[ Neidio i Gynnwys ]

Preifatrwydd

  1. Gwybodaeth bwysig a phwy ydyn ni.
  2. Y data yr ydym yn eu casglu amdanoch
  3. Sut y cesglir eich data personol
  4. Sut yr ydym yn defnyddio eich data personol
  5. Datgelu eich data personol
  6. Trosglwyddiadau rhyngwladol
  7. Diogelwch data
  8. Cadw data
  9. Eich hawliau cyfreithiol
  10. Geirfa

RHAGARWEINIAD

Mae Free Rein yn parchu eich preifatrwydd ac yn ymroddedig i ddiogelu eich data personol. Bydd yr hysbysiad preifatrwydd hwn yn eich hysbysu ynglŷn â sut yr ydym yn gofalu am eich data personol wrth i chi ymweld â'n gwefan (wrth ddod o unrhyw le arall) ac yn dweud wrthych am eich hawliau preifatrwydd a sut y mae'r gyfraith yn eich diogelu.

 

  1. Gwybodaeth bwysig a phwy ydyn ni

Diben yr hysbysiad preifatrwydd hwn

Bwriad yr hysbysiad preifatrwydd hwn yw rhoi gwybodaeth i chi ynglŷn â sut y mae Free Rein yn casglu ac yn prosesu eich data personol wrth i chi ddefnyddio'r wefan hon, gan gynnwys unrhyw ddata a ddarparwch drwy'r wefan hon wrth [gofrestru i dderbyn ein cylchlythyr, prynu cynnyrch neu wasanaeth neu gymryd rhan mewn cystadleuaeth].

Nid yw'r wefan hon wedi'i hanelu at blant ac nid ydym yn ymwybodol yn casglu data sy'n ymwneud â phlant.

Mae'n bwysig eich bod yn darllen yr hysbysiad preifatrwydd hwn ynghyd ag unrhyw hysbysiad preifatrwydd neu hysbysiad prosesu teg arall a ddarparwn ar achlysuron penodol wrth gasglu neu brosesu data personol amdanoch fel eich bod yn gwybod yn iawn sut a pham yr ydym yn defnyddio eich data. Mae’r hysbysiad preifatrwydd hwn yn ategu'r hysbysiadau eraill; nid ei fwriad yw eu disodli.

Rheolydd

Free Rein Cyf yw'r rheolydd, a hwy sy'n gyfrifol am eich data personol (cyfeirir atynt ar y cyd fel ”Free Rein”, “ni” neu “ein” yn yr hysbysiad preifatrwydd hwn).

Rydym wedi penodi swyddog diogelu data (SDD) sy'n gyfrifol am gadw golwg ar gwestiynau am yr hysbysiad preifatrwydd hwn. Os oes gennych unrhyw gwestiynau am yr hysbysiad preifatrwydd hwn, gan gynnwys unrhyw geisiadau i arfer eich hawliau cyfreithiol, cysylltwch â'r SDD gan ddefnyddio'r manylion a nodir isod.

Manylion Cyswllt

Ein manylion llawn yw:

Enw llawn yr endid cyfreithiol: Free Rein Ltd

Enw neu deitl y SDD: Tony Addison

Cyfeiriad E-bost: gdpr@free-rein.net

Cyfeiriad post: Hadleigh Enterprise Park

Crockatt Road

Hadleigh

Ipswich

IP7 6RJ

Y Deyrnas Unedig

Rhif ffôn: +44 (0) 1473 810002

Mae gennych hawl i gwyno unrhyw bryd wrth Swyddfa'r Comisiynydd Gwybodaeth (ICO), yr awdurdod goruchwylio yn y Deyrnas Unedig ar gyfer materion diogelu data (www.ico.org.uk). Byddem, fodd bynnag, yn gwerthfawrogi'r cyfle i roi sylw i'ch pryderon cyn i chi droi at yr ICO, felly cysylltwch â ni yn gyntaf os gwelwch yn dda.

Newidiadau i'r Hysbysiad Preifatrwydd a'ch Dyletswydd i'n Hysbysu am Newidiadau

Diweddarwyd y fersiwn hwn ddiwethaf ar 13 Ebrill 2018

Mae cyfraith diogelu data'r Deyrnas Unedig yn newid ar 25 Mai 2018. Er bod yr hysbysiad preifatrwydd hwn yn amlinellu'r rhan fwyaf o'ch hawliau o dan y deddfau newydd, mae'n bosibl na fyddwn yn gallu ymateb eto i rai o'ch ceisiadau (er enghraifft, cais am drosglwyddo eich data personol) tan fis Mai 2018 gan ein bod yn dal i weithio i baratoi ein systemau am rai o'r newidiadau hyn.

