Fordwyaeth
Cost: Am ddim
Fel rhan o gyfres flynyddol o 22 ymweliad fferm ledled Cymru, mae Richard Twose a’r teulu yn eich gwahodd i ddiwrnod agored Rhwydwaith Ein Ffermydd Cyswllt Ffermio ar fferm Maenhir i weld a chlywed mwy am Raglen Geneteg Defaid Cymru.
Yn ystod yr ymweliad, mi fydd siaradwyr arbenigol yn trafod y pynciau canlynol:
Ynglŷn â Fferm Maenhir
Fferm deuluol a thraddodiadol ar y ffin rhwng Sir Gaerfyrddin a Sir Benfro yw Maenhir, sydd yn gartref i'r teulu Twose. Maent yn godro 400 o wartheg Holstein pur ar gontract caws sy'n gysylltiedig â manwerthwyr, gyda dilynwyr hefyd yn rhan o’r fuches. Yn ddiweddar, bu iddynt newid i system lloia yn yr hydref er mwyn gwella effeithlonrwydd.
Mae'r fenter dda byw hefyd yn cynnwys 15–20 o wartheg Hereford pur a 280 o famogiaid pur Lleyn ble mae eu perfformiad yn cael ei gofnodi. Mae’r ddiadell wedi’i hachredu yn MV ac oll wedi’u brechu yn erbyn y clefyd Johne’s gyda’r prif ffocws ar iechyd a chynhyrchiant.
Yn ymestyn dros 750 erw, mae'r fferm yn laswelltir yn bennaf, gyda 30 erw o haidd y gwanwyn yn cael ei dyfu fel cnwd cyfan i gefnogi ail-hadu yn yr hydref. Eleni, tyfwyd 9 erw arall o rwden, maip, a chêl, ynghyd â 3 erw o laswellt Westwood gyda’r nod o ddarparu porthiant i'r defaid yn y gaeaf er mwyn amddiffyn y tir silwair drwy gadw'r defaid ar borfa ddynodedig.
Bydd cyfle hefyd i gael sgwrs â rhanddeiliaid y diwydiant a gweld arddangosiadau o wahanol dechnolegau sy'n gysylltiedig â'r gwaith y mae Maenhir wedi bod ynghlwm ag ef fel rhan o'r Rhaglen Geneteg Defaid Cymru.
Bydd lluniaeth ar gael ar ôl y digwyddiad.
Nid yw cofrestru yn hanfodol ond rydym yn eich annog i wneud ar gyfer dibenion arlwyo.
I neilltuo eich lle ar y digwyddiad hwn, cofrestrwch isod neu cysylltwch â Ffion Havard (ffion.havard@mentera.cymru / 07572 167 878)
Mae croeso cynnes i bawb ac rydym yn edrych ymlaen at eich gweld ar fferm Maenhir.
Sicrhewch eich bod yn cwblhau pob cam yn y broses o 1 i 4 er mwyn archebu eich lle. Byddwch yn gweld neges “Diolch” unwaith y bydd pob cam wedi’i gwblhau.
Telerau Busnes
Mae eich preifatrwydd yn bwysig i Cyswllt Ffermio ac yn unol â'r rheoliad diogelu data cyffredinol (GDPR), mae hysbysiad preifatrwydd digwyddiadau yn rhoi gwybod i chi pam ein bod yn casglu, defnyddio a phrosesu eich gwybodaeth a phwy fydd yn cael mynediad iddi. Drwy archebu lle ar gwrs neu ddigwyddiad Cyswllt Ffermio, rydych yn derbyn y telerau a'r amodau hyn.
Drwy drefnu lle yn un o ddigwyddiadau/cyrsiau Cyswllt Ffermio neu Lywodraeth Cymru, rydych yn derbyn telerau ac amodau cyffredinol defnyddio gwasanaethau ar-lein Llywodraeth Cymru, ac yn derbyn Hysbysiad Prosesu Teg Cyswllt Ffermio.
Gallwn hefyd ddefnyddio'r wybodaeth rydych yn ei rhoi i gynnig gwasanaethau personol neu leol i chi, rhoi gwybod i chi am newidiadau i'n gwasanaeth, holi eich barn a'n helpu i wella ein gwasanaethau.
Mae'n debygol y bydd gan wefannau rydym yn rhoi dolen iddynt Delerau ac Amodau sy'n wahanol i'n rhai ni. Peidiwch â thybio bod ein Telerau ac Amodau yn berthnasol i wefannau eraill.
Mae cynrychiolwyr yn cydnabod bod deunyddiau cyrsiau a rhaglenni neu gopïau ohonynt yn eiddo i ddarparwyr hyfforddiant ac y gallant fod yn destun hawlfraint. Cytunir na fydd cynrychiolydd na'i gorff noddi yn copïo'r deunyddiau hynny, yn llawn neu'n rhannol, heb gael caniatâd ysgrifenedig darparwr yr hyfforddiant.
Rydym yn cadw'r hawl i ganslo neu ddiwygio amser y sesiynau hyn unrhyw bryd hyd at amser dechrau'r sesiwn; rhoddir gwybodaeth unigol am bob cwrs.
Gall cynrychiolwyr hefyd ganslo eu lle unrhyw bryd drwy ddilyn y ddolen yn yr e-bost a gawsant fel cadarnhad neu drwy gysylltu â'r Ganolfan Gwasanaethau.
Mae Canolfan Gwasanaethau Cyswllt Ffermio ar agor o ddydd Llun i ddydd Gwener rhwng 08:00 a 17:00 ac eithrio Gwyliau Cyhoeddus.
I gael rhagor o wybodaeth am Gyswllt Ffermio, ewch i'n gwefan neu ffoniwch ni ar 03456 000 813.
Mae'r cyfeiriadur yn cynnwys gwybodaeth am ddigwyddiadau sy'n cael eu cynnig gan Gyswllt Ffermio, Llywodraeth Cymru a darparwyr eraill yn y sector cyhoeddus a phreifat. Nid ydym yn gyfrifol am wybodaeth am ddigwyddiadau sy'n cael eu cynnig gan ddarparwyr eraill ac ni allwn gymryd cyfrifoldeb am yr hyn a allai ddigwydd pe baech yn gweithredu ar yr wybodaeth honno.
Farming Connect
Farming Connect
Unit 3, Science Park
Aberystwyth
SY23 3AH
United Kingdom: Wales