[ Neidio i Gynnwys ]

Ymweld ag Ein Ffermydd - Medi 2025 - Gwern Y Go

Trosolwg

Cost: Am ddim

Sicrhewch eich b

Fel rhan o gyfres flynyddol o 22 ymweliad fferm ledled Cymru, mae Andrew, Michael, Edward a'r teulu yn eich gwahodd i ddiwrnod agored Rhwydwaith Ein Ffermydd Cyswllt Ffermio ar fferm Gwern y Go, i weld a chlywed mwy am y prosiect sydd ar waith fel rhan o'r rhwydwaith.

Yn ystod yr ymweliad, mi fydd siaradwyr arbenigol yn arddangos a thrafod y treialon sydd ar waith ar fferm Gwern y Go a bydd y pynciau canlynol yn cael sylw:

  • A yw rhoi Instinct gan Corteva, sy’n gynnyrch microbaidd gwrtaith carbon hylifol a L-CBF BOOSTtm sy'n bwydo'r pridd, yn gwella cynnyrch india-corn ac yn caniatáu i'r fferm leihau'r defnydd o Nitrogen artiffisial?
  • Bydd Agronomegydd profiadol a rheolwr ardal Corteva Ryan Came-Johnson yn rhannu canlyniadau arbrofion gwahanol y maent wedi bod yn eu cynnal yn ogystal â thrafodaeth ar iechyd y pridd a charbon.
  • Byddwn hefyd yn cael taith o amgylch y fferm i edrych ar y mentrau eraill fel y Moch sy'n cael eu cadw ar gontract gwely a brecwast, yr uned ddefaid, cnydau âr a rhai mentrau arallgyfeirio diweddar ar y fferm.

Wedi'i lleoli ger y Drenewydd, mae Gwern Y Go yn fferm 300 hectar sy'n cynnwys rhywfaint o dir âr ar lawr gwlad a thir mynydd sy'n addas ar gyfer pori defaid.

Mae 180 hectar o dir ar lawr gwlad yn cael ei dyfu ar gyfer tir âr ar y fferm sy'n cynnwys cnydau gwenith, haidd y gaeaf ac india-corn, mae gweddill y tir yn laswellt ac yn cael ei bori gan 700 o famogiaid cymysg hanner a hanner croesfrid a Chymreig, a 150 o ŵyn benyw sych fel defaid cyfnewid. Mae'r fferm hefyd yn pesgi 6,000 o foch y flwyddyn yn ogystal â mentrau arallgyfeirio newydd megis casglu pwmpenni eich hun a thiwlipau sydd ar agor yn dymhorol.

Bydd cyfle hefyd i gael sgwrs â rhanddeiliaid y diwydiant a gweld arddangosiadau o wahanol dechnolegau sy'n gysylltiedig â'r gwaith prosiect ar wahanol stondinau.

Bydd lluniaeth ar gael ar ôl y daith o amgylch y fferm.

Nid yw cofrestru yn hanfodol ond rydym yn eich annog i wneud ar gyfer dibenion arlwyo

I neilltuo eich lle ar y digwyddiad hwn, cofrestrwch isod neu cysylltwch ag Osian Hughes: osian.hughes@mentera.cymru / 07985379880

Mae croeso cynnes i bawb ac rydym yn edrych ymlaen at eich gweld ar fferm Gwern y Go

Sicrhewch eich bod cwblhau pob cam yn y broses o 1 i 4 er mwyn archebu eich lle. Byddwch yn gweld neges “Diolch” unwaith y bydd pob cam wedi’i gwblhau. 

Dyddiadau a lleoliadau

9 Medi 2025, 15:00 - 18:00
Gwern Y Go, Newtown, SY16 4EP

Cost: Am ddim

Gweld lleoliad

Termau

Telerau Busnes

Mae eich preifatrwydd yn bwysig i Cyswllt Ffermio ac yn unol â'r rheoliad diogelu data cyffredinol (GDPR), mae hysbysiad preifatrwydd digwyddiadau yn rhoi gwybod i chi pam ein bod yn casglu, defnyddio a phrosesu eich gwybodaeth a phwy fydd yn cael mynediad iddi. Drwy archebu lle ar gwrs neu ddigwyddiad Cyswllt Ffermio, rydych yn derbyn y telerau a'r amodau hyn.

Drwy drefnu lle yn un o ddigwyddiadau/cyrsiau Cyswllt Ffermio neu Lywodraeth Cymru, rydych yn derbyn telerau ac amodau cyffredinol defnyddio gwasanaethau ar-lein Llywodraeth Cymru, ac yn derbyn Hysbysiad Prosesu Teg Cyswllt Ffermio.
Gallwn hefyd ddefnyddio'r wybodaeth rydych yn ei rhoi i gynnig gwasanaethau personol neu leol i chi, rhoi gwybod i chi am newidiadau i'n gwasanaeth, holi eich barn a'n helpu i wella ein gwasanaethau.
Mae'n debygol y bydd gan wefannau rydym yn rhoi dolen iddynt Delerau ac Amodau sy'n wahanol i'n rhai ni. Peidiwch â thybio bod ein Telerau ac Amodau yn berthnasol i wefannau eraill.
Mae cynrychiolwyr yn cydnabod bod deunyddiau cyrsiau a rhaglenni neu gopïau ohonynt yn eiddo i ddarparwyr hyfforddiant ac y gallant fod yn destun hawlfraint. Cytunir na fydd cynrychiolydd na'i gorff noddi yn copïo'r deunyddiau hynny, yn llawn neu'n rhannol, heb gael caniatâd ysgrifenedig darparwr yr hyfforddiant.
Rydym yn cadw'r hawl i ganslo neu ddiwygio amser y sesiynau hyn unrhyw bryd hyd at amser dechrau'r sesiwn; rhoddir gwybodaeth unigol am bob cwrs.
Gall cynrychiolwyr hefyd ganslo eu lle unrhyw bryd drwy ddilyn y ddolen yn yr e-bost a gawsant fel cadarnhad neu drwy gysylltu â'r Ganolfan Gwasanaethau.
Mae Canolfan Gwasanaethau Cyswllt Ffermio ar agor o ddydd Llun i ddydd Gwener rhwng 08:00 a 17:00 ac eithrio Gwyliau Cyhoeddus.
I gael rhagor o wybodaeth am Gyswllt Ffermio, ewch i'n gwefan neu ffoniwch ni ar 03456 000 813.
Mae'r cyfeiriadur yn cynnwys gwybodaeth am ddigwyddiadau sy'n cael eu cynnig gan Gyswllt Ffermio, Llywodraeth Cymru a darparwyr eraill yn y sector cyhoeddus a phreifat. Nid ydym yn gyfrifol am wybodaeth am ddigwyddiadau sy'n cael eu cynnig gan ddarparwyr eraill ac ni allwn gymryd cyfrifoldeb am yr hyn a allai ddigwydd pe baech yn gweithredu ar yr wybodaeth honno.

Trefnydd y digwyddiad

Farming Connect
Farming Connect
Unit 3, Science Park
Aberystwyth
SY23 3AH
United Kingdom: Wales


03456 000 813
E-bost | Gwefan