Fordwyaeth
Cost: Am ddim
Ymunwch â ni yn Theatr y Stiwdio Glan yr Afon Casnewydd ddydd Iau Mai 9fed ar gyfer arddangosfa o brosiect llwyddiannus 'Iawn', sydd wedi bod yn gweithio ochr yn ochr â dynion ifanc ledled Cymru dros y flwyddyn ddiwethaf i ddod â thrais yn erbyn menywod, cam-drin domestig, a thrais rhywiol (VAWDASV) i ben.
Mae Strategaeth VAWDASV Llywodraeth Cymru 2022-2026 yn nodi ymrwymiad i wneud ymyrraeth gynnar ac atal yn flaenoriaeth ac i annog y rhai a allai fynd ymlaen i ymddwyn yn ymosodol i newid.
Yn canolbwyntio ar ymyrraeth gynnar, atal, a thrafodaethau ynghylch ymddygiadau iach mewn perthnasoedd, bydd y digwyddiad yn tynnu sylw at waith Iawn, sydd wedi ennill gwobrau, a’i ddull arloesol o ymgysylltu â’r gymuned.
Drysau am 6.30pm, gyda diod croeso a thamaid i'w fwyta wrth gyrraedd.
Bydd y noson yn cynnwys darllediad cyntaf unrhywle yn y byd o’r rhaglen ddogfen ‘Sound Lad’, a grëwyd ar y cyd ag It’s my Shout, ochr yn ochr â sesiwn holi-ac-ateb ecsgliwsif gyda chyfranwyr, criw, a gwesteion arbennig y Criw Iawn.
Cyrraedd yno:
I'w nodi - bydd ffilmio a ffotograffiaeth yn digwydd yn y digwyddiad hwn at ddibenion hyrwyddo ac archifol.
Gweler yma i weld sut mae Llywodraeth Cymru yn trin eich gwybodaeth . Os ydych yn archebu lle ar ddigwyddiad Busnes Cymru neu Lywodraeth Cymru , mae'n bosibl y byddwn yn defnyddio'r wybodaeth a rowch i gynnig gwasanaethau personol neu leol chi , i roi gwybod i chi am newidiadau i'n gwasanaeth , i ofyn eich barn ac i helpu ni i wella ein gwasanaethau .
Mae wefannau y byddwn yn cysylltu â nhw yn debygol o fod gyda Thelerau ac Amodau sy'n wahanol i'n rhai ni . Peidiwch â chymryd yn ganiataol bod ein Telerau ac Amodau yn berthnasol i wefannau eraill.
Llywodraeth Cymru
Swyddfeydd Llywodraeth Cymru / Welsh Government Offices
Parc Cathays / Cathays Park
Caerdydd / Cardiff
CF10 3NQ
United Kingdom