Rydyn ni’n cynnig hyfforddiant mewn ymwybyddiaeth iechyd meddwl a hefyd Cymorth Cyntaf Iechyd Meddwl (MHFA) gyda’r ddau’n darparu i gynadleddwyr ddealltwriaeth o iechyd meddwl, yr anawsterau mwyaf cyffredin a brofir ac ymyriadau ‘cymorth cyntaf’ defnyddiol.
Mae egwyddorion iechyd meddwl yn cael eu hesbonio a’u trafod gyda chyfle i ymarfer sgiliau ‘helpu’ hanfodol i’w defnyddio yn y gweithle, y cartref a gofod cyhoeddus. Bydd y cyrsiau hyn yn magu hyder ac yn annog sgiliau i alluogi’r cyfranogwyr i gynnig cysur priodol a chyfeirio at help proffesiynol.