Wrecsam | Cyflymydd AI: Sero i Seren mewn 48 awr | Coleg Cambria
Trosolwg
Cost: Am ddim
Ble Cynhelir y Digwyddiad?
Cynhelir y digwyddiad yng Ngholeg Cambria Yale, Grove Park Road, Wrecsam. Wedi’i leoli yng nghanol dinas Wrecsam, sy’n hawdd ei gyrraedd mewn car, bws, beic a thrên.
LL12 7AB
Bydd y sesiwn hon yn cwmpasu popeth sy’n ymwneud ag AI, gan gynnwys:
Sesiwn 1: Beth, Pam, Sut?
- Darganfod beth yw AI
- Pam y dylai fod yn bwysig i’ch busnes
- Deall a chymharu offer AI poblogaidd ar waith, gan gynnwys opsiynau taledig yn erbyn opsiynau am ddim
- Gweld sut y gallai eich busnes ddefnyddio AI i wella cynhyrchiant ac arloesedd.
Canlyniad: Dealltwriaeth o hanfodion AI a’r hyn y byddem yn ei alw’n “Tirwedd AI”.
Sesiwn 2: Gan Bwyll!
- Deall sut i ddefnyddio AI yn ddiogel ac yn gyfrifol o fewn eich busnes
- Dysgu am breifatrwydd data, ystyriaethau GDPR, moeseg a’r hyn na ddylech byth ei wneud wrth ddefnyddio offer AI
- Deall pam mae ymddiriedaeth, tryloywder ac arferion AI cyfrifol yn hanfodol ar gyfer mabwysiadu AI yn llwyddiannus
Canlyniad: Dealltwriaeth ar sut i ddefnyddio AI yn gyfrifol. Pwysigrwydd diogelu data eich busnes, Ystyriaethau allweddol sydd eu hangen i feithrin ymddiriedaeth a hyder wrth fabwysiadu AI.
Sesiwn 3: Gweithio’n Glyfrach (nid yn galetach!)
- Nodi ble mae amser, ymdrech a chynhyrchiant yn cael eu golli o fewn eich busnes.
- Mapio tasgau ailadroddus, aneffeithlonrwydd a chyfleoedd i weithio’n gallach
- Creu map sy’n amlygu ble y gall AI ychwanegu gwerth yn y dyfodol
Canlyniad: Dealltwriaeth o sut i nodi heriau cynhyrchiant o fewn eich busnes, mapio cyfleoedd ar gyfer gwelliant, a chydnabod ble y gallai AI gefnogi effeithlonrwydd yn y dyfodol.
Sesiwn 4: Eich Busnes DA
- Nodi eich heriau busnes eich hun a ble y gallai AI helpu i arbed amser, gwella cynhyrchiant a gweithio’n gallach
- Archwilio pa offer AI neu “bots” allai gefnogi eich anghenion busnes penodol
- Profi sut y gellir defnyddio AI yn ymarferol i ddatrys problem fusnes go iawn a nodi eich cyfle AI mwyaf gwerthfawr
Canlyniad: Nodi cyfleoedd lle gall AI ychwanegu gwerth i’ch busnes, dewis offer AI addas ar gyfer eich anghenion, a chreu syniad clir ar gyfer eich cam cyntaf tuag at fabwysiadu AI.
Sesiwn 5: Y Data Tu Ôl
- Deall pa data sydd gan eich busnes, ble mae’n cael ei gadw, ac a yw’n barod i gefnogi defnydd effeithiol o AI.
- Adolygu preifatrwydd, GDPR a risgiau allweddol drwy ddefnyddio rhestr wirio ymarferol.
- Nodi unrhyw faterion, rhwystrau neu “linellau coch” a allai fod angen cymorth pellach arnynt.
Canlyniad: Dealltwriaeth o bwysigrwydd parodrwydd data, sut i adolygu risgiau sy’n ymwneud ag AI ac ystyriaethau GDPR, a nodi’r camau nesaf sydd eu hangen i baratoi eich busnes ar gyfer mabwysiadu AI yn ddiogel.
Sesiwn 6: Adeiladu’r Peilot
- Dilyn arddangosiad ymarferol, cam wrth gam, i sefydlu offeryn AI a’i gymhwyso i’ch busnes.