Mae'n bwysig bod y data personol a gadwn amdanoch yn gywir ac yn gyfredol. Rhowch wybod i ni am newidiadau i'ch data personol yn ystod eich perthynas â ni.

Dolenni Trydydd Parti

Mae’n bosibl y bydd y wefan hon yn cynnwys dolenni at wefannau trydydd parti, ategion a rhaglenni. Mae'n bosibl y bydd clicio'r dolenni hynny neu alluogi'r cysylltiadau hynny yn caniatáu i drydydd partïon gasglu neu rannu data amdanoch. Nid ni sy'n rheoli'r gwefannau trydydd parti hyn, ac nid ni sy'n gyfrifol am eu datganiadau preifatrwydd. Pan fyddwch yn gadael ein gwefan, rydym yn eich annog i ddarllen hysbysiad preifatrwydd pob gwefan yr ymwelwch â hi.

 

  1. Y data yr ydym yn eu casglu amdanoch

Mae data personol, neu wybodaeth bersonol, yn golygu unrhyw wybodaeth am unigolyn y gellid ei defnyddio i adnabod yr unigolyn hwnnw. Nid yw’n cynnwys data y mae'r wybodaeth bersonol wedi'i thynnu ohonynt (data dienw).

Gallwn gasglu, defnyddio, storio a throsglwyddo gwahanol fathau o ddata personol amdanoch, ac rydym wedi grwpio'r rhain gyda'i gilydd fel a ganlyn:

Polisi preifatrwydd y wefan (fersiwn GDPR)

Ebrill 2018

Free Rein Cyf – Polisi Preifatrwydd – Ebrill 2018 Tudalen 3

Rydym hefyd yn casglu ac yn defnyddio Data Cyfanredol megis data ystadegol neu ddemograffig at unrhyw ddiben. Gall Data Cyfanredol ddeillio o'ch data personol ond nid yw'r gyfraith yn ystyried eu bod yn ddata personol gan nad yw'r data hyn yn datgelu pwy ydych chi, yn uniongyrchol nac yn anuniongyrchol. Er enghraifft, gallem gyfuno eich Data Defnydd i gyfrifo canran y defnyddwyr sy'n defnyddio nodwedd benodol ar y wefan. Fodd bynnag, os ydym yn cyfuno neu'n cysylltu Data Cyfanredol â'ch data personol mewn modd sy'n golygu y gellir eich adnabod yn uniongyrchol neu'n anuniongyrchol, byddwn yn trin y data cyfunol fel data personol ac yn eu defnyddio yn unol â'r hysbysiad preifatrwydd hwn.

Nid ydym yn casglu Data Personol amdanoch mewn unrhyw Gategorïau Arbennig (mae hyn yn cynnwys manylion am eich hil neu'ch ethnigrwydd, eich credoau crefyddol neu athronyddol, eich bywyd rhywiol, eich cyfeiriadedd rhywiol, eich barn wleidyddol, aelodaeth o undeb llafur, gwybodaeth am eich iechyd a data genetig a biometrig). Nid ydym ychwaith yn casglu gwybodaeth am euogfarnau troseddol a throseddau.

Os methwch â darparu data personol

Os oes angen i ni gasglu data personol yn ôl y gyfraith, neu yn unol â thelerau contract rhyngom ni a chi a'ch bod yn methu â darparu'r data hynny ar gais, mae'n bosibl na fyddwn yn gallu cyflawni'r contract sydd gennym neu yr ydym yn ceisio ei sefydlu â chi (er enghraifft, darparu nwyddau neu wasanaethau i chi). Os felly, mae'n bosibl y byddai’n rhaid i ni ganslo cynnyrch neu wasanaeth sydd gennych gyda ni ond gwnawn eich hysbysu ar y pryd os bydd hyn yn digwydd.

