[ Neidio i Gynnwys ]

Telerau ac Amodau

Telerau Defnyddio'r Wefan

Mae'r telerau defnyddio hyn (ynghyd â'r dogfennau y cyfeirir atynt oddi mewn) yn dweud wrthych ar ba delerau y cewch ddefnyddio ein gwefan wales.business-events.org.uk (ein gwefan), fel gwestai neu fel defnyddiwr cofrestredig. Mae defnyddio ein gwefan yn cynnwys mynd i'r wefan, pori, neu gofrestru i ddefnyddio ein gwefan.

Darllenwch y telerau defnyddio hyn yn ofalus cyn dechrau defnyddio ein gwefan, oherwydd byddant yn berthnasol i sut y byddwch yn defnyddio ein gwefan. Rydym yn argymell eich bod yn argraffu copi i gyfeirio ato yn y dyfodol.

Drwy ddefnyddio ein gwefan, rydych yn cadarnhau eich bod yn derbyn y telerau defnyddio hyn a'ch bod yn cytuno i gydymffurfio â hwy.

Os nad ydych yn cytuno â’r telerau defnyddio hyn, rhaid i chi beidio â defnyddio ein gwefan.

Telerau perthnasol eraill

Mae'r telerau defnyddio hyn yn cyfeirio at y telerau ychwanegol canlynol, sydd hefyd yn berthnasol i ddefnyddio ein gwefan:

Os ydych yn prynu gennym, bydd ein Telerau ac amodau cyflenwi yn berthnasol i'r gwerthiannau.

Gwybodaeth amdanom ni

Mae wales.business-events.org.uk yn wefan a weithredir gan Free Rein Cyf ("Ni"). Rydym wedi ein cofrestru yng Nghymru a Lloegr â'r rhif cwmni 05236270, ac mae ein swyddfa gofrestredig yn Hadleigh Enterprise Park, Crockatt Road, Hadleigh, Ipswich, IP7 6RJ. Rydym yn gwmni cyfyngedig.

Newidiadau i’r telerau hyn

Gallwn ddiwygio’r telerau defnyddio hyn unrhyw bryd drwy addasu'r dudalen hon.

Darllenwch y dudalen hon o bryd i'w gilydd i sylwi ar unrhyw newidiadau a wnawn, oherwydd maent yn rhwymol arnoch chi.

Newidiadau i’n gwefan

Efallai y byddwn yn diweddaru ein gwefan o bryd i'w gilydd, a gallwn newid y cynnwys unrhyw bryd. Fodd bynnag, sylwch nad yw'r holl gynnwys sydd ar ein gwefan o reidrwydd yn gyfredol ar unrhyw un adeg, ac nid oes gennym ymrwymiad i'w ddiweddaru.

Nid ydym yn rhoi sicrwydd na fydd dim camgymeriadau na hepgoriadau ar ein gwefan, nac mewn unrhyw gynnwys arni.

Mynd i’n gwefan

Mae ein gwefan ar gael yn ddi-dâl.

Nid ydym yn rhoi sicrwydd y bydd ein gwefan, nac unrhyw gynnwys sydd arni, ar gael drwy'r amser nac na fydd dim tarfu arni. Caniateir mynediad i'n gwefan ar sail dros dro. Cawn ohirio, tynnu'n ôl, terfynu neu newid ein gwefan gyfan neu unrhyw ran ohoni heb rybudd. Ni fyddwn yn atebol i chi os nad yw ein gwefan ar gael, am unrhyw reswm, ar unrhyw adeg nac am unrhyw gyfnod.

Chi sy'n gyfrifol am wneud yr holl drefniadau sydd eu hangen er mwyn gallu defnyddio ein gwefan.

Chi hefyd sy'n gyfrifol am sicrhau bod pawb sy'n defnyddio eich cysylltiad rhyngrwyd chi i fynd ar ein gwefan yn ymwybodol o'r telerau defnyddio hyn ac o delerau ac amodau perthnasol eraill, a'u bod yn cydymffurfio â hwy.

Eich cyfrif a'ch cyfrinair

Os ydych yn dewis cod adnabod defnyddiwr, cyfrinair neu unrhyw wybodaeth arall fel rhan o'n gweithdrefnau diogelwch, neu os darperir y rhain i chi, rhaid i chi drin y wybodaeth honno fel ei bod yn gyfrinachol. Rhaid i chi beidio â'i datgelu i unrhyw drydydd parti.

