[ Neidio i Gynnwys ]

Defnyddio gwrthgorff IgG fel Bio-marciwr i safoni'r llaeth

Trosolwg

Cost: Am ddim

Mae lloi yn colli eu gallu i amsugno gwrthgyrff yn ystod oriau cyntaf eu bywyd. Ar ôl 10 awr mae gallu’r llo i amsugno digon o IgG yn cael ei leihau’n sylweddol ac erbyn 20 awr ar ôl genedigaeth, credir bod y gallu hwn bron â diflannu. Fodd bynnag, mae'r ymchwil diweddaraf wedi dangos bod yna fudd mewn bwydo llaeth wedi'i basteureiddio wedi'i gyfoethogi i loi am y 10 diwrnod cyntaf, yn hytrach na llaeth nad yw wedi'i gyfoethogi.

 

Er mwyn mynychu’r digwyddiad hwn, cofrestrwch isod erbyn 4yp ar 12/06/24 neu cysylltwch â Simon Pitt: simon.pitt@menterabusnes.co.uk / 07939 177 935

*Sicrhewch eich bod yn cwblhau pob cam yn y broses o 1 i 4 er mwyn archebu eich lle. Byddwch yn gweld neges “Diolch” unwaith y bydd pob cam wedi’i gwblhau.*

Dyddiadau a lleoliadau

30 Gorffennaf 2024, 11:00 - 14:30
Escalwen, Abergwaun / Fishguard, SA62 5XD

Cost: Am ddim

Gweld lleoliad

Termau

Telerau Busnes

Mae eich preifatrwydd yn bwysig i Cyswllt Ffermio ac yn unol â'r rheoliad diogelu data cyffredinol (GDPR), mae hysbysiad preifatrwydd digwyddiadau yn rhoi gwybod i chi pam ein bod yn casglu, defnyddio a phrosesu eich gwybodaeth a phwy fydd yn cael mynediad iddi. Drwy archebu lle ar gwrs neu ddigwyddiad Cyswllt Ffermio, rydych yn derbyn y telerau a'r amodau hyn.

Drwy drefnu lle yn un o ddigwyddiadau/cyrsiau Cyswllt Ffermio neu Lywodraeth Cymru, rydych yn derbyn telerau ac amodau cyffredinol defnyddio gwasanaethau ar-lein Llywodraeth Cymru, ac yn derbyn Hysbysiad Prosesu Teg Cyswllt Ffermio.
Gallwn hefyd ddefnyddio'r wybodaeth rydych yn ei rhoi i gynnig gwasanaethau personol neu leol i chi, rhoi gwybod i chi am newidiadau i'n gwasanaeth, holi eich barn a'n helpu i wella ein gwasanaethau.
Mae'n debygol y bydd gan wefannau rydym yn rhoi dolen iddynt Delerau ac Amodau sy'n wahanol i'n rhai ni. Peidiwch â thybio bod ein Telerau ac Amodau yn berthnasol i wefannau eraill.
Mae cynrychiolwyr yn cydnabod bod deunyddiau cyrsiau a rhaglenni neu gopïau ohonynt yn eiddo i ddarparwyr hyfforddiant ac y gallant fod yn destun hawlfraint. Cytunir na fydd cynrychiolydd na'i gorff noddi yn copïo'r deunyddiau hynny, yn llawn neu'n rhannol, heb gael caniatâd ysgrifenedig darparwr yr hyfforddiant.
Rydym yn cadw'r hawl i ganslo neu ddiwygio amser y sesiynau hyn unrhyw bryd hyd at amser dechrau'r sesiwn; rhoddir gwybodaeth unigol am bob cwrs.
Gall cynrychiolwyr hefyd ganslo eu lle unrhyw bryd drwy ddilyn y ddolen yn yr e-bost a gawsant fel cadarnhad neu drwy gysylltu â'r Ganolfan Gwasanaethau.
Mae Canolfan Gwasanaethau Cyswllt Ffermio ar agor o ddydd Llun i ddydd Gwener rhwng 09:00 a 17:00 ac eithrio Gwyliau Cyhoeddus.
I gael rhagor o wybodaeth am Gyswllt Ffermio, ewch i'n gwefan neu ffoniwch ni ar 08456 000 813.
Mae'r cyfeiriadur yn cynnwys gwybodaeth am ddigwyddiadau sy'n cael eu cynnig gan Gyswllt Ffermio, Llywodraeth Cymru a darparwyr eraill yn y sector cyhoeddus a phreifat. Nid ydym yn gyfrifol am wybodaeth am ddigwyddiadau sy'n cael eu cynnig gan ddarparwyr eraill ac ni allwn gymryd cyfrifoldeb am yr hyn a allai ddigwydd pe baech yn gweithredu ar yr wybodaeth honno.

Trefnydd y digwyddiad

Farming Connect
Farming Connect
Unit 3, Science Park
Aberystwyth
SY23 3AH
United Kingdom: Wales


03456 000 813
E-bost | Gwefan