 

  1. Sut y cesglir eich data personol

Rydym yn defnyddio gwahanol ddulliau i gasglu data gennych, ac amdanoch, gan gynnwys:

 

  1. Sut yr ydym yn defnyddio eich data personol

Bydd ein holl ddefnydd o'ch data personol yn gyfreithlon. Yn fwyaf cyffredin, byddwn yn defnyddio eich data personol o dan yr amgylchiadau canlynol:

Yn gyffredinol, nid ydym yn dibynnu ar ganiatâd fel sail gyfreithiol i brosesu eich data personol ac eithrio mewn perthynas ag anfon gohebiaeth farchnata uniongyrchol atoch drwy e-bost os ydych wedi gofyn i ni wneud hynny. Mae gennych hawl i dynnu caniatâd marchnata yn ôl unrhyw bryd drwy gysylltu â ni neu drwy ddefnyddio'r ddolen ar waelod unrhyw ddeunydd marchnata a anfonwn.

At ba ddibenion y byddwn yn defnyddio eich data personol

Rydym wedi amlinellu disgrifiad isod o'r holl ffyrdd y bwriadwn ddefnyddio eich data personol, ynghyd â'r seiliau cyfreithiol yr ydym yn dibynnu arnynt er mwyn gwneud hynny. Rydym hefyd wedi nodi beth yw ein buddiannau cyfreithlon lle bo'n briodol.

Sylwch y gallem brosesu eich data personol ar fwy nag un sail gyfreithiol gan ddibynnu at ba ddiben penodol yr ydym yn defnyddio eich data. Cysylltwch â ni os oes arnoch angen manylion am y sail gyfreithiol benodol yr ydym yn dibynnu arni i brosesu eich data personol lle bo mwy nag un sail wedi'i nodi isod.

 

Gweithgaredd Math Sail gyfreithiol
Eich cofrestru fel cwsmer newydd

(a) Hunaniaeth

(b) Cyswllt

Cyflawni contract â chi

Prosesu a danfon eich archeb gan gynnwys:

(a) Rheoli taliadau, ffioedd a chostau

(b) Casglu ac adennill arian sy'n ddyledus i ni

(a) Hunaniaeth

(b) Cyswllt

(c) Ariannol

(ch) Trafodion

(d) Marchnata a Chyfathrebu

(a) Cyflawni contract â chi

(b) Angenrheidiol ar gyfer ein buddiannau cyfreithlon (adennill dyledion sy'n ddyledus i ni)

Rheoli ein perthynas â chi, gan gynnwys:

(a) Eich hysbysu am newidiadau i'n telerau neu ein polisi preifatrwydd

(b) Gofyn i chi adael adolygiad neu wneud arolwg

(a) Hunaniaeth

(b) Cyswllt

(c) Proffil

(ch) Marchnata a Chyfathrebu

(a) Cyflawni contract â chi

(b) Angenrheidiol er mwyn cydymffurfio â rhwymedigaeth gyfreithiol

(c) Angenrheidiol ar gyfer ein buddiannau cyfreithlon (diweddaru ein cofnodion ac astudio sut y mae cwsmeriaid yn defnyddio ein cynhyrchion/gwasanaethau)

Eich galluogi i gymryd rhan mewn cystadleuaeth i ennill gwobr neu gwblhau arolwg

(a) Hunaniaeth

(b) Cyswllt

(c) Proffil

(a) Cyflawni contract â chi

(b) Angenrheidiol ar gyfer ein buddiannau cyfreithlon (i astudio sut y mae cwsmeriaid yn defnyddio ein cynhyrchion/gwasanaethau, i'w datblygu a thyfu ein busnes)

(ch) Defnydd

(d) Marchnata a Chyfathrebu

Gweinyddu a diogelu ein busnes a'r wefan hon (gan gynnwys datrys problemau, dadansoddi data, profi, cynnal a chadw'r system, darparu cymorth, llunio adroddiadau a gwesteia data)

(a) Hunaniaeth

(b) Cyswllt

(c) Technegol

(a) Angenrheidiol ar gyfer ein buddiannau cyfreithlon (i gynnal ein busnes, darparu gwasanaethau gweinyddu a TG, diogelwch y rhwydwaith, i atal twyll ac yng nghyd-destun ad-drefnu busnes neu ymarfer ailstrwythuro grŵp)

(b) Angenrheidiol er mwyn cydymffurfio â rhwymedigaeth gyfreithiol

I ddarparu cynnwys gwefan a hysbysebion perthnasol i chi a mesur neu ddeall effeithiolrwydd y deunydd hysbysebu a gyflwynwn i chi