Mae gennym hawl i analluogi unrhyw god adnabod defnyddiwr neu gyfrinair, wedi'i ddewis gennych chi neu wedi'i ddyrannu gennym ni, unrhyw bryd, os ydych chi yn ein barn resymol ni wedi methu â chydymffurfio ag unrhyw ddarpariaethau o fewn y telerau defnyddio hyn.

Os ydych yn gwybod neu'n amau bod rhywun heblaw chi'n gwybod eich cod adnabod defnyddiwr neu eich cyfrinair, rhaid i chi ein hysbysu ar unwaith yn support-wales@business-events.org.uk..

Hawliau eiddo deallusol

Ni yw perchennog neu drwyddedai'r holl hawliau eiddo deallusol yn ein gwefan, ac yn y deunydd a gyhoeddir arni.  Mae'r gwaith hwn wedi'i amddiffyn gan hawliau a chytuniadau hawlfraint ledled y byd. Cedwir pob hawl o'r fath.

Cewch argraffu un copi, a chewch lwytho detholiadau i lawr, o unrhyw dudalen(nau) oddi ar ein gwefan at eich defnydd personol chi a chewch dynnu sylw pobl eraill yn eich sefydliad at gynnwys sydd wedi'i bostio ar ein gwefan.

Ni chewch addasu'r copïau papur na digidol o unrhyw ddeunyddiau yr ydych wedi'u hargraffu neu eu llwytho i lawr mewn unrhyw ffordd, ac ni chewch ddefnyddio unrhyw ddarluniau, ffotograffau, dilyniannau fideo na sain nac unrhyw graffeg ar wahân i unrhyw destun sy'n cyd-fynd â hwy.

Rhaid cydnabod ein statws ni (a statws unrhyw gyfranwyr a enwyd) fel awduron cynnwys ar ein gwefan bob amser.

Rhaid i chi beidio â defnyddio unrhyw ran o'r cynnwys ar ein gwefan ni at ddibenion masnachol heb gael trwydded i wneud hynny gennym ni neu ein trwyddedwyr.

Os ydych chi'n argraffu, copïo neu lwytho i lawr unrhyw ran o'n gwefan yn groes i'r telerau defnyddio hyn, bydd eich hawl i ddefnyddio ein gwefan yn diweddu ar unwaith a bydd rhaid i chi, yn ôl ein dewis ni, ddychwelyd neu ddinistrio unrhyw gopïau o'r deunyddiau yr ydych wedi'u gwneud.

Dim dibyniaeth ar wybodaeth

Darperir y cynnwys ar ein gwefan er gwybodaeth gyffredinol yn unig. Nid yw wedi'i bwriadu fel cyngor y dylech ddibynnu arno. Rhaid i chi gael cyngor proffesiynol neu arbenigol cyn gwneud, neu beidio â gwneud, unrhyw beth yn seiliedig ar gynnwys ein gwefan.

Er ein bod yn gwneud ymdrechion rhesymol i ddiweddaru'r wybodaeth ar ein gwefan, nid ydym yn datgan, nac yn rhoi gwarant na sicrwydd, yn bendant nac yn ymhlyg, bod y cynnwys ar ein gwefan yn gywir, yn gyflawn nac yn gyfredol.

Cyfyngu ar ein hatebolrwydd

Nid oes dim byd yn y telerau defnyddio hyn yn eithrio nac yn cyfyngu ar ein hatebolrwydd am farwolaeth neu anaf personol a achosir gan ein hesgeulustod, nac am dwyll neu gamgyfleu drwy dwyll gennym, nac am unrhyw atebolrwydd arall y mae ei eithrio neu gyfyngu arno wedi’i wahardd gan gyfraith Lloegr.

I'r graddau a ganiateir gan y gyfraith, rydym yn eithrio pob amod, gwarant, cyflwyniad neu delerau eraill a allai fod yn berthnasol i'n gwefan neu i unrhyw gynnwys arni, yn bendant neu'n ymhlyg.

