Fordwyaeth
Cost: Am ddim
Cwrs manwl am sut mae drafftio contractau ar gyfer eich busnes, gyda phwyslais ar sut i gael eich talu, sesiwn lawn ar wirio credyd er mwyn gweld gyda phwy ydych chi’n masnachu, yn ogystal â sut mae ymdrin ag achosion pan na chewch eich talu a chasglu dyledion.
Beth fydd cynnwys y cwrs?
Cwrs ymarferol yw hwn a gyflwynir gan Gyfreithiwr ac Ymarferydd Methdaliad Trwyddedig sydd â thros 25 mlynedd o brofiad o sicrhau bod ei chleientiaid yn cael eu talu! Mae'n llawn dop o awgrymiadau defnyddiol ac ymarferol wedi’u tynnu o brofiadau go iawn!
Dechreua’r cwrs hwn drwy drafod y camau contract syml ond hanfodol a addasir ar gyfer pob math o fusnes ar y cwrs er mwyn sicrhau bod eich gwaith papur yn ddigon da i chi allu dibynnu arno petai angen i chi olrhain dyled. Edrychir ar y ffordd y caiff eich contractau eu drafftio ac yna y ffordd fwyaf effeithiol o olrhain dyledion. Cofiwch mai eich arian chi yw dyled a bod eich cwsmer yn cael benthyciad am ddim gennych chi drwy beidio eich talu!
Wedi dweud hynny, bydd y cwrs hwn yn ymchwilio’n fanwl i sut mae osgoi problemau yn y lle cyntaf a bydd yn cynnwys sesiwn gwirio credyd arbenigol, fyw i weld yn union sut mae sylwi ymlaen llaw pwy sy’n wael am dalu biliau! Gallwch ofyn am gael gwirio credyd eich cwsmeriaid neu ddarpar gwsmeriaid, naill ai yn ystod y sesiwn neu drwy e-bost ar ei hôl. Bydd y sesiwn wedi’i theilwra ac yn unigryw i’r busnes sy’n mynychu ac yn eich helpu chi rhag cymryd risgiau y mae modd eu hosgoi.
Os ydych chi’n masnachu ac yn rhoi credyd i’ch cwsmeriaid, yna mae mynychu’r cwrs hwn yn hollbwysig!
Bydd cyfleoedd i chi ofyn cwestiynau yn ystod y sesiwn ac yn breifat hefyd.
Mae'r gweithdy hwn yn berthnasol i bob busnes.
Nid Busnes Cymru sy’n cyflwyno’r digwyddiad hwn ar ran Llywodraeth Cymru.
Mae Busnes Cymru yn wasanaeth dwyieithog ac mae ein digwyddiadau a'n gweithdai ar gael yn y Gymraeg a'r Saesneg, ar ôl cofrestru, rhowch wybod i ni beth yw eich dewisiadau iaith.
Gweler yma i weld sut mae Busnes Cymru yn trin eich gwybodaeth . Os ydych yn archebu lle ar ddigwyddiad Busnes Cymru neu Lywodraeth Cymru , mae'n bosibl y byddwn yn defnyddio'r wybodaeth a rowch i gynnig gwasanaethau personol neu leol chi , i roi gwybod i chi am newidiadau i'n gwasanaeth , i ofyn eich barn ac i helpu ni i wella ein gwasanaethau .
Mae wefannau y byddwn yn cysylltu â nhw yn debygol o fod gyda Thelerau ac Amodau sy'n wahanol i'n rhai ni . Peidiwch â chymryd yn ganiataol bod ein Telerau ac Amodau yn berthnasol i wefannau eraill.
Busnes Cymru
Sarn Mynach
Llandudno Junction
Conwy
LL31 9RZ
United Kingdom: Wales