(a) Hunaniaeth

(b) Cyswllt

(c) Proffil

(ch) Defnydd

(d) Marchnata a Chyfathrebu

(dd) Technegol

Angenrheidiol ar gyfer ein buddiannau cyfreithlon (i astudio sut y mae cwsmeriaid yn defnyddio ein cynhyrchion/gwasanaethau, i'w datblygu, tyfu ein busnes a rhoi sail i'n strategaeth farchnata)
Defnyddio dadansoddeg data i wella ein gwefan, ein cynhyrchion/gwasanaethau, ein marchnata, ein perthynas â chwsmeriaid a'u profiadau

(a) Technegol

(b) Defnydd

 

 

 

 

Angenrheidiol ar gyfer ein buddiannau cyfreithlon (i ddiffinio mathau o gwsmeriaid ar gyfer ein cynhyrchion a'n gwasanaethau, i gadw ein gwefan yn gyfredol ac yn berthnasol, i ddatblygu ein busnes ac i roi sail i'n strategaeth farchnata)

Gwneud awgrymiadau ac argymhellion i chi am nwyddau neu wasanaethau a allai fod o ddiddordeb i chi

(a) Hunaniaeth

(b) Cyswllt

(c) Technegol

(ch) Defnydd

(d) Proffil

 Angenrheidiol ar gyfer ein buddiannau cyfreithlon (i ddatblygu ein cynhyrchion/gwasanaethau a thyfu ein busnes)

 

Marchnata

Rydym yn gwneud ein gorau i ddarparu dewisiadau i chi ynglŷn â sut y defnyddir rhai data personol penodol, yn enwedig ym maes marchnata a hysbysebu. Rydym wedi sefydlu'r mecanweithiau canlynol ar gyfer rheoli data personol: 

Cynigion hyrwyddo gennym ni

Gallwn ddefnyddio eich Data Hunaniaeth, Cyswllt, Technegol, Defnydd a Phroffil i ffurfio barn am yr hyn yr ydym yn meddwl y byddai ei eisiau neu ei angen arnoch, neu am yr hyn a allai fod o ddiddordeb i chi. Dyma sut yr ydym yn penderfynu pa gynhyrchion, gwasanaethau a chynigion a allai fod yn berthnasol i chi (rydym yn galw hyn yn farchnata).

Byddwch yn cael gohebiaeth farchnata gennym os ydych wedi gofyn am wybodaeth gennym neu wedi prynu nwyddau neu wasanaethau gennym neu wedi rhoi eich manylion i ni wrth gymryd rhan mewn cystadleuaeth neu gofrestru ar gyfer hyrwyddiad ac, ym mhob achos, nad ydych wedi dewis peidio â chael y math hwnnw o ddeunydd marchnata.

Marchnata trydydd parti

Byddwn yn gofyn am eich caniatâd penodol cyn rhannu eich data personol ag unrhyw gwmni y tu allan i'r Free Rein at ddibenion marchnata.

Optio allan

Gallwch ofyn i ni neu i drydydd partïon roi'r gorau i anfon negeseuon marchnata atoch unrhyw bryd drwy ddilyn y dolenni optio allan ar unrhyw neges farchnata a anfonir atoch neu drwy Gysylltu â ni unrhyw bryd.

Os ydych yn optio allan rhag cael y negeseuon marchnata hyn, ni fydd hyn yn berthnasol i ddata personol a ddarperir i ni o ganlyniad i brynu cynnyrch/gwasanaeth, cofrestru gwarant, profiad â chynnyrch/gwasanaeth na thrafodion eraill.

Cwcis

Gallwch ffurfweddu eich porwr i wrthod yr holl gwcis, neu rai ohonynt, neu i roi gwybod i chi pan fydd gwefannau'n gosod neu'n cyrchu cwcis. Os ydych wedi analluogi neu wrthod cwcis, sylwch y gallai fod rhai rhannau o'r wefan hon yn anhygyrch neu ddim yn gweithio'n iawn. I gael mwy o wybodaeth am y cwcis a ddefnyddiwn, gweler https://wales.business-events.org.uk/en/information/our-use-of-cookies/.

Newid diben

Dim ond at y diben y cafodd ei gasglu y byddwn yn defnyddio eich data personol, oni bai ein bod o farn resymol bod angen i ni eu defnyddio am reswm arall a bod y rheswm hwnnw'n gydnaws â'r diben gwreiddiol. Os hoffech gael esboniad ynglŷn â sut mae'r prosesu at y diben newydd yn gydnaws â'r diben gwreiddiol, Cysylltwch â ni.