Ni fyddwn yn atebol i unrhyw ddefnyddiwr am unrhyw golled na difrod, boed hynny mewn contract, camwedd (gan gynnwys esgeulustod), tor dyletswydd statudol, nac fel arall, hyd yn oed os oedd hynny'n rhagweladwy, a achosir o dan neu mewn cysylltiad â:

Os ydych yn ddefnyddiwr busnes, nodwch yn benodol na fyddwn yn atebol am y canlynol:

Os ydych yn ddefnyddiwr personol, nodwch mai dim ond at ddefnydd domestig a phreifat yr ydym yn darparu ein gwefan. Rydych yn cytuno i beidio â defnyddio ein gwefan at unrhyw ddibenion masnachol neu fusnes, ac nid oes gennym ddim atebolrwydd i chi am unrhyw golli elw, colli busnes, tarfu ar fusnes, na cholli cyfle am fusnes.

Ni fyddwn yn atebol am unrhyw golled na niwed a achosir gan firws, ymosodiad atal gwasanaeth gwasgaredig, na deunydd technolegol niweidiol arall a allai heintio eich offer cyfrifiadurol, eich rhaglenni cyfrifiadurol, eich data na deunydd arall sy'n eiddo i chi o ganlyniad i ddefnyddio ein gwefan neu lwytho unrhyw gynnwys i lawr oddi arni, nac oddi ar unrhyw wefan sydd â dolen arni.

Nid ydym yn cymryd dim cyfrifoldeb am gynnwys gwefannau sydd â dolenni ar ein gwefan. Ni ddylid dehongli dolenni o'r fath fel ein bod ni'n cymeradwyo'r gwefannau hynny. Ni fyddwn yn atebol am unrhyw golled na niwed a all ddigwydd wedi i chi eu defnyddio.

Llwytho cynnwys i fyny i’n gwefan

Rydych yn rhoi sicrwydd bod unrhyw gyfraniad o'r fath yn cydymffurfio â'r safonau hynny, a byddwch yn atebol i ni ac yn ein indemnio am unrhyw achos o dorri'r sicrwydd hwnnw. [Os ydych yn ddefnyddiwr personol, mae hyn yn golygu mai chi fydd yn gyfrifol am unrhyw golled neu niwed a ddioddefwn o ganlyniad i dorri eich sicrwydd chi.]

Ni ystyrir bod unrhyw gynnwys a lwythwch i fyny i'n gwefan yn gyfrinachol nac yn eiddo i chi. Rydych yn cadw eich holl hawliau perchnogaeth yn eich cynnwys, ond rhaid i chi ganiatáu i ni [ac i ddefnyddwyr eraill y Wefan] drwydded gyfyngedig i ddefnyddio, storio a chopïo'r cynnwys hwnnw a’i ddosbarthu a'i ddarparu i drydydd partïon. Mae'r paragraff nesaf yn disgrifio'r hawliau a drwyddedwch i ni (Hawliau a drwyddedir gennych).

Mae gennym yr hawl hefyd i ddatgelu pwy ydych chi i unrhyw drydydd parti sy'n honni bod unrhyw gynnwys yr ydych wedi'i bostio neu ei lwytho i fyny ar ein gwefan yn gyfystyr â throsedd yn erbyn eu hawliau eiddo deallusol, neu eu hawl i breifatrwydd.

Ni fyddwn yn gyfrifol, nac yn atebol i unrhyw drydydd parti, am gynnwys na chywirdeb unrhyw gynnwys sydd wedi'i bostio gennych chi neu gan unrhyw ddefnyddiwr arall ar ein gwefan.

Nid yw'r safbwyntiau a fynegir gan ddefnyddwyr eraill ar ein gwefan yn cynrychioli ein safbwyntiau na'n gwerthoedd ni.

Chi yn unig sy’n gyfrifol am ddiogelu eich cynnwys a chadw copi wrth gefn.

Hawliau a drwyddedir gennych

Pan fyddwch yn llwytho cynnwys i fyny neu'n ei bostio ar ein gwefan, rydych yn caniatáu'r trwyddedau canlynol:

Ni wnawn byth ddefnyddio eich deunyddiau at unrhyw ddiben heblaw i gyflawni eich cyfarwyddiadau i ni – heblaw, mewn sefyllfa eithriadol iawn, bod llys neu reoleiddiwr arall yn gorchymyn ein bod yn eu datgelu.

