[ Neidio i Gynnwys ]

Ymweld ag Ein Ffermydd - Medi 2025 - Pencedni

Trosolwg

Cost: Am ddim

Fel rhan o gyfres flynyddol o 22 ymweliad fferm ledled Cymru, mae Tom Clare a Jacqui Banks yn eich croesawu i ddiwrnod agored Rhwydwaith Ein Ffermydd Ffermio Cymru ar fferm Pencedni i weld a chlywed mwy am y prosiectau sydd ar waith fel rhan o'r rhwydwaith.

Yn ystod yr ymweliad, mi fydd siaradwyr arbenigol yn arddangos a thrafod y treialon sydd ar waith ar fferm Pencedni a bydd y pynciau canlynol yn cael sylw:

  • Gorsaf 1: Crafu dan yr wyneb - Adeiladu Gwytnwch yn Ecosystem y fferm a Thu Hwnt i'r Gwraidd: Archwilio Maeth sy'n Seiliedig ar Ddeilen – Proteinau, Fitaminau, a Mwynau - Geraint Jones
  • Cydnabod Pwysigrwydd Pryfed: Amlygu rôl hanfodol pryfed yn ffrwythlondeb y pridd ac ecosystem y fferm. - Tom Clare

Ynglŷn â Fferm Pencedni

Mae Fferm Pencedni wedi'i lleoli i'r de o Grymych a Bryniau'r Preseli ar gyrion pentref Glandwr yng Ngogledd Sir Benfro'r. Mae'r tyddyn 10 erw yn enghraifft o ddiddordeb cynyddol mewn amaethyddiaeth adfywiol ac integreiddio coed i mewn i systemau ffermio trwy amaeth-goedwigaeth. Mae'r tyddyn a reolir gan Tom Clare a Jacqui Banks, eisoes wedi sefydlu coed i ategu ei system bori i fwydo diadell fechan o ddefaid Torwen.

Fel rhan o Rwydwaith Ein Ffermydd, mae Pencedni'n canolbwyntio ar:

  • Rhywogaethau Coed a Llwyni Amrywiol: Darganfod sut y gall integreiddio gwahanol rywogaethau coed a llwyni fod o fudd i faeth anifeiliaid drwy borfa a darparu "gwair coed" fel porthiant wedi'i gadw, gan ystyried eu heffaith ar fioamrywiaeth leol.
  • Ffyngau Mycorhisa: Dysgu am rôl hanfodol y ffyngau symbiotig hyn wrth wella ffrwythlondeb y pridd a gwytnwch planhigion o fewn ein system amaeth-goedwigaeth.
  • Biomas Pryfed: Edrych ar sut mae deall poblogaethau pryfed yn cyfrannu at gylch maetholion hanfodol ac iechyd cyffredinol yr ecosystem.

Bydd cyfle hefyd i gael sgwrs â rhanddeiliaid y diwydiant a gweld arddangosiadau o wahanol dechnolegau sy'n gysylltiedig â'r gwaith prosiect ar wahanol stondinau.

Bydd lluniaeth ar gael ar ôl y daith o amgylch y fferm.

Nid yw cofrestru yn hanfodol ond rydym yn eich annog i wneud ar gyfer dibenion arlwyo

Croeso cynnes i bawb ac edrychwn ymlaen at eich gweld ar fferm Pencedni.

I neilltuo eich lle ar y digwyddiad hwn, cofrestrwch isod neu cysylltwch â Geraint Jones 07398178698 neu Geraint.jones@mentera.cymru

Sicrhewch eich bod yn cwblhau pob cam yn y broses o 1 i 4 er mwyn archebu eich lle. Byddwch yn gweld neges “Diolch” unwaith y bydd pob cam wedi’i gwblhau. 

What 3 Words: ///entertainer.reclusive.hints

Dyddiadau a lleoliadau

13 Medi 2025, 15:00 - 17:00
Pencedni, Glandwr, SA34 0YD

Cost: Am ddim

Gweld lleoliad

Termau

Telerau Busnes

Mae eich preifatrwydd yn bwysig i Cyswllt Ffermio ac yn unol â'r rheoliad diogelu data cyffredinol (GDPR), mae hysbysiad preifatrwydd digwyddiadau yn rhoi gwybod i chi pam ein bod yn casglu, defnyddio a phrosesu eich gwybodaeth a phwy fydd yn cael mynediad iddi. Drwy archebu lle ar gwrs neu ddigwyddiad Cyswllt Ffermio, rydych yn derbyn y telerau a'r amodau hyn.

Drwy drefnu lle yn un o ddigwyddiadau/cyrsiau Cyswllt Ffermio neu Lywodraeth Cymru, rydych yn derbyn telerau ac amodau cyffredinol defnyddio gwasanaethau ar-lein Llywodraeth Cymru, ac yn derbyn Hysbysiad Prosesu Teg Cyswllt Ffermio.
Gallwn hefyd ddefnyddio'r wybodaeth rydych yn ei rhoi i gynnig gwasanaethau personol neu leol i chi, rhoi gwybod i chi am newidiadau i'n gwasanaeth, holi eich barn a'n helpu i wella ein gwasanaethau.
Mae'n debygol y bydd gan wefannau rydym yn rhoi dolen iddynt Delerau ac Amodau sy'n wahanol i'n rhai ni. Peidiwch â thybio bod ein Telerau ac Amodau yn berthnasol i wefannau eraill.
Mae cynrychiolwyr yn cydnabod bod deunyddiau cyrsiau a rhaglenni neu gopïau ohonynt yn eiddo i ddarparwyr hyfforddiant ac y gallant fod yn destun hawlfraint. Cytunir na fydd cynrychiolydd na'i gorff noddi yn copïo'r deunyddiau hynny, yn llawn neu'n rhannol, heb gael caniatâd ysgrifenedig darparwr yr hyfforddiant.
Rydym yn cadw'r hawl i ganslo neu ddiwygio amser y sesiynau hyn unrhyw bryd hyd at amser dechrau'r sesiwn; rhoddir gwybodaeth unigol am bob cwrs.
Gall cynrychiolwyr hefyd ganslo eu lle unrhyw bryd drwy ddilyn y ddolen yn yr e-bost a gawsant fel cadarnhad neu drwy gysylltu â'r Ganolfan Gwasanaethau.
Mae Canolfan Gwasanaethau Cyswllt Ffermio ar agor o ddydd Llun i ddydd Gwener rhwng 08:00 a 17:00 ac eithrio Gwyliau Cyhoeddus.
I gael rhagor o wybodaeth am Gyswllt Ffermio, ewch i'n gwefan neu ffoniwch ni ar 03456 000 813.
Mae'r cyfeiriadur yn cynnwys gwybodaeth am ddigwyddiadau sy'n cael eu cynnig gan Gyswllt Ffermio, Llywodraeth Cymru a darparwyr eraill yn y sector cyhoeddus a phreifat. Nid ydym yn gyfrifol am wybodaeth am ddigwyddiadau sy'n cael eu cynnig gan ddarparwyr eraill ac ni allwn gymryd cyfrifoldeb am yr hyn a allai ddigwydd pe baech yn gweithredu ar yr wybodaeth honno.

Trefnydd y digwyddiad

Farming Connect
Farming Connect
Unit 3, Science Park
Aberystwyth
SY23 3AH
United Kingdom: Wales


03456 000 813
E-bost | Gwefan