Os bydd angen i ni ddefnyddio eich data personol at ddiben nad yw'n gysylltiedig, byddwn yn eich hysbysu ac yn esbonio'r sail gyfreithiol sy'n caniatáu i ni wneud hynny.

Sylwch y gallem brosesu eich data personol heb i chi wybod na rhoi caniatâd, yn unol â'r rheolau uchod, os yw'r gyfraith yn mynnu hyn.

 

  1. Datgelu eich data personol

Mae'n bosibl y bydd rhaid i ni rannu eich data personol â'r partïon a enwir isod at y dibenion a nodwyd ym mharagraff 4 uchod.

Fel arall, gallem geisio caffael busnesau eraill neu uno â hwy. Os bydd newid yn digwydd i'n busnes, caiff y perchenogion newydd ddefnyddio eich data personol yn yr un modd ag y nodir yn yr hysbysiad preifatrwydd hwn.

Rydym yn mynnu bod pob trydydd parti yn parchu diogelwch eich data personol ac yn ei drin yn unol â'r gyfraith. Nid ydym yn caniatáu i'n darparwyr gwasanaethau trydydd parti ddefnyddio eich data personol at eu dibenion eu hunain; dim ond at ddibenion penodol, ac yn unol â'n cyfarwyddiadau ni, yr ydym yn caniatáu iddynt brosesu eich data personol.

 

  1. Trosglwyddiadau rhyngwladol

Nid ydym yn trosglwyddo eich data personol y tu allan i Ardal Economaidd Ewrop (AEE). Os dewiswn ddefnyddio trydydd parti y tu allan i AEE unrhyw bryd yn y dyfodol, byddwn yn diweddaru'r polisi hwn ac yn rhoi gwybod am hynny i bob sefydliad ac unigolyn sy'n gleient neu sydd wedi rhoi caniatâd i ni i gyfathrebu â hwy os nad ydynt yn gleientiaid presennol (neu yn y gorffennol agos)

 

  1. Diogelwch data

Gan fod ein gwaith yn cynnwys trin a gwesteia prosiectau data ar gyfer llywodraeth ganolog a lleol, yn ogystal â phrosiectau masnachol sy'n cynnwys data sensitif, rydym wedi mabwysiadu diwylliant diogelwch llym i'w ddefnyddio ar gyfer ein holl gleientiaid a'n holl waith.

Rydym wedi sefydlu mesurau diogelwch priodol i atal eich data personol rhag cael ei golli ar ddamwain, ei ddefnyddio neu ei gyrchu heb awdurdod, ei addasu na'i ddatgelu. Rydym hefyd yn cyfyngu ar fynediad at eich data personol i'r gweithwyr, yr asiantau, y contractwyr a'r trydydd partïon eraill sydd ag angen gwybod am resymau busnes. Rhaid i'r rhain lynu at ein cyfarwyddiadau ni wrth brosesu eich data personol, ac mae ganddynt ddyletswydd o gyfrinachedd.

Rydym wedi sefydlu gweithdrefnau i ymdrin ag unrhyw achos lle amheuir bod data personol wedi'u camddefnyddio, a byddwn yn eich hysbysu chi ac unrhyw reoleiddiwr perthnasol ynglŷn ag unrhyw achos o'r fath lle bo hynny'n ofynnol gan y gyfraith.

 

  1. Cadw data

Am ba mor hir y byddwch chi'n defnyddio fy nata personol?

Ni fyddwn yn cadw eich data personol am ddim hwy nag sy'n angenrheidiol i gyflawni'r dibenion y casglwyd y data ar eu cyfer, gan gynnwys at ddibenion bodloni unrhyw ofynion o ran y gyfraith, cyfrifeg, neu lunio adroddiadau.

I benderfynu beth sy'n gyfnod priodol i gadw data personol, rydym yn ystyried faint o ddata personol sydd, eu natur a'u sensitifrwydd, y risg posibl o niwed oherwydd defnyddio neu ddatgelu eich data personol heb awdurdod, at ba ddibenion yr ydym yn prosesu eich data personol ac a allwn gyflawni'r dibenion hynny mewn ffyrdd eraill, a'r gofynion cyfreithiol perthnasol.

