Wrth gynllunio i ddechrau eich busnes twf eich hunain, mae nifer o ystyriaethau y mae’n rhaid i Entrepreneur eu hwynebu!
Yn meddwl am gyflogi tîm? A fyddwch chi’n gweithio gartref neu yn y swyddfa neu’r ddau? Beth fydd eich - isadeiledd TG, eich strategaeth farchnata a sut ydych yn mynd i gofrestru ar gyfer TAW? Gall y rhestr fod yn ddiddiwedd ac yn hynod ddychrynllyd, yn enwedig mewn cyfnodau ansicr.
Mae Busnes Cymru wedi creu rhaglen arloesol, ar-lein, “Dechrau Arni i Ehangu!”, a fydd yn eich arwain drwy’r broses dechrau arni i sicrhau eich bod yn hyderus i gynhyrchu eich cynllun busnes eich hun.