[ Neidio i Gynnwys ]

Cyflwyniad i’r Economi Gylchol

Bydd y sesiwn hwn yn cael ei gyflwyno yn Saesneg

Trosolwg

Cost: Am ddim

Cyflwyniad i’r Economi Gylchol (Gweithdy 3 o 3) 

Deall sut y gallai modelau busnes economi gylchol ddarparu llwybr amgen i dŵf ac allforio i Ewrop

Beth fydd cynnwys y cwrs?   

Cychwyn ar daith drawsnewidiol tuag at gynaliadwyedd gyda'n gweithdy hanner diwrnod ar yr Economi Gylchol. Datgelu pŵer meddwl cylchol, wrth i ni eich tywys trwy strategaethau arloesol ac ymarferol, gan feithrin dyfodol lle mae adnoddau'n cael eu gwerthfawrogi, lle mae gwastraff yn cael ei leihau, ac archwilio ffyrdd o ddarparu'ch cynyrch a'ch gwasanaethau.  

Pynciau:  

  • Cyflwyniad i'r Economi Gylchol  

  • Egwyddorion Dylunio Cylchol  

  • Strategaethau Lleihau Gwastraff ac Ailgylchu  

  • Modelau Busnes Cylchol  

  • Trafodaethau Rhyngweithiol  

Ar gyfer pwy mae'r digwyddiad?  

Busnesau sy’n dymuno mabwysiadu agweddau economi cylchol wrth gaffael gwaith er mwyn galluogi busnesau i fod yn fwy cynaliadwy wrth ddarparu buddion busnes.  

Mae caffael cylchol yn canolbwyntio ar gau dolenni ynni a deunydd o fewn cadwyni cyflenwi, gan greu galw am nwyddau wedi'u hail-weithgynhyrchu neu ailddefnyddio.  

Cefndir y siaradwr - Rebecca Colley- Jones  

Mae Rebecca yn arbenigwraig economi cylchol a chynaliadwyedd profiadol sydd â chymwysterau proffesiynol a chyfoeth o wybodaeth mewn rheoli adnoddau, yn amrywio o ddealltwriaeth ddeddfwriaethol i gymhwysiad ymarferol a datblygiad busnes. Mae ganddi PhD mewn Economi Cylchol, MBA mewn Rheolaeth Amgylcheddol, a chan ei bod yn Rheolwr Gwastraff Siartredig ac yn Gymrawd CIWM, mae ganddi sylfaen gadarn. Mae ei harloesedd a'i phrofiad fel arbenigwr adnoddau yn ysgogi ei hymrwymiad i greu dyfodol mwy effeithlon o ran adnoddau. Drwy gydol ei gyrfa, mae hi wedi rhoi atebion rheoli gwastraff ac adnoddau ar waith yn effeithiol ar gyfer busnesau.   

Yn cael ei chydnabod am ei dawn fel cyfathrebwr a rhwydwaithiwr, mae gan Rebecca hanes o feithrin partneriaethau dyfeisgar rhwng busnesau, sefydliadau academaidd, llywodraethau lleol, a chyrff cenedlaethol. Mae ei medrusrwydd wrth deilwra atebion i anghenion busnes unigol yn tanlinellu ei rhyngweithiadau llwyddiannus.  

 

Cynaladwyedd yn eich busnes (Gweithdy 1 o 3) 

Gwerth Cymdeithasol (Gweithdy 2 o 3) 

Dyddiadau

2 Gorffennaf 2024, 09:30 - 12:30
Digwyddiad ar-lein

Cost: Am ddim

Mae archebu lle ar gyfer y digwyddiad hwn ar gau erbyn hyn.

Termau

Gweler yma i weld sut mae Busnes Cymru yn trin eich gwybodaeth . Os ydych yn archebu lle ar ddigwyddiad Busnes Cymru neu Lywodraeth Cymru , mae'n bosibl y byddwn yn defnyddio'r wybodaeth a rowch i gynnig gwasanaethau personol neu leol chi , i roi gwybod i chi am newidiadau i'n gwasanaeth , i ofyn eich barn ac i helpu ni i wella ein gwasanaethau .

Mae wefannau y byddwn yn cysylltu â nhw yn debygol o fod gyda Thelerau ac Amodau sy'n wahanol i'n rhai ni . Peidiwch â chymryd yn ganiataol bod ein Telerau ac Amodau yn berthnasol i wefannau eraill.

Trefnydd y digwyddiad

Busnes Cymru
Sarn Mynach
Llandudno Junction
Conwy
LL31 9RZ
United Kingdom: Wales


03000 6 03000
E-bost | Gwefan