[ Neidio i Gynnwys ]

Cynaladwyedd yn eich busnes

Bydd y sesiwn hwn yn cael ei gyflwyno yn Saesneg

Trosolwg

Cost: Am ddim

Gwreiddio cynaladwyedd yn eich busnes bob dydd - egluro'r prif gysyniadau i ddangos sut y gall eich busnes ddod yn un adferol.  
 

Beth fydd cynnwys y cwrs?   

Nid sesiwn yn unig yw ein cwrs hanner diwrnod ar gynaliadwyedd; mae'n daith tuag at ddyfodol wyrdd a chyfrifol. O baratoi i gyflwyno, rydym yn meithrin ymwybyddiaeth, yn ysbrydoli gweithredu, ac yn annog newid. Gadewch i ni lunio yfory cynaliadwy gyda'n gilydd.  

Pynciau dan sylw:  

  • Datblygu Economaidd Cynaliadwy  

  • Sut i ymgorffori cynaliadwyedd yn eich diwylliant busnes.  

  • Cyfrifoldeb Cymdeithasol ac Arferion Moesegol   

  • Beth yw Net Zero?  

  • Holi ac Ateb a Thrafodaethau Rhyngweithiol  

Ar gyfer pwy mae'r digwyddiad?  

Busnesau sydd eisiau llunio sut mae adnoddau allweddol fel ynni, carbon, dŵr, deunyddiau a gwastraff yn cael eu defnyddio ym mhob rhan o’r gadwyn gyflenwi.  

Mae busnesau sy'n dechrau gweithredu arferion cynaliadwy bron ar unwaith yn sylwi ar ostyngiad yn eu galw am ynni a'r gwastraff y maent yn ei gynhyrchu.  

Cefndir y siaradwr - Rebecca Colley- Jones  

Mae Rebecca yn arbenigwraig economi cylchol a chynaliadwyedd profiadol sydd â chymwysterau proffesiynol a chyfoeth o wybodaeth mewn rheoli adnoddau, yn amrywio o ddealltwriaeth ddeddfwriaethol i gymhwysiad ymarferol a datblygiad busnes. Mae ganddi PhD mewn Economi Cylchol, MBA mewn Rheolaeth Amgylcheddol, a chan ei bod yn Rheolwr Gwastraff Siartredig ac yn Gymrawd CIWM, mae ganddi sylfaen gadarn. Mae ei harloesedd a'i phrofiad fel arbenigwr adnoddau yn ysgogi ei hymrwymiad i greu dyfodol mwy effeithlon o ran adnoddau. Drwy gydol ei gyrfa, mae hi wedi rhoi atebion rheoli gwastraff ac adnoddau ar waith yn effeithiol ar gyfer busnesau.   

Yn cael ei chydnabod am ei dawn fel cyfathrebwr a rhwydwaithiwr, mae gan Rebecca hanes o feithrin partneriaethau dyfeisgar rhwng busnesau, sefydliadau academaidd, llywodraethau lleol, a chyrff cenedlaethol. Mae ei medrusrwydd wrth deilwra atebion i anghenion busnes unigol yn tanlinellu ei rhyngweithiadau llwyddiannus.  

 

Gwerth Cymdeithasol (Gweithdy 2 o 3) 

Cyflwyniad i’r Economi Gylchol (Gweithdy 3 o 3) 

Dyddiadau

16 Gorffennaf 2024, 09:30 - 12:30
Digwyddiad ar-lein

Cost: Am ddim

Termau

Gweler yma i weld sut mae Busnes Cymru yn trin eich gwybodaeth . Os ydych yn archebu lle ar ddigwyddiad Busnes Cymru neu Lywodraeth Cymru , mae'n bosibl y byddwn yn defnyddio'r wybodaeth a rowch i gynnig gwasanaethau personol neu leol chi , i roi gwybod i chi am newidiadau i'n gwasanaeth , i ofyn eich barn ac i helpu ni i wella ein gwasanaethau .

Mae wefannau y byddwn yn cysylltu â nhw yn debygol o fod gyda Thelerau ac Amodau sy'n wahanol i'n rhai ni . Peidiwch â chymryd yn ganiataol bod ein Telerau ac Amodau yn berthnasol i wefannau eraill.

Trefnydd y digwyddiad

Busnes Cymru
Sarn Mynach
Llandudno Junction
Conwy
LL31 9RZ
United Kingdom: Wales


03000 6 03000
E-bost | Gwefan