- Creu, profi a mireinio prompts gyda’n gilydd, gan ddysgu sut i gyflawni canlyniadau gwell drwy brofi ac ailadrodd
- Defnyddio AI o fewn busnes eich hun, arbrofi gyda gwelliannau, a rhannu cynnydd drwy bwyntiau gwirio gyda’r garfan
Canlyniad: Cael profiad ymarferol o ddefnyddio offeryn AI, deall sut i greu prompts effeithiol, a nodi sut y gellir integreiddio AI i’ch busnes eich hun.
Sesiwn 7: Cyfrwch y Credydau
- Deall sut mae credydau AI yn gweithio a sut i wneud y defnydd mwyaf effeithiol o’ch dyraniad sydd ar gael
- Archwilio sut i reoli defnydd o offer AI, costau a’r gwerth i’ch busnes
- Dysgu sut i wneud y gorau o’ch buddsoddiad mewn offer AI drwy ddefnyddio ac arbrofi’n gallach.
Canlyniad: Deall sut mae credydau AI yn gweithio, sut i reoli defnydd yn effeithiol, a sut i gael y gwerth gorau o offer AI ar gyfer eich busnes.
Sesiwn 8: Camau Nesa
- Myfyrio ar eich taith AI hyd yma a nodi’r prif gyfleoedd ar gyfer eich busnes.
- Creu cynllun gweithredu AI ymarferol sy’n amlinellu eich camau nesaf, eich blaenoriaethau a’r meysydd i’w harchwilio ymhellach.
- Nodi’r cymorth sydd ei angen i barhau â’ch taith mabwysiadu AI gyda ni!
Amcanion Craidd:
- Cyfle i fabwysiadu AI mewn 48 awr
- Gweithio gydag arbenigwr 1:1
- Datblygu eich sgiliau
- Gweddnewid eich busnes
- Datblygu datrysiad AI
- a’r cyfan am ddim!
Ar gyfer pwy mae’r digwyddiad?
Perchnogion, rheolwyr a masnachwyr unigol BBaChau Cymru sy’n barod i ymrwymo dau ddiwrnod llawn i fabwysiadu AI ymarferol, gyda chymorth arbenigol 1:1.
Yn ddelfrydol i’r rhai sydd am symud y tu hwnt i ymwybyddiaeth a gadael gyda chynllun peilot gweithredol a chynllun gweithredu ar gyfer eu busnes eu hunain.
Nid oes angen cefndir technegol, dim ond dewch â chi’ch hun, gliniadur, a’ch cwestiynau.
Pwysig
Mae’r digwyddiad hwn ar gyfer busnesau bach a chanolig sydd wedi’u lleoli yng Nghymru ac mae’n gyfyngedig i ddau gynrychiolydd fesul busnes.
Wedi’i gyflwyno fel rhan o’r Rhaglen Ymwybyddiaeth a Mabwysiadu AI a ariannwyd yn llawn gan Busnes Cymru.
Dyddiadau a lleoliadau
Amodau arbennig
Mae Busnes Cymru yn wasanaeth dwyieithog ac mae ein digwyddiadau a'n gweithdai ar gael yn y Gymraeg a'r Saesneg, ar ôl cofrestru, rhowch wybod i ni beth yw eich dewisiadau iaith.
Termau
Gweler yma i weld sut mae Busnes Cymru yn trin eich gwybodaeth . Os ydych yn archebu lle ar ddigwyddiad Busnes Cymru neu Lywodraeth Cymru , mae'n bosibl y byddwn yn defnyddio'r wybodaeth a rowch i gynnig gwasanaethau personol neu leol chi , i roi gwybod i chi am newidiadau i'n gwasanaeth , i ofyn eich barn ac i helpu ni i wella ein gwasanaethau .
Mae wefannau y byddwn yn cysylltu â nhw yn debygol o fod gyda Thelerau ac Amodau sy'n wahanol i'n rhai ni . Peidiwch â chymryd yn ganiataol bod ein Telerau ac Amodau yn berthnasol i wefannau eraill.
Bydd y wybodaeth a ddarparwch fel rhan o'r archeb yn cael ei chadw am hyd at 7 diwrnod ar ôl i'r digwyddiad ddod i ben.
Gwybodaeth Ychwanegol
Trefnydd y digwyddiad
Busnes Cymru
Sarn Mynach
Llandudno Junction
Conwy
LL31 9RZ
United Kingdom: Wales