Mae ein rhaglen Hanfodion Twf Busnes wedi cael ei dylunio'n benodol ar eich cyfer chi os ydych chi:
- Yn awyddus i gychwyn busnes ac yn gobeithio cyflogi pobl a chynyddu eich trosiant, ond mae angen cymorth a chefnogaeth arnoch
- Yn berchennog busnes bach neu ganolig ac yn awyddus i sicrhau llwyddiant a thwf parhaus i'ch busnes.
Yn ystod y gweithdy hwn, byddwn yn eich darparu â’r adnoddau hanfodol, gwybodaeth a mewnwelediad i’ch helpu chi ddylunio eich cynllun datblygu busnes personol a gwella eich galluoedd personol.
Drwy gymryd rhan yn y rhaglen hon byddwch yn ennill y sgiliau i'ch galluogi i adnabod y prif faterion cyfredol fydd yn codi wrth ichi ddatblygu eich busnes, yn gwella eich galluoedd personol, yn datblygu ffordd arloesol o feddwl ac yn llunio eich cynllun twf busnes eich hun.
Bydd y gweithdy hwn yn darparu elfennau o gynllun datblygu busnes wedi eu rhannu i sesiynnau yn mynd i’r afael â damcaniaethau yn ogystal ag enghreifftiau ymarferol ac ymarfer gorau.