[ Neidio i Gynnwys ]

Trefi Smart Towns Cymru

Mae Trefi Smart Cymru yn brosiect wedi’i ariannu gan Lywodraeth Cymru i gefnogi trefi, busnesau a chymunedau ledled Cymru drwy bŵer datrysiadau Smart. Yn unol â’r agenda trawsnewid trefi, nod y prosiect hwn yw cefnogi cymunedau ledled Cymru i gofleidio a harneisio technoleg newydd.

Mae Trefi Smart Cymru yn cynnig cymorth ac arweiniad arbenigol i drefi, busnesau a’r rhai sy’n gwneud penderfyniadau ar unrhyw gam o’u taith Smart. Mae ein rhaglen yn cynnwys ystod amrywiol o weminarau llawn gwybodaeth, gweithdai, a chyfleoedd rhwydweithio, a gallwn gynnig digwyddiadau pwrpasol i gefnogi nodau eich tref neu gymuned.

Rydym hefyd yn credu mewn dathlu llwyddiannau arbennig trefi Cymru drwy arddangos astudiaethau achos a straeon llwyddiant ar draws ein sianeli. Mae gennym hefyd ystod wych o adnoddau ar gael ar ein gwefan.

Ein cenhadaeth yw grymuso cymunedau ledled Cymru i ddefnyddio data ar gyfer gwneud penderfyniadau er mwyn gweithio yn fwy effeithlon, lleihau costau, annog cydweithio a llawer mwy. Gyda’n gilydd, gallwn archwilio potensial helaeth y maes cyffrous hwn.

Ymunwch â ni nawr i greu dyfodol mwy Smart a mwy llewyrchus!

Mae Trefi Smart Cymru  yn darparu:

  • Cyngor Arbenigol
  • Gweithdai, Digwyddiadau a Rhwydweithio
  • Arddangos Straeon Llwyddiant
  • Adnoddau

Hoffech chi gael yr wybodaeth ddiweddaraf am yr hyn mae Trefi Smart Cymru yn ei gynnig? Cofrestrwch yma.

Gwybodaeth am weminarau gan Trefi Smart Cymru

Mae ein gweminarau AM DDIM, ac yn agored i unrhyw un sy'n byw yng Nghymru ar hyn o bryd.

Cofiwch fod ein digwyddiadau’n boblogaidd a bod nifer mynychwyr yn gyfyngedig, felly archebwch eich lle yn gynnar.

Digwyddiadau diweddaraf

Mae’r digwyddiadau isod ar y gweill yn ystod yr wythnosau nesaf – cofrestrwch heddiw!

Trefnydd y digwyddiad

Trefi Smart Towns Cymru
Menter Môn Cyf
Llangefni
Gwynedd
LL77 7LR
United Kingdom: Wales


07728919130
E-bost | Gwefan