Fordwyaeth
Mae Hwb Menter Ffocws y Drenewydd yn le i entrepreneuriaid gael cymorth i'w helpu i wireddu eu potensial busnes mewn man gweithio ysbrydoledig, cyfeillgar a chymunedol.
Yn ogystal â Mentora Busnes rydym yn darparu man gweithio gwych. Mae Hybiau Menter Ffocws yn darparu rhaglen gymorth siwrnai lawn, sydd â'r nod o fodloni anghenion bob entrepreneur, boed yn fusnes sy'n megis dechrau arni neu'n awyddus i ehangu. Ymunwch â ni am ystod eang o weithdai a digwyddiadau rhyngweithiol a ddarperir gyda grŵp trawiadol o bartneriaid, yn cynnwys Tramshed Tech, Robert Owen Community Banking Fund, Prifysgol Cymru y Drindod Dewi Sant, Prifysgol Aberystwyth a Choleg Ceredigion.
Mae'r digwyddiadau a ddarperir neu a gynhelir gan raglen Hybiau Menter Ffocws Llywodraeth Cymru am ddim ac yn agored i bobl o bob oedran, ond rhaid archebu lle ymlaen llaw. Mae'r niferoedd yn brin a disgwyliwn alw mawr am lefydd, felly archebwch yn gynnar i ddiogelu'ch lle.
Mae Hwb Menter Ffocws y Drenewydd wedi’i ariannu’n rhannol gan Gronfa Datblygu Ranbarthol Ewrop trwy Lywodraeth Cymru.
Am ragor o wybodaeth ynglŷn â Hybiau Menter Ffocws a'r rhaglen gymorth, ewch i