Fordwyaeth
Cost: Am ddim
Fel rhan o gyfres unigryw o 15 taith fferm, mae Nigel Bowyer a’i deulu yn eich croesawu i ddiwrnod agored Rhwydwaith Ein Ffermydd Cyswllt Ffermio yn Ty Coch, i weld a chlywed mwy am y treialon ar y fferm y maent yn eu cynnal fel rhan o’r rhwydwaith.
Yn ystod y daith o amgylch y fferm, mi fydd siaradwyr arbenigol yn arddangos a thrafod y treialon sydd ar waith ar fferm Ty Coch ac mi fydd y pynciau canlynol yn cael eu trafod:
Ynglŷn â fferm Ty Coch:
Mae Tŷ Coch yn fenter ffermio gymysg sy’n cael ei ffermio gan Nigel Bowyer a’i deulu, ac mae’n cynnwys diadell o 260 o famogiaid a 70 o wartheg sy’n tyfu ac sy’n cael eu pesgi ynghyd â 30 erw o dir âr, gan dyfu cymysgedd o rawnfwydydd ac india-corn cartref fel porthiant i’r gwartheg.
Fel rhan o Rwydwaith Ein Ffermydd, mae Tŷ Coch yn canolbwyntio ar:
Mi fydd cyfle i gael sgwrs gyda rhanddeiliaid y diwydiant, gweld arddangosiadau a stondinau sy’n berthnasol i’r treialon ar y fferm.
Bydd lluniaeth ar gael ar ôl y daith o amgylch y fferm
Nid yw cofrestru yn hanfodol ond rydym yn eich annog i wneud ar gyfer dibenion arlwyo
Croeso cynnes i bawb ac edrychwn ymlaen at eich gweld ar fferm Ty Coch.
I neilltuo eich lle ar y digwyddiad hwn, cofrestrwch isod neu cysylltwch ag Elin Haf Williams: elin.haf.williams@mentera.cymru / 07985379890.
*Sicrhewch eich bod yn cwblhau pob cam yn y broses o 1 i 4 er mwyn archebu eich lle. Byddwch yn gweld neges “Diolch” unwaith y bydd pob cam wedi’i gwblhau.*
Telerau Busnes
Mae eich preifatrwydd yn bwysig i Cyswllt Ffermio ac yn unol â'r rheoliad diogelu data cyffredinol (GDPR), mae hysbysiad preifatrwydd digwyddiadau yn rhoi gwybod i chi pam ein bod yn casglu, defnyddio a phrosesu eich gwybodaeth a phwy fydd yn cael mynediad iddi. Drwy archebu lle ar gwrs neu ddigwyddiad Cyswllt Ffermio, rydych yn derbyn y telerau a'r amodau hyn.
Drwy drefnu lle yn un o ddigwyddiadau/cyrsiau Cyswllt Ffermio neu Lywodraeth Cymru, rydych yn derbyn telerau ac amodau cyffredinol defnyddio gwasanaethau ar-lein Llywodraeth Cymru, ac yn derbyn Hysbysiad Prosesu Teg Cyswllt Ffermio.
Gallwn hefyd ddefnyddio'r wybodaeth rydych yn ei rhoi i gynnig gwasanaethau personol neu leol i chi, rhoi gwybod i chi am newidiadau i'n gwasanaeth, holi eich barn a'n helpu i wella ein gwasanaethau.
Mae'n debygol y bydd gan wefannau rydym yn rhoi dolen iddynt Delerau ac Amodau sy'n wahanol i'n rhai ni. Peidiwch â thybio bod ein Telerau ac Amodau yn berthnasol i wefannau eraill.
Mae cynrychiolwyr yn cydnabod bod deunyddiau cyrsiau a rhaglenni neu gopïau ohonynt yn eiddo i ddarparwyr hyfforddiant ac y gallant fod yn destun hawlfraint. Cytunir na fydd cynrychiolydd na'i gorff noddi yn copïo'r deunyddiau hynny, yn llawn neu'n rhannol, heb gael caniatâd ysgrifenedig darparwr yr hyfforddiant.
Rydym yn cadw'r hawl i ganslo neu ddiwygio amser y sesiynau hyn unrhyw bryd hyd at amser dechrau'r sesiwn; rhoddir gwybodaeth unigol am bob cwrs.
Gall cynrychiolwyr hefyd ganslo eu lle unrhyw bryd drwy ddilyn y ddolen yn yr e-bost a gawsant fel cadarnhad neu drwy gysylltu â'r Ganolfan Gwasanaethau.
Mae Canolfan Gwasanaethau Cyswllt Ffermio ar agor o ddydd Llun i ddydd Gwener rhwng 08:00 a 17:00 ac eithrio Gwyliau Cyhoeddus.
I gael rhagor o wybodaeth am Gyswllt Ffermio, ewch i'n gwefan neu ffoniwch ni ar 03456 000 813.
Mae'r cyfeiriadur yn cynnwys gwybodaeth am ddigwyddiadau sy'n cael eu cynnig gan Gyswllt Ffermio, Llywodraeth Cymru a darparwyr eraill yn y sector cyhoeddus a phreifat. Nid ydym yn gyfrifol am wybodaeth am ddigwyddiadau sy'n cael eu cynnig gan ddarparwyr eraill ac ni allwn gymryd cyfrifoldeb am yr hyn a allai ddigwydd pe baech yn gweithredu ar yr wybodaeth honno.
Farming Connect
Farming Connect
Unit 3, Science Park
Aberystwyth
SY23 3AH
United Kingdom: Wales