Bod yn amlwg - sut i wella gwelededd eich busnes!
Nid yw 75% o ddefnyddwyr fyth yn mynd heibio tudalen gyntaf canlyniadau chwilio. Ymunwch â gweithdy Optimeiddio Peiriannau Chwilio (SEO) Cyflymu Cymru i Fusnesau i gael cyngor ymarferol ac arbenigol wedi ei gynllunio i'ch helpu chi i ddeall sut i ddefnyddio SEO i roi eich busnes ar frig canlyniadau peiriant chwilio.
Bydd y gweithdy hwn yn rhoi dealltwriaeth i chi o'r ffordd mae peiriannau chwilio yn graddio eich tudalennau gwe, pam mae hi mor bwysig i chi ddefnyddio arferion gorau SEO, a sut i weithredu cynllun SEO gan ddefnyddio technegau ar y dudalen ac oddi arni.