Fordwyaeth
Cost: Am ddim
Ymunwch â ni ar daith o amgylch meithrinfeydd Coedwig Maelor (rhan o Tilhill Forestry Ltd) yn Wrecsam. Meithrinfeydd Coedwig Maelor yw’r feithrinfa goedwig fwyaf yn y DU. Maent yn tyfu dros dri deg miliwn o goed gwreiddiau noeth a choed wedi’u tyfu mewn celloedd bob blwyddyn ar gyfer y sectorau coedwigaeth, creu coetir ac amaethyddol.
Byddwn yn cael cyflwyniad i'r busnes yn y ganolfan ymwelwyr, gan gynnwys hanes y meithrinfeydd a rôl gynyddol bwysig pren yn y sectorau adeiladu yn y dyfodol, gan gynnwys sut mae gan wahanol rywogaethau wahanol ddefnyddiau ar ôl iddynt gael eu cwympo. Byddwn yn mynd ar daith o amgylch safle'r feithrinfa, gan weld y planhigion bach mewn plygiau a’r planhigion a dyfir yn y tir sy’n cael eu cynhyrchu yno, yn ogystal â rhai o'r perllannau hadau ar y safle a'r uned prosesu hadau. Byddwn yn dysgu gan eu tyfwyr am eu dulliau cynhyrchu, a sut maen nhw'n lluosogi ar raddfa fawr i ateb y galw; byddwn yn gweld hadau’n cael eu hau’n awtomataidd ar raddfa fawr. Byddwn hefyd yn clywed am ddefnydd y cwmni o gnydau gorchudd yn eu system gynhyrchu i hybu iechyd y pridd a chynyddu lefelau’r deunydd organig yn y pridd.
Amcanion Dysgu:
· Deall technegau lluosogi a ddefnyddir wrth gynhyrchu rhywogaethau coed sy'n bwysig yn fasnachol, mewn cynwysyddion ac yn y tir (gan gynnwys rhywogaethau llydanddail)
· Deall gofynion maeth coed a stoc arall y feithrinfa
· Deall faint o le sydd ei angen ar goed mewn lleoliad cynhyrchu meithrinfa
· Deall sut mae arferion cynaliadwyedd wedi'u hymgorffori yn eu system dyfu, a sut i ail-greu hyn yn eich busnes
· Deall sut i atal plâu a chlefydau a rheoli coed ifanc mewn meithrinfeydd cynhyrchu.
Telerau Busnes
Mae eich preifatrwydd yn bwysig i Cyswllt Ffermio ac yn unol â'r rheoliad diogelu data cyffredinol (GDPR), mae hysbysiad preifatrwydd digwyddiadau yn rhoi gwybod i chi pam ein bod yn casglu, defnyddio a phrosesu eich gwybodaeth a phwy fydd yn cael mynediad iddi. Drwy archebu lle ar gwrs neu ddigwyddiad Cyswllt Ffermio, rydych yn derbyn y telerau a'r amodau hyn.
Drwy drefnu lle yn un o ddigwyddiadau/cyrsiau Cyswllt Ffermio neu Lywodraeth Cymru, rydych yn derbyn telerau ac amodau cyffredinol defnyddio gwasanaethau ar-lein Llywodraeth Cymru, ac yn derbyn Hysbysiad Prosesu Teg Cyswllt Ffermio.
Gallwn hefyd ddefnyddio'r wybodaeth rydych yn ei rhoi i gynnig gwasanaethau personol neu leol i chi, rhoi gwybod i chi am newidiadau i'n gwasanaeth, holi eich barn a'n helpu i wella ein gwasanaethau.
Mae'n debygol y bydd gan wefannau rydym yn rhoi dolen iddynt Delerau ac Amodau sy'n wahanol i'n rhai ni. Peidiwch â thybio bod ein Telerau ac Amodau yn berthnasol i wefannau eraill.
Mae cynrychiolwyr yn cydnabod bod deunyddiau cyrsiau a rhaglenni neu gopïau ohonynt yn eiddo i ddarparwyr hyfforddiant ac y gallant fod yn destun hawlfraint. Cytunir na fydd cynrychiolydd na'i gorff noddi yn copïo'r deunyddiau hynny, yn llawn neu'n rhannol, heb gael caniatâd ysgrifenedig darparwr yr hyfforddiant.
Rydym yn cadw'r hawl i ganslo neu ddiwygio amser y sesiynau hyn unrhyw bryd hyd at amser dechrau'r sesiwn; rhoddir gwybodaeth unigol am bob cwrs.
Gall cynrychiolwyr hefyd ganslo eu lle unrhyw bryd drwy ddilyn y ddolen yn yr e-bost a gawsant fel cadarnhad neu drwy gysylltu â'r Ganolfan Gwasanaethau.
Mae Canolfan Gwasanaethau Cyswllt Ffermio ar agor o ddydd Llun i ddydd Gwener rhwng 08:00 a 17:00 ac eithrio Gwyliau Cyhoeddus.
I gael rhagor o wybodaeth am Gyswllt Ffermio, ewch i'n gwefan neu ffoniwch ni ar 03456 000 813.
Mae'r cyfeiriadur yn cynnwys gwybodaeth am ddigwyddiadau sy'n cael eu cynnig gan Gyswllt Ffermio, Llywodraeth Cymru a darparwyr eraill yn y sector cyhoeddus a phreifat. Nid ydym yn gyfrifol am wybodaeth am ddigwyddiadau sy'n cael eu cynnig gan ddarparwyr eraill ac ni allwn gymryd cyfrifoldeb am yr hyn a allai ddigwydd pe baech yn gweithredu ar yr wybodaeth honno.
Farming Connect
Farming Connect
Unit 3, Science Park
Aberystwyth
SY23 3AH
United Kingdom: Wales