Firysau

Nid ydym yn rhoi sicrwydd y bydd ein gwefan yn ddiogel nac yn rhydd rhag bygiau neu firysau.

Chi sy'n gyfrifol am ffurfweddu eich technoleg gwybodaeth, eich rhaglenni cyfrifiadurol a'ch platfform er mwyn gallu defnyddio ein gwefan. Dylech ddefnyddio eich meddalwedd eich hun i'ch diogelu rhag firysau.

Rhaid i chi beidio â chamddefnyddio ein gwefan drwy gyflwyno yn fwriadol firysau, cnafon, mwydod, bomiau rhesymeg nac unrhyw ddeunydd arall sy'n faleisus neu'n dechnolegol niweidiol. Rhaid i chi beidio â cheisio cael mynediad heb awdurdod i'n gwefan, y gweinydd y mae ein gwefan wedi'i storio arno nac unrhyw weinydd, cyfrifiadur na chronfa ddata sy'n gysylltiedig â'n gwefan. Rhaid i chi beidio ag ymosod ar ein gwefan ag ymosodiad atal gwasanaeth nac ymosodiad atal gwasanaeth gwasgaredig. Drwy weithredu'n groes i'r ddarpariaeth hon, byddech yn cyflawni trosedd o dan Ddeddf Camddefnyddio Cyfrifiaduron 1990. Byddwn yn rhoi gwybod i'r awdurdodau gorfodi'r gyfraith perthnasol am unrhyw drosedd o'r fath ac yn cydweithredu â'r awdurdodau hynny drwy ddweud wrthynt pwy ydych chi. Pe bai trosedd o'r fath yn digwydd, byddai eich hawl i ddefnyddio ein gwefan yn dod i ben ar unwaith.

Llunio dolenni at ein gwefan

Cewch lunio dolenni at ein tudalen gartref, cyn belled â'ch bod yn gwneud hynny mewn ffordd sy'n deg ac yn gyfreithlon nad yw'n niweidio ein henw da nac yn manteisio arno.

Rhaid i chi beidio â chreu dolen mewn modd sy'n awgrymu unrhyw ffurf o gysylltiad, cymeradwyaeth nac ardystiad ar ein rhan os nad oes un yn bodoli.

Ni chewch sefydlu dolen at ein gwefan ar unrhyw wefan nad yw'n eiddo i chi.

Ni chewch fframio ein gwefan ar unrhyw wefan arall, na chreu dolen at unrhyw ran o'n gwefan heblaw'r dudalen gartref.

Rydym yn cadw'r hawl i dynnu'r caniatâd i lunio dolenni yn ôl yn ddirybudd.

Os hoffech ddefnyddio unrhyw gynnwys ar ein gwefan oni fel yr amlinellir uchod, cysylltwch â ni support-wales@business-events.org.uk..

Dolenni ac adnoddau trydydd partïon ar ein gwefan

Mae unrhyw ddolenni ar ein gwefan at wefannau eraill ac adnoddau a ddarperir gan drydydd partïon yn cael eu darparu er gwybodaeth i chi yn unig.

Nid oes gennym reolaeth dros gynnwys y gwefannau na'r adnoddau hyn.

Cyfraith berthnasol

Os ydych yn ddefnyddiwr personol, nodwch fod y telerau defnyddio hyn, eu testun a'u ffurf, yn cael eu llywodraethu gan gyfraith Lloegr. Rydych chi a ni'n cytuno y bydd gan lysoedd Cymru a Lloegr awdurdodaeth anghyfyngedig. Fodd bynnag, os ydych yn byw yng Ngogledd Iwerddon cewch hefyd gychwyn achos yng Ngogledd Iwerddon, ac os ydych yn byw yn yr Alban, cewch hefyd gychwyn achos yn yr Alban.

Os ydych yn fusnes, mae'r telerau defnyddio hyn, eu testun a'u ffurf (ac unrhyw anghydfodau neu hawliadau nad ydynt yn ymwneud â chontract) yn cael eu llywodraethu gan gyfraith Lloegr. Rydym ill dau'n cytuno y bydd gan lysoedd Cymru a Lloegr awdurdodaeth gyfyngedig.

Cysylltu â ni

I gysylltu â ni, anfonwch e-bost i support-wales@business-events.org.uk.

Diolch am ymweld â'n gwefan.