[ Neidio i Gynnwys ]

Ymunwch â gweminar Treth Trafodiadau Tir (TTT) Awdurdod Cyllid Cymru (ACC)

Bydd y sesiwn hwn yn cael ei gyflwyno yn Saesneg

Trosolwg

Cost: Am ddim

Mae'r digwyddiad hwn ar gyfer:  

  • pobl sy'n  ffeilio ffurflenni treth TTT neu’n talu TTT gydag ACC
  • cyfreithwyr
  • trawsgludwyr

Mae Awdurdod Cyllid Cymru (ACC) yn cynnal gweminarau treth rhad ac am ddim sy'n trafod agweddau ar TTT y mae cyfreithwyr a thrawsgludwyr wedi gofyn am ragor o hyfforddiant arnyn nhw.

Bydd y gweminarau yn canolbwyntio ar: 

  • eiddo adfeiliedig
  • cydnabyddiaeth drethadwy
  • gweinyddu treth

Gallwch hefyd gwrdd a sgwrsio ag arbenigwyr technegol o ACC a rhoi adborth am ein gwasanaethau.

 

Eiddo adfeiliedig ac eiddo na ellir byw ynddo

Beth fyddwch chi’n ei ddysgu

  • Beth yw eiddo adfeiliedig neu eiddo na ellir byw ynddo.
  • Ystyr ‘addas i'w ddefnyddio fel annedd’
  • Trosolwg o ganllawiau ACC, gan gynnwys enghreifftiau ymarferol i'ch helpu i ffeilio'r dreth iawn ar y cynnig cyntaf. Achosion treth diweddar ar y pwnc hwn.
   Dyddiadau ac amseroedd
  • Dydd Mercher 20 Tachwedd 2024, 2pm tan 3pm
  • Dydd Mawrth 28 Ionawr 2025, 10am tan 11am
  • Dydd Iau 6 Mawrth 2025, 2pm tan 3pm
 

Cydnabyddiaeth drethadwy gyda ffocws ar ddyled

Beth fyddwch chi’n ei ddysgu

  • Trosolwg o gydnabyddiaeth drethadwy ar gyfer TTT.
  • Sut mae'r rheolau ar gyfer gwahanol fathau o gydnabyddiaeth yn cael eu cymhwyso.
  • Ymholiadau cyffredin ac enghreifftiau, gan gynnwys dyled fel cydnabyddiaeth.
   Dyddiadau ac amseroedd
  • Dydd Iau 28 Tachwedd 2024, 11am tan 12pm.
  • Dydd Mercher 22 Ionawr 2025, 2pm tan 3pm.
  • Dydd Mawrth 18 Mawrth 2025, 10am tan 11pm.

 

Gweinyddu treth

Beth fyddwch chi’n ei ddysgu

  • Arfer gorau ar gyfer ffeilio ffurflen TTT.
  • Gwallau cyffredin ac awgrymiadau ar gyfer gwneud pethau'n iawn y tro cyntaf.
  • Trosolwg o offer a chanllawiau ACC
  • Cyfleoedd ymchwil defnyddwyr

Dyddiadau ac amseroedd

  • Dydd Mawrth 3 Rhagfyr 2024, 10am tan 11am.
  • Dydd Iau 16 Ionawr 2025, 11am tan 12pm.
  • Dydd Mercher 12 Mawrth 2025, 11am tan 12pm.

Ar ôl i chi gofrestru ar gyfer sesiwn, bydd dolen a fydd yn caniatáu ichi gofrestru ar gyfer y digwyddiad Teams yn cael ei chynnwys yn eich e-bost cadarnhau.

Dyddiadau

6 Mawrth 2025, 14:00 - 15:00
Digwyddiad ar-lein

Cost: Am ddim

Eiddo adfeiliedig ac eiddo na ellir byw ynddo

 
 Beth fyddwch chi’n ei ddysgu
  • Beth yw eiddo adfeiliedig neu eiddo na ellir byw ynddo.
  • Ystyr ‘addas i'w ddefnyddio fel annedd.’
  • Trosolwg o ganllawiau ACC, gan gynnwys enghreifftiau ymarferol i'ch helpu i ffeilio'r dreth iawn ar y cynnig cyntaf. Achosion treth diweddar ar y pwnc hwn.

Ar ôl i chi gofrestru ar gyfer sesiwn, bydd dolen a fydd yn caniatáu ichi gofrestru ar gyfer y digwyddiad Teams yn cael ei chynnwys yn eich e-bost cadarnhau.

12 Mawrth 2025, 11:00 - 12:00
Digwyddiad ar-lein

Cost: Am ddim

Gweinyddu treth

 
 Beth fyddwch chi’n ei ddysgu
  • Arfer gorau ar gyfer ffeilio ffurflen TTT.
  • Gwallau cyffredin ac awgrymiadau ar gyfer gwneud pethau'n iawn y tro cyntaf.
  • Trosolwg o offer a chanllawiau ACC.
  • Cyfleoedd ymchwil defnyddwyr.

Ar ôl i chi gofrestru ar gyfer sesiwn, bydd dolen a fydd yn caniatáu ichi gofrestru ar gyfer y digwyddiad Teams yn cael ei chynnwys yn eich e-bost cadarnhau.

18 Mawrth 2025, 10:00 - 11:00
Digwyddiad ar-lein

Cost: Am ddim

Cydnabyddiaeth drethadwy gyda ffocws ar ddyled

 
 Beth fyddwch chi’n ei ddysgu
  • Trosolwg o gydnabyddiaeth drethadwy ar gyfer TTT.
  • Sut mae'r rheolau ar gyfer gwahanol fathau o gydnabyddiaeth yn cael eu cymhwyso.
  • Ymholiadau cyffredin ac enghreifftiau, gan gynnwys dyled fel cydnabyddiaeth.

Ar ôl i chi gofrestru ar gyfer sesiwn, bydd dolen a fydd yn caniatáu ichi gofrestru ar gyfer y digwyddiad Teams yn cael ei chynnwys yn eich e-bost cadarnhau.

Termau

I gael gwybod sut mae Awdurdod Cyllid Cymru yn ymdrin â’ch gwybodaeth, gwelwch ei bolisi a hysbysiadau preifatrwydd

Trefnydd y digwyddiad

Awdurdod Cyllid Cymru
Welsh Government Buliding
King Edward Vii Avenue, Cathays Park (2),
Cardiff
CF10 3NQ
United Kingdom: Wales


03000254000
E-bost | Gwefan