Fordwyaeth
Mae’r wefan hon yn cael ei chynnal gan Busnes Cymru. Rydym eisiau i gymaint o bobl â phosibl allu defnyddio’r wefan hon. Mae hynny’n golygu y dylech chi allu:
Hefyd, rydym wedi gwneud testun y wefan mor syml a chlir â phosibl i’w ddeall.
Mae cyngor ar gael gan AbilityNet ar wneud eich dyfais yn haws ei defnyddio os oes gennych anabledd.
Rydym yn gwybod bod rhai rhannau o’r wefan hon nad ydynt yn gwbl hygyrch:
Os oes angen gwybodaeth arnoch ar y wefan hon mewn fformat gwahanol fel PDF hygyrch, print bras, hawdd ei ddeall, recordiad sain neu Braille:
Rydym yn croesawu galwadau yn Gymraeg.
Byddwn yn ystyried eich cais ac yn ymateb i chi o fewn 7 diwrnod.
Rydym bob amser yn ceisio gwella hygyrchedd y wefan hon. Os byddwch yn dod ar draws unrhyw broblemau nad ydynt wedi’u rhestru ar y dudalen hon neu’n meddwl nad ydym yn bodloni gofynion y rheoliadau hygyrchedd, cysylltwch â ni:
Rydym yn croesawu galwadau yn Gymraeg.
Gweithdrefn orfodi
Mae’r Comisiwn Cydraddoldeb a Hawliau Dynol yn gyfrifol am orfodi’r rheoliadau hygyrchedd. Os nad ydych chi’n hapus â’r ffordd rydym yn ymateb i’ch cwyn, cysylltwch â’r Equality Advisory and Support Service (EASS).
Mae Ofcom yn ei gwneud yn ofynnol i bob cwmni ffonau llinell dir a ffonau symudol ddarparu nifer o wasanaethau i gwsmeriaid ag anableddau. Gallwch ddefnyddio eich dewis o wasanaeth cyfnewid testun i gysylltu â Busnes Cymru.
Mae system dolen glywed yn ein swyddfeydd, neu os byddwch yn cysylltu â ni cyn eich ymweliad, byddwn yn gwneud pob ymdrech i drefnu dehonglydd Iaith Arwyddion Prydain.
Rydym yn croesawu galwadau yn Gymraeg.
Mae Busnes Cymru wedi ymrwymo i wneud ei wefannau yn hygyrch, yn unol â Public Sector Bodies (Websites and Mobile Applications) (No. 2) Accessibility Regulations 2018.
Mae’r wefan hon yn cydymffurfio’n rhannol â safon AA Web Content Accessibility Guidelines version 2.1, oherwydd y problemau peidio â chydymffurfio a restrir isod.
Amlinellir isod y dechnoleg nad yw’n hygyrch:
Mae testun nad yw’n hygyrch wedi’i amlinellu isod:
Mae rhai dogfennau PDF a dogfennau eraill hŷn ar y safle hwn sy’n methu bodloni safonau hygyrchedd.
Nid yw’r rheoliadau hygyrchedd yn ei gwneud yn ofynnol i ni drwsio dogfennau PDF neu ddogfennau eraill a gyhoeddwyd cyn 23 Medi 2018 (https://www.legislation.gov.uk/uksi/2018/952/regulation/4/made) os nad ydynt yn hanfodol i ddarparu ein gwasanaethau. Nid oes gennym unrhyw gynlluniau ar hyn o bryd i wneud y dogfennau PDF hyn neu ddogfennau eraill yn hygyrch.
Dylai unrhyw ddogfennau PDF neu ddogfennau eraill newydd a gyhoeddom ers 23 Medi 2018 fodloni’r safonau hygyrchedd.
Mae rhai o’n dogfennau PDF a dogfennau eraill hŷn yn hanfodol ar gyfer darparu ein gwasanaethau. Er enghraifft, mae gennym:
O fis Mawrth 2022, byddwn yn dechrau naill ai trwsio’r dogfennau PDF a’r dogfennau eraill hanfodol hyn, neu’n roi tudalennau HTML hygyrch yn eu lle.
Amlinellir isod y delweddau, y cynnwys fideo a’r cynnwys sain nad ydynt yn hygyrch:
Cynhaliwyd profion hygyrchedd ar y wefan drwy gydol mis Mai 2023. Cynhaliwyd y profion hyn gan S8080 a Busnes Cymru.
Yn ystod gwiriad SortSite ym mis Mai, cynhaliwyd sganiau awtomataidd ar gyfer pob gwall WCAG 2.1 AA.
Profwyd gwefan Digwyddiadur Busnes Cymru, sydd ar gael yn https://wales.business-events.org.uk/cy/ a https://wales.business-events.org.uk/
Pan wneir newidiadau sylweddol, ac wrth iddynt gael eu gwneud, caiff y rhain eu sganio cyn eu rhyddhau i’r cyhoedd.
Byddwn yn mynd i’r afael â’r holl broblemau hygyrchedd technegol sy’n hysbys ac yn eu trwsio erbyn diwedd 2023, oni bai y byddai gwneud hynny’n faich anghymesur (http://www.legislation.gov.uk/uksi/2018/952/regulation/7/made) o fewn ystyr y rheoliadau hygyrchedd.
Ar hyn o bryd, rydym yn mynd i’r afael ag unrhyw broblemau â chynnwys ac yn eu trwsio, ac mae hon yn broses barhaus wrth i gynnwys newydd gael ei ychwanegu’n ddyddiol.
Byddwn yn creu canllawiau i helpu trefnwyr digwyddiadau i greu hysbysebion hygyrch ar gyfer digwyddiadau.
Rydym yn gweithio gyda’n cyflenwr i fonitro a mynd i’r afael yn barhaus ag unrhyw broblemau hygyrchedd a gyflwynir yn ystod y gwaith parhaus o ddatblygu a diweddaru’r wefan.
Paratowyd y datganiad hwn ar 11/07/2023