Cysylltwch â Ni
Busnes Cymru ydy gwasanaeth Llywodraeth Cymru ar gyfer busnesau. Gallwn eich helpu gyda chyngor ar ddechrau busnes ac ar redeg busnes, ac yn bwysicaf, eich cefnogi chi i wneud llwyddiant o’ch busnes.
Mae Busnes Cymru’n cynnig mynediad at wasanaethau cymorth gan y sectorau cyhoeddus a phreifat, a’r trydydd sector.
Mae’r math o gymorth sydd ar gael yn cynnwys:
- cyngor busnes cyffredinol
- cyngor ar gyflwyno tendr llwyddiannus am gontractau’r llywodraeth
- cyngor ar faterion cydraddoldeb ac adnoddau dynol
- cyngor ar reolaeth amgylcheddol a gwastraff
- cymorth ar fasnach ryngwladol
- mentora busnes: cymorth tymor hwy a chyngor gan bobl fusnes profiadol
- cymorth ar gynnal eich busnes ar-lein
- gweithdai ar amrywiaeth eang o bynciau gan gynnwys cael gafael ar gyllid busnes, masnach ryngwladol a recriwtio staff
Rydym hefyd yn cydweithio’n agos gyda busnesau a sefydliadau eraill yng Nghymru a thu hwnt i sicrhau fod pob busnes sy’n dod i gysylltiad â ni’n derbyn y pecyn cymorth gorau sydd wedi ei deilwra’n unol â’u hanghenion.
Cysylltwch â ni:
- ar-lein – defnyddiwch ein ffurflen Cysylltwch â Ni
- dros y ffôn – galwch Linell Gymorth Busnes Cymru ar 03000 6 03000
- wyneb yn wyneb - yn un o’n rhwydwaith o ganolfannau cymorth busnes wedi’u leoli ledled Cymru.