae’r digwyddiad yma yn cael ei gynnal gan Busnes Cymru ar ran Llywodraeth Cymru.

Dyddiadau

25 Chwefror 2026, 17:30 - 19:30
Digwyddiad ar-lein

Cost: Am ddim

Amodau arbennig

Mae Busnes Cymru yn wasanaeth dwyieithog ac mae ein digwyddiadau a'n gweithdai ar gael yn y Gymraeg a'r Saesneg, ar ôl cofrestru, rhowch wybod i ni beth yw eich dewisiadau iaith.

Termau

Gweler yma i weld sut mae Busnes Cymru yn trin eich gwybodaeth . Os ydych yn archebu lle ar ddigwyddiad Busnes Cymru neu Lywodraeth Cymru , mae'n bosibl y byddwn yn defnyddio'r wybodaeth a rowch i gynnig gwasanaethau personol neu leol chi , i roi gwybod i chi am newidiadau i'n gwasanaeth , i ofyn eich barn ac i helpu ni i wella ein gwasanaethau .

Mae wefannau y byddwn yn cysylltu â nhw yn debygol o fod gyda Thelerau ac Amodau sy'n wahanol i'n rhai ni . Peidiwch â chymryd yn ganiataol bod ein Telerau ac Amodau yn berthnasol i wefannau eraill.

Bydd y wybodaeth a ddarparwch fel rhan o'r archeb yn cael ei chadw am hyd at 7 diwrnod ar ôl i'r digwyddiad ddod i ben.

Trefnydd y digwyddiad

Busnes Cymru
Welsh Government
Sarn Mynach
Llandudno Junction
Conwy
LL31 9RZ
United Kingdom


03000 6 03000
E-bost | Gwefan