Fordwyaeth
Mae WRAP Cymru yn rhan o WRAP. Cenhadaeth WRAP yw cyflymu’r newid i economi gynaliadwy sy’n defnyddio adnoddau’n effeithlon trwy ailddyfeisio’r ffordd yr ydym yn cynllunio, cynhyrchu a gwerthu cynhyrchion, ailystyried sut yr ydym yn defnyddio cynhyrchion, ac ailddiffinio’r hyn sy’n bosibl trwy ailgylchu ac ailddefnyddio. Mae’n gweithio, yn unigryw ac o fwriad, yn y bwlch rhwng llywodraethau, busnesau, cymunedau, meddylwyr arloesol ac unigolion – gan ffurfio partneriaethau a datblygu mentrau blaengar i helpu’r Deyrnas Unedig i ddefnyddio adnoddau’n fwy cynaliadwy.