[ Neidio i Gynnwys ]

Focus Carmarthen Enterprise Hub

Mae Hwb Menter Ffocws Caerfyrddin yn le i entrepreneuriaid gael cymorth i'w helpu i wireddu eu potensial busnes mewn man gweithio ysbrydoledig, cyfeillgar a chymunedol.

Yn ogystal â Mentora Busnes rydym yn darparu man gweithio gwych. Mae Hybiau Menter Ffocws yn darparu rhaglen gymorth siwrnai lawn, sydd â'r nod o fodloni anghenion bob entrepreneur, boed yn fusnes sy'n megis dechrau arni neu'n awyddus i ehangu. Ymunwch â ni am ystod eang o weithdai a digwyddiadau rhyngweithiol a ddarperir gyda grŵp trawiadol o bartneriaid, yn cynnwys Tramshed Tech,  Prifysgol Cymru y Drindod Dewi Sant, Canolfan Gydweithredol Cymru, Cyngor Sir Gâr a Chyngor Sir Benfro.

Mae'r digwyddiadau a ddarperir neu a gynhelir gan raglen Hybiau Menter Ffocws Llywodraeth Cymru am ddim ac yn agored i bobl o bob oedran, ond rhaid archebu lle ymlaen llaw. Mae'r niferoedd yn brin a disgwyliwn alw mawr am lefydd, felly archebwch yn gynnar i ddiogelu'ch lle.

Mae Hwb Menter Ffocws Caerfyrddin wedi’i ariannu’n rhannol gan Gronfa Datblygu Ranbarthol Ewrop trwy Lywodraeth Cymru.

Am ragor o wybodaeth ynglŷn â Hybiau Menter Ffocws a'r rhaglen gymorth, ewch i

www.hwbsmenterffocws.cymru

Trefnydd y digwyddiad

Focus Carmarthen Enterprise Hub
Canolfan S4C Yr Egin
College Road
Carmarthen
Carmarthenshire
SA31 3EQ
United Kingdom: Wales


01267 611298
E-bost | Gwefan