[ Neidio i Gynnwys ]

Ymweld ag Ein Ffermydd - Medi 2025 - Brynllech Uchaf

Trosolwg

Cost: Am ddim

Fel rhan o gyfres flynyddol o 22 ymweliad fferm ledled Cymru, mae Rhodri a Claire a’r teulu yn eich gwahodd i ddiwrnod agored Rhwydwaith Ein Ffermydd Cyswllt Ffermio ar fferm Brynllech Uchaf, i weld a chlywed mwy am y prosiectau sydd ar waith fel rhan o'r rhwydwaith.

Yn ystod yr ymweliad, mi fydd siaradwyr arbenigol yn arddangos a thrafod y treialon sydd ar waith ar fferm Brynllech Uchaf, a bydd y pynciau canlynol yn cael sylw:

  • Trechu Parasitiaid, nid eich Cyllideb: Canllaw Ymarferol i TST a Thechnoleg Fforddiadwy
  • Cysylltedd y Rhyngrwyd mewn Tirwedd Anodd
  • Gwndwn Pori Mewnbwn Isel ar yr ucheldir
  • Mantais Fuddiol i Ffermwyr: Gwella effeithlonrwydd, a lleihau'r ôl troed carbon

Ynglŷn â Brynllech Uchaf:

Wedi'i lleoli yn Sir Feirionnydd, mae Brynllech Uchaf yn fferm 263ha

Mae’r fferm yn dal buches o 35 o wartheg duon Cymreig sy’n lloia, yn bennaf yn y gwanwyn, diadell o 680 o ddefaid mynydd Cymreig a 40 o famogiaid pedigri Suffolk.

Fel rhan o’r rhwydwaith Ein Ffermydd, mae Brynllech Uchaf yn canolbwyntio ar:

  • Iechyd a pherfformiad y gwartheg
  • Lleihau gwariant a dibyniaeth ar borthiant a brynir i mewn
  • Canfod porfa / porfa gymysg sy’n gweddu i’r system, y tir a’r hinsawdd

Bydd cyfle hefyd i gael sgwrs â rhanddeiliaid y diwydiant a gweld arddangosiadau o wahanol dechnolegau sy'n gysylltiedig â'r gwaith prosiect ar wahanol stondinau.

Bydd lluniaeth ar gael ar ôl y daith o amgylch y fferm.

Nid yw cofrestru yn hanfodol ond rydym yn eich annog i wneud ar gyfer ddibenion arlwyo

Mae croeso cynnes i bawb ac rydym yn edrych ymlaen at eich gweld ar fferm Brynllech Uchaf.

I neilltuo eich lle ar y digwyddiad hwn, cofrestrwch isod neu cysylltwch â owain.pugh@mentera.cymru / 07939 269068.

Sicrhewch eich bod yn cwblhau pob cam yn y broses o 1 i 4 er mwyn archebu eich lle. Byddwch yn gweld neges “Diolch” unwaith y bydd pob cam wedi’i gwblhau. 

Dyddiadau a lleoliadau

18 Medi 2025, 16:00 - 19:00
Brynllech Uchaf, Y Bala, LL23 7SU

Cost: Am ddim

Gweld lleoliad

Termau

Telerau Busnes

Mae eich preifatrwydd yn bwysig i Cyswllt Ffermio ac yn unol â'r rheoliad diogelu data cyffredinol (GDPR), mae hysbysiad preifatrwydd digwyddiadau yn rhoi gwybod i chi pam ein bod yn casglu, defnyddio a phrosesu eich gwybodaeth a phwy fydd yn cael mynediad iddi. Drwy archebu lle ar gwrs neu ddigwyddiad Cyswllt Ffermio, rydych yn derbyn y telerau a'r amodau hyn.

Drwy drefnu lle yn un o ddigwyddiadau/cyrsiau Cyswllt Ffermio neu Lywodraeth Cymru, rydych yn derbyn telerau ac amodau cyffredinol defnyddio gwasanaethau ar-lein Llywodraeth Cymru, ac yn derbyn Hysbysiad Prosesu Teg Cyswllt Ffermio.
Gallwn hefyd ddefnyddio'r wybodaeth rydych yn ei rhoi i gynnig gwasanaethau personol neu leol i chi, rhoi gwybod i chi am newidiadau i'n gwasanaeth, holi eich barn a'n helpu i wella ein gwasanaethau.
Mae'n debygol y bydd gan wefannau rydym yn rhoi dolen iddynt Delerau ac Amodau sy'n wahanol i'n rhai ni. Peidiwch â thybio bod ein Telerau ac Amodau yn berthnasol i wefannau eraill.
Mae cynrychiolwyr yn cydnabod bod deunyddiau cyrsiau a rhaglenni neu gopïau ohonynt yn eiddo i ddarparwyr hyfforddiant ac y gallant fod yn destun hawlfraint. Cytunir na fydd cynrychiolydd na'i gorff noddi yn copïo'r deunyddiau hynny, yn llawn neu'n rhannol, heb gael caniatâd ysgrifenedig darparwr yr hyfforddiant.
Rydym yn cadw'r hawl i ganslo neu ddiwygio amser y sesiynau hyn unrhyw bryd hyd at amser dechrau'r sesiwn; rhoddir gwybodaeth unigol am bob cwrs.
Gall cynrychiolwyr hefyd ganslo eu lle unrhyw bryd drwy ddilyn y ddolen yn yr e-bost a gawsant fel cadarnhad neu drwy gysylltu â'r Ganolfan Gwasanaethau.
Mae Canolfan Gwasanaethau Cyswllt Ffermio ar agor o ddydd Llun i ddydd Gwener rhwng 08:00 a 17:00 ac eithrio Gwyliau Cyhoeddus.
I gael rhagor o wybodaeth am Gyswllt Ffermio, ewch i'n gwefan neu ffoniwch ni ar 03456 000 813.
Mae'r cyfeiriadur yn cynnwys gwybodaeth am ddigwyddiadau sy'n cael eu cynnig gan Gyswllt Ffermio, Llywodraeth Cymru a darparwyr eraill yn y sector cyhoeddus a phreifat. Nid ydym yn gyfrifol am wybodaeth am ddigwyddiadau sy'n cael eu cynnig gan ddarparwyr eraill ac ni allwn gymryd cyfrifoldeb am yr hyn a allai ddigwydd pe baech yn gweithredu ar yr wybodaeth honno.

Trefnydd y digwyddiad

Farming Connect
Farming Connect
Unit 3, Science Park
Aberystwyth
SY23 3AH
United Kingdom: Wales


03456 000 813
E-bost | Gwefan