[ Neidio i Gynnwys ]

ColegauCymru / CollegesWales

Elusen addysg ôl-16 sy’n rhoi amlygrwydd i golegau addysg bellach yng Nghymru yw ColegauCymru. Rydym yn gorff dielw sy’n cael ei arwain gan ein haelodau. Fe’n sefydlwyd yn 1995 gan y colegau i weithio dros y colegau. Ar hyn o bryd, mae pob coleg yng Nghymru, sef y 12 coleg yn aelodau o ColegauCymru.

Cwmni Preifat Cyfyngedig yw Fforwm Services Limited. Mae’n is-gwmni sy’n berchen yn llwyr i ColegauCymru ac mae wedi’i gofrestru â ThÅ·’r Cwmnïau. Drwy fod yn llais torfol, rydym yn cynrychioli ac yn hyrwyddo buddiannau colegau ar lefel cenedlaethol.

Mae’r sector addysg bellach yn hollbwysig wrth helpu i gyflawni amcanion Llywodraeth Cymru, sef ehangu cyfranogiad, mynd i’r afael ag allgáu cymdeithasol, ac ysgogi adfywio economaidd.

Trefnydd y digwyddiad

ColegauCymru / CollegesWales
Unit 7 Cae Gwyrdd
Greenmeadow Springs
Tongwynlais
Cardiff
CF15 7AB
United Kingdom: Wales


02920528394
E-bost | Gwefan