MI FYDD Y SESIWN HON YN CAEL EI GYNNAL YN SAESNEG AR-LEIN. Mae yna ddogfennau Gymraeg ar gael os oes angen.
COVID-19 a'ch busnes - Cinio a Dysgu: Canva
Hoffech chi gael mwy o frandio proffesiynol a deunyddiau hyrwyddol cyson ar gyfer eich busnes? Ydych chi wedi gweld postiadau creadigol ar y cyfryngau cymdeithasol a meddwl sut lwyddon nhw i wneud hynny?
Canva yw'r ateb! Mae am ddim, yn cynnwys templedi parod ac mae'n hawdd i'w ddefnyddio!
Defnyddir y llwyfan dylunio graffig hwn gan berchnogion busnes ar draws y byd, i greu dyluniadau graffig ar gyfer y cyfryngau cymdeithasol, cyflwyniadau, posteri, dogfennau a deunyddiau gweledol eraill.
Gwyddom pa mor bwysig yw hi i entrepreneuriaid newydd fanteisio ar wasanaethau am ddim i'w helpu nhw roi cychwyn ar bethau. Felly, ymunwch â ni ar gyfer ein hail 'Cinio a Dysgu' ar Canva. Byddwn yn dangos i chi sut i fod y greadigol gyda'ch cynnwys, a'ch rhoi chi ar yr un lefel â'ch cystadleuwyr.