Fordwyaeth
Bwriad Canolfan Cydweithredol Cymru yw helpu mentrau cymdeithasol a chydweithredol a grwpiau gwirfoddol a chymunedol.
Ers 30 mlynedd a mwy, rydym wedi estyn llaw i fudiadau sydd wedi'u sefydlu a rhai sy'n dechrau datblygu, drwy gynnig cymorth ymatebol, dibynadwy a hyblyg.
Ariennir y Ganolfan yn bennaf gan Gronfa Datblygu Rhanbarthol Ewrop a Llywodraeth Cymru, ac rydym wedi ymrwymo i weithio gyda mudiadau a chymunedau i fynd i'r afael ag allgáu cymdeithasol, digidol ac ariannol yng Nghymru.
Rydym yn helpu cymunedau i ddatblygu busnesau neu brosiectau sy’n gwerthfawrogi pobl a’r amgylchedd cymaint ag elw.