Mae'r gyfraith yn dweud bod rhaid i ni gadw gwybodaeth sylfaenol am ein cwsmeriaid (gan gynnwys Data Cyswllt, Hunaniaeth, Ariannol a Thrafodion) am saith mlynedd ar ôl iddynt orffen bod yn gwsmeriaid at ddibenion treth. Mae cyfyngiad caeth ar fynediad at eich data yn y cyfnod hwn o fewn y Cwmni.

Dan rai amgylchiadau gallwch ofyn i ni ddileu eich data: gweler Gwneud cais am ddileu isod am wybodaeth bellach.

Dan rai amgylchiadau, gallem wneud eich data personol yn ddienw (fel na allant gael eu cysylltu â chi mwyach) at ddibenion ymchwil neu ystadegau, ac yn yr achos hwn, cawn barhau i ddefnyddio'r wybodaeth hon am gyfnod amhendant heb eich hysbysu ymhellach.

 

  1. Eich hawliau cyfreithiol

Dan rai amgylchiadau penodol, mae gennych hawliau o dan ddeddfau diogelu data mewn perthynas â'ch data personol. Gweler y rhestr a'r disgrifiadau yn yr Eirfa isod.

Os hoffech arfer unrhyw hawliau sydd wedi'u nodi uchod, cysylltwch â ni naill ai drwy ffonio +44 (0) 1473 810002 neu drwy anfon e-bost i gdpr@free-rein.net

Ni fydd rhaid i chi dalu ffi i gael gweld eich data personol (nac i arfer unrhyw un arall o'r hawliau). Fodd bynnag, cawn godi ffi resymol os yw eich cais yn amlwg yn ddi-sail, yn ailadroddus neu'n ormodol. Fel arall, cawn wrthod cydymffurfio â'ch cais dan yr amgylchiadau hyn.

Beth y gallai fod ei angen arnom gennych

Gallai fod arnom angen gofyn am wybodaeth benodol gennych i'n helpu i gadarnhau pwy ydych ac i sicrhau eich hawl i weld eich data personol (neu i arfer unrhyw un arall o'ch hawliau). Mesur diogelwch yw hwn i sicrhau na ddatgelir data personol i neb sydd heb hawl i'w cael. Efallai y byddwn hefyd yn cysylltu â chi i ofyn am wybodaeth bellach ynglŷn â'ch cais er mwyn cyflymu ein hymateb.

Cyfyngiad amser i ymateb

Rydym yn ceisio ymateb i bob cais cyfiawn o fewn mis. Yn achlysurol, gallai gymryd dros fis i ni os yw eich cais yn arbennig o gymhleth neu os ydych wedi gwneud nifer o geisiadau. Os felly, byddwn yn eich hysbysu ac yn eich diweddaru'n rheolaidd.

 

  1. Geirfa

Sail gyfreithlon

Mae Budd Cyfreithlon yn golygu budd ein busnes o ran cynnal a rheoli ein busnes i'n galluogi i roi'r gwasanaeth/cynnyrch gorau i chi a'r profiad gorau a mwyaf diogel. Rydym yn gwneud yn siŵr ein bod yn ystyried ac yn cydbwyso unrhyw effaith bosibl arnoch chi (yn gadarnhaol ac yn negyddol) a'ch hawliau cyn i ni brosesu eich data personol at ein buddion cyfreithlon ni. Nid ydym yn defnyddio eich data personol ar gyfer gweithgareddau lle mae'r effaith arnoch chi'n drech na'n buddion ni (oni bai ein bod wedi cael eich caniatâd neu bod y gyfraith fel arall yn mynnu neu'n caniatáu i ni wneud hynny). Gallwch gael gwybodaeth bellach ynglŷn â sut yr ydym yn asesu ein buddion cyfreithlon yn erbyn unrhyw effaith bosibl arnoch chi mewn perthynas â gweithgareddau penodol drwy Gysylltu â ni.

Mae Cyflawni Contract yn golygu prosesu eich data lle bo angen er mwyn cyflawni contract yr ydych wedi cytuno ag ef, neu gymryd camau ar gais gennych chi cyn cytuno â chontract o'r fath.

Mae cydymffurfio â rhwymedigaeth gyfreithiol neu reoleiddiol yn golygu prosesu eich data personol lle bo hynny'n angenrheidiol er mwyn cydymffurfio â rhwymedigaeth gyfreithiol neu reoleiddiol sy'n berthnasol i ni.

