“Ysgrifennu Ceisiadau Safon Uwch - canllawiau ar sut i greu tendrau buddugol.”
Trosolwg
Cost: Am ddim
Ymunwch ag arbenigwr ysgrifennu tendrau Jamie Edwards o gwmni Tender Write am sesiwn hyfforddi llawn ffeithiau ar sut i symud eich sgiliau ysgrifennu tendrau i’r lefel nesaf. A ydych chi’n tendro i’r sector breifat a chyhoeddus? Yna mae’r cwrs yma i chi.
Wedi ei ariannu gan Busnes Cymru, bydd y cwrs newydd yma yn rhoi mewnwelediad ffres a chanllawiau ymarferol clir ar sut i :
- Wneud yn siwr fod eich cwmni yn “barod i dendro” pan fydd cyfleoedd yn codi
- Sut i fod yn “Rheolwr Ceisiadau” o fewn eich busnes
- Deall sut i greu cynnwys bidiau yn eich ymatebion
- Rheoli’r broses adborth i greu bidiau gwell
- Deall sut i greu ceisiai am gyfleoedd rhyngwadol yn ogystal â rhai yn y DU
- Ymarferion ar ffurf gweithdy ymarferol ar werthuso, a datblygu ceisiadau buddugol
Mae Jamie yn ysgrifennwr ceisiadau tendro proffesiynol gyda hanes o ysgrifennu ceisiadau llwyddiannus i ystod o gwmnïau ac amrywiaeth o ddiwydiannau o adeiladwaith, peirianneg sifil, rheoli cyfleusterau , gofal iechyd, a recriwtio.
Nid ydy’r cwrs yma yn ymdrin â sgiliau sylfaenol tendro. Yn hytrach, mae’r cwrs yn fwy addas i’r rhai sydd wedi tendro o’r blaen, ac yn rhwystredig gyda diffyg llwyddiant, neu sydd ddim yn deall sut i ddatblygu cynnwys eu tendrau i gyrraedd safon uwch gyda gwell canlyniadau. Mae’n weithdy hamddenol ei ffurf gyda chymysgedd o gyflwyniadau, trafodaeth grŵp, ac ymarferion ymarferol ar y diwrnod. Os nad ydych yn siŵr ble rydych yn mynd yn anghywir, neu sut i wella - yna bydd y cwrs yma yn rhoi mewnwelediad clir ar sut i “godi eich gem” mewn proses hynod gystadleuol.
Archebu eich lle, ffoniwch 01656 868500.
** Noder, ni allwn dderbyn y canlynol: **
Dim mwy na 1 o gynrychiolwyr ym mhob busnes yn y digwyddiad hwn
Dim Busnesau gyda mwy na 250 o Weithwyr (Cwmnïau BBach a chanolig Yn Unig)
** Os ydych chi'n byw y tu allan i Gymru ond yn bwriadu sefydlu busnes yng Nghymru, fe'ch derbynnir ar ein Gweithdai **
Dyddiadau a lleoliadau
Termau
Gweler yma i weld sut mae Busnes Cymru yn trin eich gwybodaeth . Os ydych yn archebu lle ar ddigwyddiad Busnes Cymru neu Lywodraeth Cymru , mae'n bosibl y byddwn yn defnyddio'r wybodaeth a rowch i gynnig gwasanaethau personol neu leol chi , i roi gwybod i chi am newidiadau i'n gwasanaeth , i ofyn eich barn ac i helpu ni i wella ein gwasanaethau .
Mae wefannau y byddwn yn cysylltu â nhw yn debygol o fod gyda Thelerau ac Amodau sy'n wahanol i'n rhai ni . Peidiwch â chymryd yn ganiataol bod ein Telerau ac Amodau yn berthnasol i wefannau eraill.
Trefnydd y digwyddiad

Busnes Cymru
Welsh Government
Sarn Mynach
Llandudno Junction
Conwy
LL31 9RZ
United Kingdom