[ Neidio i Gynnwys ]

Syniadau Mawr Cymru

Mae Syniadau Mawr Cymru yma i ysbrydoli’r genhedlaeth nesaf o entrepreneuriaid yng Nghymru. Rydyn ni’n cynnig cyngor, hyfforddiant a gweithdai un-i-un i unrhyw un dan 25 oed sydd â diddordeb mewn dechrau busnes, fel rhan o’n hymrwymiad i’r Gwarant i Bobl Ifanc.

Mae Syniadau Mawr Cymru yn darparu:

  • Mentora un-i-un
  • Gweithdai a hyfforddiant am ddim
  • Grant Dechrau Busnes i Bobl Ifanc
  • Cymorth i berchnogion busnesau newydd

Hoffech chi gael yr wybodaeth ddiweddaraf am yr hyn mae Syniadau Mawr Cymru yn ei gynnig, neu ofyn am gyfarfod â chynghorydd Busnes? Cofrestrwch yma.

Gwybodaeth am weminarau gan Syniadau Mawr Cymru

Mae ein gweminarau’n RHAD AC AM DDIM, ac yn agored i unrhyw un o dan 25 oed sy’n byw yng Nghymru ar hyn o bryd.

Mae pob gweminar ryngweithiol yn cael ei darparu ar-lein gan gynghorydd busnes cyfeillgar Syniadau Mawr Cymru neu Fodel Rôl Syniadau Mawr Cymru. Os oes gennych chi syniad busnes yn barod neu os ydych chi’n awyddus i ddatblygu sgiliau newydd, gall ein gweminarau eich helpu ar eich taith fusnes unigryw.

Cofiwch fod ein digwyddiadau’n boblogaidd a bod nifer y bobl sy’n dod i’r digwyddiad yn gyfyngedig, felly archebwch eich lle yn gynnar.

Digwyddiadau diweddaraf

Mae’r digwyddiadau isod ar y gweill yn ystod yr wythnosau nesaf – cofrestrwch heddiw!

I gael rhagor o wybodaeth am sut gall Syniadau Mawr Cymru eich cefnogi chi, ewch i: www.gov.wales/bigideas/cy

Cofiwch ein dilyn ni ar y Cyfryngau Cymdeithasol i gael y newyddion a’r digwyddiadau diweddaraf: Facebook | Instagram | Twitter 

Trefnydd y digwyddiad

Syniadau Mawr Cymru
Welsh Government/ Youth Entrepreneurship Services
QED Centre, Treforest Industrial Estate
Treforest
Pontypridd
CF37 5YR
United Kingdom


03000 6 03000
E-bost | Gwefan