Fordwyaeth
Cost: Am ddim
Mae tîm Garddwriaeth Cyswllt Ffermio wedi trefnu’r cyfle hwn i Dyfwyr o Gymru ymweld â Gwinllannoedd sydd wedi sefydlu yn siroedd De Orllewin Lloegr, drwy Goleg Plumpton.
Bydd y daith ddeuddydd hon yn cynnwys:
Dydd Llun 10 Mehefin - Caint
Ymweliad y bore (gadael Coleg Plumpton am 08:30)
Gusbourne gyda Jon Pollard (Prif Reolwr y Winllan a COO) - Maent yn sylfaenwyr Gwinoedd Cynaliadwy Prydain Fawr
Cynhyrchwyr gwinoedd pefriog a llonydd gyda gwinllannoedd yng Nghaint a Gorllewin Sussex.
Amcanion Dysgu:
· Maent yn tyfu Pinot noir, Pinot meunier a Chardonnay gyda gwahanol ddulliau tocio a systemau rheoli canopi.
· Yn defnyddio compost.
· Yn lleihau defnydd o blaladdwyr a chwynladdwyr.
· Ymrwymiad i adfywio pridd.
Cinio a sesiwn blasu yn Gusbourne
Ymweliad y prynhawn
Oxney Organic Estate gyda Kristin Syltevik (perchennog)
Cynhyrchwyr gwinoedd pefriog a llonydd organig gyda 35 erw wedi’i ardystio fel tir organig fel rhan o ystâd ehangach y fferm (da byw ac âr).
Amcanion Dysgu:
· Maent yn tyfu Pinot noir, Pinot meunier a Chardonnay gan ddefnyddio cnydau gorchudd
· Chwistrellau naturiol
· Rheolaeth canopi diwyd
· Rheoli chwyn â llaw ac yn fecanyddol.
Yna bydd taith o amgylch y winllan a sesiwn blasu ar y diwedd.
Gyda’r nos
Byddwch yn cael pryd o fwyd yn The Hickstead Hotel, a bydd cyfle i chi rwydweithio a blasu gwin eich gilydd.
Dydd Mawrth 11 Mehefin – Sussex
Ymweliad y bore
Ystâd Ridgeview gyda Matt Strugnell (Pennaeth Gwinwyddaeth Ridgeview a Chadeirydd Gweithgor Gwinwyddaeth Gwin Prydain Fawr)
Maent yn cynhyrchu gwin pefriog o’r radd flaenaf ers 1995. Mae gan Ridgeview ei ystâd ei hunain ac maent yn prynu grawnwin i mewn, gyda Matt yn rheoli contractau a pherthnasoedd ar draws y de-ddwyrain. Mae Ridgeview yn bartneriaid blaenllaw gyda Siomi & Sirch, ac maent yn canolbwyntio ar docio yn y gaeaf a’r haf er lles iechyd a hirhoedledd gwinwydden.
Amcanion Dysgu:
· Contract yn tyfu
· Docio yn y gaeaf a’r haf er lles iechyd a hirhoedledd gwinwydden
Cinio a thaith o amgylch Plumpton Wine Division
Ymweliad y prynhawn
Everflyht gyda Luke Spalding (Rheolwr y Winllan a Rheolwr Cyffredinol)
Maent wedi sefydlu gyda Pinot noir, Pinot meunier a Chardonnay, ac maent wedi plannu Pinot Gris a Gamay o’r newydd. Mae Everflyht yn arloesol mewn gwinwyddaeth adfywiol, ac yn canolbwyntio ar reoli’r pridd, plannu cnydau gorchudd helaeth, rheoli tir sydd wedi’i neilltuo ar gyfer bioamrywiaeth.
Amcanion Dysgu:
· Gwinddiwylliant Atgynhyrchiol
· Rheoli Pridd
· Cnydau gorchudd helaelth
· Rheoli tir sydd wedi’i neilltuo ar gyfer bioamrywiaeth
Gorffen am 16:00
Os ydych yn dymuno aros yn Hickstead Hotel (lle bydd y pryd o fwyd nos Lun 10 Mehefin), mae eu cyfraddau fel a ganlyn:
Ystafell sengl:
Ystafell ddwbl:
Dyfynnwch y cod BK103235 i gael y prisiau hyn!
There are no spaces left on this event but you can add yourself to the reserve list.
Telerau Busnes
Mae eich preifatrwydd yn bwysig i Cyswllt Ffermio ac yn unol â'r rheoliad diogelu data cyffredinol (GDPR), mae hysbysiad preifatrwydd digwyddiadau yn rhoi gwybod i chi pam ein bod yn casglu, defnyddio a phrosesu eich gwybodaeth a phwy fydd yn cael mynediad iddi. Drwy archebu lle ar gwrs neu ddigwyddiad Cyswllt Ffermio, rydych yn derbyn y telerau a'r amodau hyn.
Drwy drefnu lle yn un o ddigwyddiadau/cyrsiau Cyswllt Ffermio neu Lywodraeth Cymru, rydych yn derbyn telerau ac amodau cyffredinol defnyddio gwasanaethau ar-lein Llywodraeth Cymru, ac yn derbyn Hysbysiad Prosesu Teg Cyswllt Ffermio.
Gallwn hefyd ddefnyddio'r wybodaeth rydych yn ei rhoi i gynnig gwasanaethau personol neu leol i chi, rhoi gwybod i chi am newidiadau i'n gwasanaeth, holi eich barn a'n helpu i wella ein gwasanaethau.
Mae'n debygol y bydd gan wefannau rydym yn rhoi dolen iddynt Delerau ac Amodau sy'n wahanol i'n rhai ni. Peidiwch â thybio bod ein Telerau ac Amodau yn berthnasol i wefannau eraill.
Mae cynrychiolwyr yn cydnabod bod deunyddiau cyrsiau a rhaglenni neu gopïau ohonynt yn eiddo i ddarparwyr hyfforddiant ac y gallant fod yn destun hawlfraint. Cytunir na fydd cynrychiolydd na'i gorff noddi yn copïo'r deunyddiau hynny, yn llawn neu'n rhannol, heb gael caniatâd ysgrifenedig darparwr yr hyfforddiant.
Rydym yn cadw'r hawl i ganslo neu ddiwygio amser y sesiynau hyn unrhyw bryd hyd at amser dechrau'r sesiwn; rhoddir gwybodaeth unigol am bob cwrs.
Gall cynrychiolwyr hefyd ganslo eu lle unrhyw bryd drwy ddilyn y ddolen yn yr e-bost a gawsant fel cadarnhad neu drwy gysylltu â'r Ganolfan Gwasanaethau.
Mae Canolfan Gwasanaethau Cyswllt Ffermio ar agor o ddydd Llun i ddydd Gwener rhwng 09:00 a 17:00 ac eithrio Gwyliau Cyhoeddus.
I gael rhagor o wybodaeth am Gyswllt Ffermio, ewch i'n gwefan neu ffoniwch ni ar 08456 000 813.
Mae'r cyfeiriadur yn cynnwys gwybodaeth am ddigwyddiadau sy'n cael eu cynnig gan Gyswllt Ffermio, Llywodraeth Cymru a darparwyr eraill yn y sector cyhoeddus a phreifat. Nid ydym yn gyfrifol am wybodaeth am ddigwyddiadau sy'n cael eu cynnig gan ddarparwyr eraill ac ni allwn gymryd cyfrifoldeb am yr hyn a allai ddigwydd pe baech yn gweithredu ar yr wybodaeth honno.
Farming Connect
Farming Connect
Unit 3, Science Park
Aberystwyth
SY23 3AH
United Kingdom: Wales