Trydydd partïon

Trydydd partïon allanol

Eich hawliau cyfreithiol

Mae gennych yr hawl i wneud y canlynol:

Gofyn am gael gweld eich data personol (yr enw cyffredin am hyn yw "cais am fynediad gan wrthrych y data"). Mae hyn yn eich galluogi i gael copi o'r data personol a gadwn amdanoch ac i wirio ein bod yn eu prosesu'n gyfreithlon.

Gofyn am gywiro'r data personol a gadwn amdanoch. Mae hyn yn eich galluogi i sicrhau ein bod yn cywiro unrhyw ddata anghyflawn neu anghywir a gadwn amdanoch, er y gallai fod angen i ni wirio cywirdeb y data newydd a rowch i ni.

Gofyn am ddileu eich data personol. Mae hyn yn eich galluogi i ofyn i ni ddileu neu gael gwared ar ddata personol os nad oes rheswm da i ni barhau i'w prosesu. Mae gennych hawl hefyd i ofyn i ni ddileu neu gael gwared ar eich data personol os ydych wedi llwyddo i arfer eich hawl i wrthwynebu eu prosesu (gweler isod), os ydym o bosibl wedi prosesu eich data'n anghyfreithlon neu os yw'n ofynnol i ni ddileu eich data personol i gydymffurfio â chyfraith leol. Sylwch, fodd bynnag, ei bod yn bosibl na fyddwn yn gallu cydymffurfio â'ch cais i ddileu am resymau cyfreithiol penodol; os felly, cewch wybod hyn ar adeg eich cais.

Gwrthwynebu prosesu eich data personol os ydym yn dibynnu ar fudd cyfreithlon (neu fudd cyfreithlon i drydydd parti) a bod rhywbeth am eich sefyllfa benodol chi sy'n golygu eich bod am wrthwynebu eu prosesu ar y sail hon gan eich bod yn teimlo bod hynny'n effeithio ar eich hawliau a'ch rhyddid sylfaenol. Mae gennych hawl hefyd i wrthwynebu os ydym yn prosesu eich data personol at ddibenion marchnata uniongyrchol. Mewn rhai achosion, efallai y gallwn ddangos bod gennym sail gyfreithlon gref i brosesu eich gwybodaeth sy'n drech na'ch hawliau a'ch rhyddid chi.

Gofyn am gyfyngiad ar brosesu eich data personol. Mae hyn yn eich galluogi i ofyn i ni ohirio prosesu eich data personol yn y senarios canlynol: (a) os ydych am i ni sefydlu cywirdeb y data; (b) os yw'n anghyfreithlon i ni ddefnyddio'r data ond nad ydych am i ni eu dileu; (c) os oes arnoch angen i ni gadw'r data hyd yn oed os nad oes eu hangen arnom mwyach gan fod eu hangen arnoch chi er mwyn sefydlu, arfer neu amddiffyn hawliadau cyfreithiol; neu (ch) os ydych wedi gwrthwynebu i ni ddefnyddio eich data ond bod angen i ni wirio a oes gennym sail gyfreithlon drechol i'w defnyddio.

Gofyn am drosglwyddo eich data personol i chi neu i drydydd parti. Byddwn yn darparu i chi, neu i drydydd parti yr ydych wedi'i ddewis, eich data personol mewn fformat strwythuredig a chyffredin y gall peiriant ei ddarllen. Sylwch nad yw'r hawl hon ond yn berthnasol i wybodaeth awtomataidd yr ydych yn wreiddiol wedi rhoi caniatâd i ni ei defnyddio neu lle'r ydym wedi defnyddio'r wybodaeth i gyflawni contract â chi.

Tynnu caniatâd yn ôl unrhyw bryd os ydym yn dibynnu ar ganiatâd i brosesu eich data personol. Fodd bynnag, ni fydd hyn yn effeithio ar gyfreithlondeb unrhyw brosesu a wnaethpwyd cyn i chi dynnu eich caniatâd yn ôl. Os ydych yn tynnu eich caniatâd yn ôl, mae'n bosibl na fyddwn yn gallu darparu rhai cynhyrchion neu wasanaethau i chi. Byddwn yn rhoi gwybod i chi os yw hyn yn wir pan fyddwch yn tynnu eich caniatâd yn ôl.