Mae'r weminar wedi'i hanelu at unig fasnachwyr a’r hunangyflogedig, ac nid at Gyfarwyddwyr Cwmnïau Cyfyngedig.
Mae'r weminar hon yn cynnwys gwybodaeth am bwysigrwydd cadw llyfrau, sut i gadw Cyllid a Thollau EM yn hapus, a’r newid i dreth ddigidol a fydd yn rhoi hyder i chi allu cymryd rheolaeth dros eich trafodion busnes.
Mae'r Weminar hon ar gyfer cleientiaid Gogledd Cymru yn unig - mae gweminarau ar gael ar gyfer rhanbarthau eraill os ydych chi'n chwilio am Ganolbarth Cymru a'r De.