[ Neidio i Gynnwys ]

RCS

Rydym yn darparu ystod o wasanaethau i gefnogi pobl sydd â phroblemau iechyd i gael gwaith, aros mewn gwaith a ffynnu yn eu gwaith.

Nod ein prif ymyriadau yw cefnogi pobl gyflogedig sy’n absennol o’r gwaith, neu mewn perygl o fod yn absennol o’r gwaith, oherwydd salwch. Maent hefyd yno i helpu pobl ddi-waith sydd â phroblemau iechyd sy’n eu rhwystro rhag cael gwaith.

Drwy ein partneriaeth greadigol ag Ysgol Seicoleg Prifysgol Bangor, rydym yn defnyddio ymyriadau arloesol sy’n cyfuno technegau seicoleg gadarnhaol a newid ymddygiad â chymorth o ran gwaith i helpu i wella lles a chyflogadwyedd.

Rydym hefyd yn hyrwyddo iechyd da yn y gwaith, ac ymdrechion i leihau absenoldeb a hybu gwelliannu i iechyd, drwy gefnogi cwmnïau a’u gweithwyr i gymryd agwedd ragweithiol tuag at les staff.

Rydym yn darparu gwasanaeth hygyrch ac ymatebol, a chymorth empathig sy’n canolbwyntio ar y person, drwy ein tîm cyfeillgar o staff medrus a phrofiadol.

Trefnydd y digwyddiad

RCS
The Hub
69-71 Wellington Road
Rhyl
Denbighshire
LL18 1BE
United Kingdom: Wales


01745 336442
E-bost | Gwefan