Fordwyaeth
Cost: Am ddim
Pwysig - Mae'r digwyddiad hwn ar gyfer busnesau bach a chanolig eu maint yng nghymru ac mae wedi'i gyfyngu i ddau gynrychiolydd o bob busnes
Ein nod yn y gweminar hwn yw ateb y cwestiwn "Pam mae cadw cyfrifon yn bwysig?" a sut i gadw cofnodion er mwyn sicrhau bod gennych reolaeth dros eich trafodion busnes. Mae hwn yn weithdy ymarferol fydd yn eich galluogi chi i deimlo’n hyderus a deall y rhesymau pam mae treth a chadw cyfrifon da yn hanfodol, ac yn arferiad busnes sylfaenol.
· Deall sut mae treth incwm yn gweithio
· Gwybod beth mae Cyllid a Thollau ei Fawrhydi (CThEF) yn ei ystyried yn “treuliau a ganiateir”
· Eglurhad o Yswiriant Gwladol i bobl hunangyflogedig
· Dyddiadau pwysig yn y calendr CThEF
· Deall y Datganiadau Ariannol Sylfaenol ar gyfer eich busnes
· Pwysigrwydd cadw cofnodion
· Enghreifftiau o systemau cadw cofnodion
· Gallu paratoi cyfres o ffigyrau ar gyfer eich busnes, i'w rheoli'n effeithiol
· Gallu llunio cyfrif Elw a Cholled a darllen mantolen
· Gwybod sut i gwblhau Rhagolwg Llif Arian a’i ddefnyddio i gadw golwg ar eich cyllid
· Deall gwahanol ffyrdd o ragweld gwerthiannau
Pwysig - Mae'r digwyddiad hwn ar gyfer busnesau bach a chanolig eu maint yng nghymru ac mae wedi'i gyfyngu i ddau gynrychiolydd o bob busnes.
Caiff y digwyddiad hwn ei gyflwyno gan Busnes Cymru ar ran Llywodraeth Cymru.
Mae Busnes Cymru yn wasanaeth dwyieithog ac mae ein digwyddiadau a'n gweithdai ar gael yn y Gymraeg a'r Saesneg, ar ôl cofrestru, rhowch wybod i ni beth yw eich dewisiadau iaith.
Gweler yma i weld sut mae Busnes Cymru yn trin eich gwybodaeth . Os ydych yn archebu lle ar ddigwyddiad Busnes Cymru neu Lywodraeth Cymru , mae'n bosibl y byddwn yn defnyddio'r wybodaeth a rowch i gynnig gwasanaethau personol neu leol chi , i roi gwybod i chi am newidiadau i'n gwasanaeth , i ofyn eich barn ac i helpu ni i wella ein gwasanaethau .
Mae wefannau y byddwn yn cysylltu â nhw yn debygol o fod gyda Thelerau ac Amodau sy'n wahanol i'n rhai ni . Peidiwch â chymryd yn ganiataol bod ein Telerau ac Amodau yn berthnasol i wefannau eraill.
Busnes Cymru
Sarn Mynach
Llandudno Junction
Conwy
LL31 9RZ
United Kingdom: Wales